Diffinio tlodi - PowerPoint PPT Presentation

1 / 25
About This Presentation
Title:

Diffinio tlodi

Description:

Mae ganddo oblygiadau gwleidyddol llywodraethau ... Abel Smith a Townsend (1965) ... Beth sy'n gallu gwneud diffiniad o dlodi'n ffynhonnell dadl wleidyddol? ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:58
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 26
Provided by: JGRIF1
Category:
Tags: beth | diffinio | smith | tlodi

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Diffinio tlodi


1
Diffinio tlodi
  • Nodiadau Crynodeb

2
Gweithredolaeth
  • Mae tlodin gysyniad anodd ei weithredoli.
  • Mae ganddo oblygiadau gwleidyddol llywodraethau
    sydd i fod i ddelio â thlodi.
  • Mae ganddo oblygiadau cymdeithasol gall tlodi
    fod yn ffynhonnell cywilydd a statws isel i
    unigolion.

3
Tlodi llwyr
  • Mae hwn yn seiliedig ar fesur y lleiaf absoliwt y
    mae ar berson ei angen am oroesiad biolegol
  • - Bwyd
  • - Dwr
  • - Cynhesrwydd a lloches
  • - Dillad

4
Amddifadedd
  • Mae pobl sydd heb y modd i oroesin cael eu
    diffinio fel tlawd.
  • Defnyddiodd Seebohm Rowntree ddiffiniadau
    absoliwt o dlodi yn ei astudiaethau or tlawd yng
    Nghaerefrog.
  • Maer diffiniad hwn yn nodweddiadol o
    astudiaethau cynnar ar dlodi.

5
Pwnc trafod
  • Dywedodd Keith Joseph, gwleidydd Ceidwadol, 1976,
    Does fawr o dlodi ym Mhrydain heddiw, gan
    ddefnyddio mesuriad absoliwt o dlodi.
  • I ba raddau gallwch chi gytuno âr gosodiad hwn?
  • Pwy yn eich barn chi sydd mewn tlodi llwyr ym
    Mhrydain?

6
Problemau
  • Mae diffiniadau absoliwt yn tueddu o hyd i fod yn
    oddrychol am yr anghenion lleiaf y mae eu hangen
    er mwyn byw.
  • Mae arnom angen pethau ar gyfer iechyd meddwl er
    enghraifft llyfrau, teledu, anifeiliaid anwes
  • Mae safonau o ansawdd iechyd a bwyd derbyniol yn
    newid dros amser.

7
Tlodi cymharol
  • Tlodi cymharol yw pan gaiff pobl eu cymharu âr
    rhai ou cwmpas neu âr hyn y maen rhesymol
    disgwyl i eraill ei fforddio.
  • Maen gallu cynnwys diffyg
  • - Cyfleoedd addysgol
  • - Eiddo materol
  • - Gofal iechyd
  • - Tai o ansawdd da
  • - Hawliau Sifil
  • - Cyfleoedd cymdeithasol

8
Tlodi goddrychol
  • Mae hwn yn gysyniad nad ywn cael ei ddefnyddion
    aml ond syn seiliedig ar y syniad o dlodi a
    deimlir.
  • Mae pobl yn teimlon dlawd os oes gan y rhai ou
    cwmpas fwy na nhw.
  • Y bobl rydym yn mesur ein hun yn eu herbyn ywr
    grwp cyfeirio.
  • Yn y gorffennol, efallai roedd pobl yn amddifadus
    ond heb deimlon dlawd oherwydd nad oeddynt yn
    ymwybodol or hyn yr oedd gan eraill.
  • A ywn bosibl bod gan y teledu rôl wrth greu
    tlodi goddrychol?

9
Defnyddio diffiniadau or fath
  • Mae tlodin lluniad cymdeithasol ac felly mae hyn
    yn adlewyrchu safonau byw a disgwyliadau
    cyffredinol.
  • Maen ein helpu i ddeall dadleuon ehangach fel
    all-gau cymdeithasol.

10
Problemau gyda ddiffiniadau or fath
  • Nid yw hyn yn hawdd i bobl ei ddeall oherwydd bod
    y rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn nhermau tlodi
    llwyr mewn gwirionedd.
  • Mae diffiniadau cymharol yn tueddu i fesur
    anghydraddoldeb yn hytrach na thlodi.
  • Maen anodd cyrraedd diffiniad teg o dlodi naill
    ain ddigon uchel neun ddigon isel.
  • Pa mor aml y dylai diffiniadau or fath gael eu
    diweddaru?

11
Peter Townsend
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys enw'r dyn hwn
    yn eich atebion.
  • Ef ywr prif ymchwiliwr o Brydain yn y maes ers
    nifer o flynyddoedd.
  • Gallwch ddarganfod mwy trwy ymweld â
  • www.bris.ac.uk/poverty/

12
Abel Smith a Townsend (1965)
  • Gwnaethant gyflwyno cysyniadau o dlodi cymharol
    ir astudiaeth o dlodi ym Mhrydain.
  • Seiliwyd eu dull o fesur ar daliadau Nawdd
    Cymdeithasol.

13
Peter Townsend (1979)
  • Lluniodd restr o ddangosyddion amddifadedd ac
    wedyn dewisodd y 12 mwyaf dibynadwy yn ei farn ef
    a oedd yn dynodi amddifadedd.
  • Roedd y rhain yn cynnwys cyfle i gael gwyliau, y
    gallu i gynnig bwyd i ffrindiau, prinder partïon
    i blant, prinder cig ffres, prinder brecwast
    wedii goginio.
  • Roedd pobl ag incwm is yn tueddu i ddioddef
    amddifadedd sylweddol.

14
Piachaud (1981)
  • Nododd ef fod mynegai amddifadedd Townsend yn
    cynnwys pobl syn gwneud dewisiadau dull o fyw
    (llysieuwyr?)
  • Hawliodd ef fod peidio â chael rhewgell, er
    enghraifft, yn fwy arwyddocaol na pheidio â chael
    cig.
  • Mae hyn yn awgrymu nad yw mynegai Townsend mor
    wyddonol ag maen hawlio.

15
Mack a Lansley (1985)
  • Gwnaethant ddefnyddio dull o benderfynu ar restr
    o bethau angenrheidiol er mwyn byw gan ddarganfod
    bod 7.5 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi yn y DU.
    Roedd 22 eitem ar y rhestr hon, yn cynnwys
    cartref heb leithder a thripiau i blant.
  • Roedd cynnydd mewn safonau byw yn golygu bod 32
    eitem wedi cael eu defnyddio wrth ailadrodd yr
    astudiaeth yn 1990.

16
Falkingham a Hills (1995)
  • Maent yn mesur tlodi yn nhermaur gallu i fyw
    bywyd wedii nodweddu gan gyfranogiad bywiog yn y
    gymdeithas ynghyd â theimlad o sicrwydd.
  • Tlodi gallu yw hwn.
  • Mae hyn yn gysylltiedig â syniadau o all-gau
    cymdeithasol.

17
Dangosyddion cymdeithasol
  • Mae dangosyddion yn symptomau cymdeithasol o
    dlodi.
  • - Derbyn budd-daliadau dros y tymor hir
  • - Pwysau geni isel
  • - Cyrhaeddiad addysgol isel
  • - Diweithdra
  • - Hunanladdiad
  • - Peidio â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth

18
Howarth et al.
  • Gan ddefnyddio dull dangosyddion cymdeithasol,
    gwnaeth Howarth et al. ddarganfod bod tlodi ac
    anfantais wediu canolbwyntio mewn ardaloedd
    cymunedau arbennig.
  • Mae amddifadedd yn gysylltiedig â dosbarth
    cymdeithasol gydar ddau ddangosydd isaf o
    ddosbarth yn dangos cyfraddau uwch o
  • - Hunanladdiad dynion ifanc
  • - Genedigaethau dan bwysau
  • - Crynhoi mewn ysgolion penodol
  • - Tebygrwydd o fod yn famau cynamserol
  • - Iselder a salwch y meddwl
  • - Bod yn ddioddefwyr

19
Dulliau Anghydraddoldeb
  • Rydym yn byw mewn diwylliant lle mae llawer o
    bobl yn mwynhau safonau byw uchel iawn.
  • Mae gan rai pobl lefelau uchel o incwm a gwario.
  • Maer dull hwn yn edrych ar bolisi cyhoeddus ac
    yn defnyddio data wedii gasglu gan
    asiantaethaur llywodraeth er mwyn dadansoddi a
    mynegi barn ar newid cymdeithasol.
  • Mae Goodman, Johnson a Webb yn defnyddior dull
    hwn er mwyn amlygu bod lefelau o anghydraddoldeb
    yn cynyddu ym Mhrydain gyfoes.

20
Diffiniad y llywodraeth
  • Maer llywodraeth yn seilioi dadansoddiad ar
    Arolwg Gwariant y Teulu er mwyn amcangyfrif nifer
    y bobl ag incwm aelwyd mewn ffracsiwn o
    gyfartaleddau cenedlaethol.
  • Un or diffiniadau mwyaf cyffredin o dlodi ywr
    rheini sydd â llai na 50 or incwm cyfartalog
    cenedlaethol. Maer mesur hwn yn cael ei
    ddefnyddion groes-genedlaethol.
  • Mae budd-daliadaun tueddu i gynnig incwm syn
    agos iawn i 50 or incwm cyfartalog
    cenedlaethol felly pe bair llinell dlodin cael
    ei thynnun is, byddai canran y rhai mewn tlodin
    sylweddol uwch.
  • Ym Mhrydain, mae 20 or boblogaeth yn ennill
    incwm sydd o dan ddiffiniad y llywodraeth o
    dlodi.

21
All-gau Cymdeithasol
  • Mae hwn yn gysyniad diweddar, syn cael ei
    ddefnyddio gan y llywodraeth yn lle tlodi.
  • Mae all-gau cymdeithasol yn rhywbeth a all
    ddigwydd i unrhyw un. Ond mae rhai pobl mewn mwy
    o berygl nag eraill. Mae ymchwil wedi dangos bod
    pobl â chefndiroedd a phrofiadau penodol yn
    llawer mwy tebygol o brofi all-gau cymdeithasol.
    Maer prif ffactorau risg yn cynnwys incwm isel
    gwrthdaro yn y teulu bod mewn gofal problemau
    yn yr ysgol bod yn gyn-garcharor bod o leiafrif
    ethnig byw mewn cymdogaeth ddifreintiedig mewn
    ardaloedd trefol a gwledig problemau iechyd
    meddwl, oedran ac anabledd.
  • Ffynhonnell Preventing social exclusion report
    by the Social Exclusion Unit. Swyddfar Cabinet,
    2001, p11.

22
Casgliadau Cyffredinol
  • Maer rhan fwyaf o ddiffiniadaun fympwyol a
    chymharol hyd yn oed os ydynt yn seiliedig ar
    ddadansoddiadau ystadegol.
  • Maer rhan fwyaf o ddiffiniadau o dlodin cael eu
    tynnu ar lefel is.
  • Mae llawer o bobl wediu clystyru ar neun agos i
    linellau tlodi, felly mae newidiadau bach yn y
    diffiniad yn gallu hepgor pobl o restraur rhai
    syn dlawd neuu hychwanegu at y restrau hyn.

23
Barnau moesol am dlodi
Diffiniad cymharol
Dylai rhai pobl fod yn fwy cyfoethog gan eu bod
yn gweithion galetach.
  • Dylen ni i gyd fod yr un mor gefnog.

Barn Egalitaraidd
Barn Elitaidd
Dylen ni fod yn gyfartal ond nid oes angen i neb
gael mwy nag sydd ei angen.
Mae pobl syn dlawd yn ddiffygiol yn foesol a
deallusol.
Diffiniad Absoliwt
24
Cwestiynau
  • Pam maen bwysig cael diffiniad digonol o dlodi?
  • Beth syn gallu gwneud diffiniad o dlodin
    ffynhonnell dadl wleidyddol?
  • Pa gwestiynau moesol syn codi oherwydd bodolaeth
    tlodi yn ein cymdeithas?
  • Pam y dylen ni ofidio am dlodi ym Mhrydain?

25
Y Diwedd
  • Os oes gennych syniadau am wellar cyflwyniad
    hwn, cysylltwch â Mrs Griffiths.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com