Menywod a Gwaith - PowerPoint PPT Presentation

1 / 19
About This Presentation
Title:

Menywod a Gwaith

Description:

Roedd prinder gweithwyr ar l 1945 ond cynnydd mewn diweithdra ar l y 1970au. ... Mae Comisiwn Cyfle Cyfartal yn monitro cyfraddau t l dros y blynyddoedd. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:53
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 20
Provided by: JGRIF1
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Menywod a Gwaith


1
Menywod a Gwaith
  • Amlinellwch ac aseswch y farn bod rôl y fenyw yn
    yr economi wedi newid ers 1945.

2
Newidiadau ir economi
  • Roedd prinder gweithwyr ar ôl 1945 ond cynnydd
    mewn diweithdra ar ôl y 1970au.
  • Mae diwydiant trwm (mwyngloddio glo, haearn a
    dur) wedi dirywio.
  • Maer sector gwasanaethu (canolfannau galw,
    arlwyo) wedi cynyddu.

3
Rhyw y person a newid
  • Mae cyfleoedd am gyflogaeth i ddynion wedi
    dirywio.
  • Mae cyfleoedd am gyflogaeth i fenywod wedi
    cynyddu.
  • Mae mwy o waith rhan amser â chyflog isel ar
    gael.
  • Menywod fel arfer syn cael eu cyflogi yn y math
    hwn o waith.

4
Arwahanu ar sail Rhyw
  • Mae dynion a menywod yn gwneud mathau gwahanol o
    waith.
  • Mae menywod wediu gorgynrychioli yn y swyddi
    lleiaf crefftus gydar cyflog isaf.
  • Mae dynion gwyn yn ymddangos yn y strwythurau
    rheolaeth. Mae tuedd i fenywod fod mewn swyddi
    ysgrifenyddol, clerigol is gyda chyflog isel.

5
Rheolwyr
6
Dosbarth a Rhyw
  • Mae menywod dosbarth canol yn tueddu i gymryd
    swyddi proffesiynol dynion, ond fel arfer y rhai
    gyda chyflog is a statws is (dysgu, gwasanaethau
    cyhoeddus).
  • Nid yw menywod yn cymryd swyddi dynion mewn
    gwaith y dosbarth gweithio. Felly, mae gwaith
    traddodiadol y dosbarth gweithio yn waith dynion.

7
Gwaith menywod
8
Ethnigrwydd a rhyw
  • Gweli pobl o leiafrifoedd ethnig wediu crynhoi
    mewn rhai diwydiannau e.e. pobl
    Tsieineaidd/Bangladeshi mewn arlwyo, pobl
    Affro-Caribïaidd yn y gwasanaeth iechyd.
  • Ceir patrymau gwaith gwahanol ir ddau ryw
    ymhlith rhai cymunedau gyda menywod
    Affro-Caribïaidd yn ymgymryd â gwaith
    proffesiynol a menywod Bangladeshin llai tebygol
    o weithio.

9
Cyflog
  • Mae Comisiwn Cyfle Cyfartal yn monitro cyfraddau
    tâl dros y blynyddoedd.
  • Mae menywod yn ennill llai na dynion.
  • Maer gwahaniaeth cyfradd tâl ar gyfartaledd yn
    20.
  • Mae menywod syn gweithion rhan-amser yn ennill
    60 or hyn y mae dynion yn ei ennill.

10
Hunan-gyflogaeth
  • Mae hunan-gyflogaeth yn uwch ymhlith dynion na
    menywod.
  • Mae gwaith menywod yn tueddu i gefnogi
    hunan-gyflogaeth dynion (ysgrifennydd,
    cynorthwyydd siop).
  • Mae menywod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn
    yr economi du ac fel gweithwyr yn y cartref.

11
Ideoleg Rhyw a Gwaith
  • Mae gwaith dynion yn drwm, peryglus, yn yr awyr
    agored, ymosodol, technolegol ac o werth uchel.
  • Mae gwaith menywod yn ddiflas, ailadroddus,
    statws isel ac yn golygu bod yn eilradd i
    awdurdod dynion.
  • Mae gwaith menywod yn seiliedig ar dybiaethau ar
    sail rhyw sef deheurwydd, gofalu a chefnogaeth
    emosiynol i bobl.
  • Scott (1992), mae gwaith menywod yn galedwaith.

12
Gwaith menywod fel caledwaith
13
Rhyw a gwaith
  • Edrychodd astudiaethau cynnar ar sut roedd
    menywod priod yn cyfuno gwaith â thâl gydau
    gwaith domestig.
  • Roedd polisiaur llywodraeth yn ystyried bod
    menywod yn weithwyr domestig yr oedd ganddynt
    swyddi hefyd roedd rolau domestig or pwys
    mwyaf.
  • Rhoddwyd y bai ar famau a oedd yn gweithio am
    dramgwyddaeth ymhlith plant.

14
Astudiaethau diweddar
  • Mae astudiaethau diweddar yn edrych ar sut mae
    menywod yn cael eu trin yn y gweithle, a sut mae
    rhaniadau ar sail rhyw yn parhau er gwaethaf
    deddfwriaeth cyfartaledd.
  • Mae dynion yn rheoli technoleg a sgiliau gan gau
    rhai pobl allan rhag hyfforddiant a chael swyddi.
  • Wrth i swyddi gael eu mecaneiddio a bod ar gael i
    fenywod, gwnaeth hwn herio tybiaethau ar sail
    rhyw gyda dynion yn teimlo iddynt gael eu bygwth.

15
Rhywioldeb a gwaith
16
Diwylliant y gweithle
  • Mae diwylliant y gweithle yn wrywaidd.
  • Mae enghreifftiaun cynnwys posteri o ferched,
    sgyrsiau dynion ganolog ac aflonyddu rhywiol.
  • Ond, mae dynion syn croesi i mewn i waith
    menywod yn cael profiadau gwahaniaethol tebyg.
  • Mae menywod yn y gweithlen chwarae i lawr eu
    benyweidd-dra gan reoli eu cyrff yn y fath fodd
    fel eu bod yn amwys yn rhywiol.

17
Gwaith yn y diwydiant hamdden
  • Astudiodd Adkins waith mewn gwestai a thafarnau.
  • Fel arfer mae disgwyl i ddynion briodi, ond nid
    yw eu gwragedd yn cael eu cyflogi.
  • Mae rhaid i fenywod yn y gwaith hwn fod yn
    ddeniadol a rhywiol, ond nid y dynion.
  • Mae diffinio menywod yn ôl eu rhywioldeb yn
    israddio eu statws oherwydd eu bod yn gweini ar
    anghenion dynion.

18
Crynodeb
  • Mae menywod yn fwy niferus yn y llafurlu.
  • Maen nhwn dueddol o fod â chyflog a statws isel.
  • Mae dynion yn parhau i reolir sefyllfa waith
    mewn ffyrdd syn addas iw hanghenion.
  • Mae hyn yn llai amlwg mewn gwaith dosbarth canol,
    ond mae yn digwydd.

19
Y Diwedd
  • Os oes gennych syniadau am welliannau, gweler Mrs
    Griffiths.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com