UG Uned Un Caffael Diwylliant Teuluoedd a Diwylliant Camweithrediadaur Teulu - PowerPoint PPT Presentation

1 / 25
About This Presentation
Title:

UG Uned Un Caffael Diwylliant Teuluoedd a Diwylliant Camweithrediadaur Teulu

Description:

UG Uned Un Caffael Diwylliant Teuluoedd a Diwylliant Camweithrediadaur Teulu – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:121
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 26
Provided by: dbo72
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: UG Uned Un Caffael Diwylliant Teuluoedd a Diwylliant Camweithrediadaur Teulu


1
UG Uned Un Caffael Diwylliant Teuluoedd a
Diwylliant Camweithrediadaur Teulu
2
Amcanion
  • Ar ôl gweld y gyfres hon o sleidiau, dylech fod
    yn
  • ymwybodol o
  • Camweithrediadaur teulu.
  • Seiciatryddion Radical ac ochr dywyll bywyd
    teuluol.
  • Gwrthdaro a thrais yn y teulu.
  • Cam-drin o fewn y teulu.
  • Trafodaethau ynghylch a yw'r teulu yn dirywio.

3
Camweithrediadaur Teulu
Mae gan y Swyddogaethwyr a'r Dde Newydd syniad
braidd yn ddelfrydol a gor-gadarnhaol o'r teulu
yn perfformio swyddogaethau cadarnhaol.
Ystyrir y safbwynt hwn yn ddiniwed ac fe gaiff ei
herio gan nifer o ymchwilwyr ffeministaidd,
Marcsaidd, deongliadol, a Seiciatreg Radical.
4
Vogel a Bell Plant fel Bychod Dihangol
Emosiynol
Mae hyd yn oed y swyddogaethwyr Vogel a Bell
(1968) yn cydnabod y gall fod camweithrediadau yn
y teulu.
Gwelant blant yn cael eu defnyddio gan eu rhieni
fel bychod dihangol emosiynol neu fel bagiau
dyrnu ar gyfer eu straen beunyddiol.
5
Marcsiaeth a Chamweithrediadau
Mae Marcswyr yn pwysleisio sut y mae'r teulu yn
gweithio er budd y gymdeithas yn hytrach na'i
haelodau.
Ystyrir gwaith di-dâl menywod fel ffordd o gadw
cyflogau yn is nag y byddent fel arall.
Ystyrir bod menywod yn atgynhyrchu llafur yn
feunyddiol
Mae menywod hefyd yn ffurfio byddin o lafur wrth
law.
6
R.D. Laing Seiciatreg Radical
Ystyriai R.D. Laing fod y teulu yn ffynhonnell
allweddol o wallgofrwydd yn enwedig
sgitsoffrenia.
Gwelai fywyd teuluol fel gwe gymhleth o wrthdaro
a thensiynau.
Gall y fath densiynau dynnu plant yn dipiau a
gall hyn arwain at broblemau seiciatrig.
7
Edmund Leach
Mae gan Edmund Leach hefyd farnau negyddol iawn
am fywyd teuluol.
Fe'i disgrifiodd fel sefydliad clawstroffobig lle
mae rhieni'n ymladd a phlant yn gwrthryfela.
Cymharodd fywyd teuluol â byw mewn "cwt ieir, ac
ystyriai fod teuluoedd yn ymddwyn fel "cylchedau
trydanol wedi'u gorlwytho.
8
David Cooper
Mae David Cooper yn defnyddio dadansoddiad
Marcsaidd, ac fe wêl y teulu fel 'cyfrwng
cymdeithasoli peryglus' sy'n cynhyrchu
dinasyddion ufudd.
Seilir ei ymresymiad yn bennaf ar y modd y mae'r
teulu yn helpu i gynnal y system gyfalafol trwy
annog ufudd-dod digwestiwn i'r rhai sydd mewn
awdurdod.
Ar yr un pryd, mae'n credu bod y teulu'n mygu'r
hunan.
9
Dadansoddiad o Seiciatreg Radical
Mae David Morgan (1996) yn cefnogi Laing gan
honni ei fod yn dod 'yn nes at fywyd teuluol fel
y mae mewn gwirionedd na'r rhan fwyaf o'r lleill.
Fodd bynnag, mae'n teimlo hefyd fod Laing yn
canolbwyntio ar yr agweddau myglyd, gan
anwybyddu'r agweddau cydgordiol a gwerthoedd
cadarnhaol bywyd teuluol.
Mae Laing yn cyflwyno'r teulu mewn gwacter
cymdeithasol gan anwybyddu diwylliant ac
effeithiau cyfryngau allanol ysgolion, gweithwyr
cymdeithasol, ayb.
10
Camweithrediadau Ffeministaidd
I ffeministiaid maer teulu yn batriarchaidd ac
felly, yn gamweithredol i fenywod.
Sefydlogi personoliaethau oedolion yw swyddogaeth
menywod yn ôl Parson, ond wrth ymateb mae Fran
Ansley yn gweld menywod fel 'y rhai sy'n derbyn
y cachu'.
Mae Abbott a Wallace (1997) wrth fabwysiadu
dadansoddiad ffeministaidd trydedd-wedd, yn addef
bod profiadau menywod yn y teulu yn cael eu
lleddfu gan ddosbarth, ethnigrwydd a faint o
batriarchaeth a osodir gan eu partner gwrywaidd.
11
Y Dde Newydd Camweithrediadau Teuluoedd nad
ydynt yn Draddodiadol
Yn ôl y Dde Newydd, mae teuluoedd nad ydynt yn
draddodiadol a magu plant mewn ffordd ddi-glem yn
gamweithredol ir gymdeithas ac i unigolion
hefyd.
Yn ôl Norman Dennis, mae teuluoedd rhiant unigol
a reolir gan fenywod yn niweidiol i blant.
Credir bod colli delfryd ymddwyn gwrywaidd
cadarnhaol yn arbennig o niweidiol i fechgyn.
12
Trais yn y Cartref
Dywedodd Betsy Stanko (2000) y cyflawnir
gweithred o drais yn y cartref bob 6 eiliad ym
Mhrydain.
Amcangyfrifir bod chwarter o'r holl droseddau
treisgar yn cael eu cyflawni o fewn y teulu.
Mewn 45-70 o achosion, mae'r tad yn cyflawni
trais ar y plant yn ogystal ag ar y fam
(Adroddiad y BMA, 1998).
13
Adroddiad y BMA ar Drais yn y Cartref (1998)
Mae mwy nag 1 fenyw o bob 4 yn dioddef trais yn y
cartref yn ystod ei bywyd.
Mae 1 fenyw o bob 10 yn dioddef trais yn y
cartref bob blwyddyn.
Mae trais yn amrywio o gael eu dyrnu, tagu, cnoi,
llosgi, llwgu a'u trywanu, hyd at gael eu gorfodi
i gael cyfathrach rywiol yn groes i'w dymuniad.
Mae trais yn y cartref yn fwy tebygol o ddigwydd
yn ystod beichiogrwydd.
14
Ystyr Trais yn y Cartref
Ond gall cyfaddef yn gyhoeddus bod trais yn eu
teulu beri i fenywod gael ymdeimlad cryf o
fethiant.
Nid yw'r heddlu, y teulu, ffrindiau na'r
gwasanaethau lles bob amser yn barod i roi
cefnogaeth i bartneriaid sydd wedi'u curo.
Yn draddodiadol gwelai'r heddlu ffraeon teuluol
fel materion preifat ac roeddynt yn amharod i
ymyrryd.
Ers y 1990au mae'r Swyddfa Gartref wedi peri ir
heddlu drin trais yn y cartref yn yr un modd ag
unrhyw drais arall.
15
Dynion Wedi'u Curo?
Mae Ian Lockhurst (1999) yn honni y dylem dderbyn
y ffaith y gall ymddygiad treisgar gael ei
gyflawni gan unrhyw unigolyn tuag at unrhyw
unigolyn.
Y gwir yw nad oes gennym unrhyw syniad o wir
faint y trais a gyflawnir ar ddynion gan nad yw'r
rhan fwyaf yn cael eu hadrodd.
16
Cam-drin Plant
Mae David Morgan (1997) yn nodi gwrthddywediadau
y cartref gor-breifat sy'n bopeth ond lloches
diogel i blant.
Y ffordd fwyaf cyffredin o gam-drin plant yw
bwlio (camdriniaeth eiriol ac emosiynol) ac nid
camdriniaeth rywiol neu gorfforol
Fodd bynnag, mae'r NSPCC yn amlygu'r ystadegyn
ofnadwy bod 2 blentyn yn marw bob dydd o
ganlyniad i ymosodiad corfforol o fewn y cartref.
17
Adroddiad yr NSPCC ar Gam-drin Plant (2000)
Cafodd 6 o blant eu hesgeuluson ddifrifol yn
gorfforol, 6 eu cam-drin yn emosiynol ac 1 yn
rhywiol gan riant.
Ymosodwyd ar 49 o'r dioddefwyr gan eu mamau, 40
gan eu tadau ac 8 gan lys-riant.
Dioddefodd 6 ymosodiadau amryfal ar eu
hunan-barch, gan gynnwys dychrynu, sarhau,
gwrthod dangos hoffter a niweidio meddiannau ac
anifeiliaid anwes.
Poster gan yr NSPCC
18
Pwy sy'n debygol o gael ei gam-drin?
Ceir mwy o blith y grwpiau oedran ieuaf, bechgyn,
plant â phwysau geni isel, a phlant
anghyfreithlon.
Babanod o dan flwydd oed yw'r rhai mwyaf
archolladwy.
Mae mwy o fechgyn na merched yn cael eu cam-drin.
Dim ond mewn achosion o gamdriniaeth rywiol y
ceir mwy o ferched. Maent 4 gwaith yn fwy tebygol
o fod yn ddioddefwyr na bechgyn.
19
A yw'r Teulu mewn Argyfwng?
Awgryma cyhoeddusrwydd am ChildLine,
adroddiadau yn y cyfryngau am rieni sy'n
cam-drin, ar cynnydd mewn ysgaru fod y teulu
mewn argyfwng.
Yn ôl y Dde Newydd, maer dirywiad yn y teulu
traddodiadol yn achosi llawer o broblemau mewn
cymdeithas.
Mae'r 'adlach' hon yn rhoi'r bai am broblemau
teuluol ar ysgariad, mamau unigol, mamau sy'n
gweithio, cyd-fyw, a hyd yn oed yr anfodlonrwydd
i ymroi i fywyd teuluol (e.e. menywod F.I.T.T.) a
thwf ffeministiaith.
20
Anthony Giddens
Honna Anthony Giddens fod y teulu'n adlewyrchu ac
yn mynegi'r newidiadau yn y gymdeithas drwy 5
newid allweddol
1. Bu plant yn fudd economaidd ond bellach maent
yn gostus iawn i'w rhieni.
2. Y cynnydd mewn cydraddoldeb rhwng dynion a
menywod.
4. Rhyddau rhyw rhag atgenhedlu.
3. Menywod yn rhan or farchnad waith.
5. Nid ydym bellach yn derbyn ffawd, ac rydym
yn llawer mwy gweithredol wrth benderfynu sut
rydym eisiau byw.
21
Anthony Giddens (parhad)
Goblygiadau gwaith Giddens yw nad yw dychwelyd at
y teulu traddodiadol yn ddymunol nac yn bosibl.
Gynt, roedd bywyd teuluol yn cynnwys
babanladdiad, cam-drin plant a pherthnasoedd
awdurdodaidd niweidiol yn aml.
Nid yw dychwelyd yn bosibl ychwaith gan fod y
teulu traddodiadol wedi'i seilio ar fyd sydd
bellach wedi diflannu.
22
Casgliadau Giddens
Mae Giddens yn casglu bod lle i bryderu am y
cynnydd yn y cyfraddau ysgariad.
Yr her, meddai, yw sefydlu bywyd teuluol
boddhaol, lle mae partneriaid yn gyfartal a lle
mae perthnasoedd wedi'u seilio ar gyfathrebu, yn
hytrach nag ar drais.
Pryderu bod 50 o dadau sydd wedi ysgaru yn colli
cysylltiad â'u plant wedi 1 flwyddyn.
Pryderu am fenywod sy'n ymdrechu i fagu plant ar
eu pen eu hun.
23
Casgliadau
  • Ystyrir fwyfwy fod delwedd 'bath cynnes' y
    swyddogaethwyr o'r teulu yn ddiniwed.
  • Mae Marcswyr, Seiciatryddion Radical a
    Ffeministiaid yn feirniadol o'r teulu.
  • Mae pob un ohonynt yn credu bod y teulu yn
    rhwystro'r unigolyn rhag ennill ei ryddid
    personol mewn gwahanol ffyrdd.
  • Yn ôl R.D. Laing, achos salwch meddwl ywr teulu
    wedi'i breifateiddio sy'n edrych i mewn.
  • Mae Edmund Leach yn ystyried bod y teulu modern
    yn fyglyd ac yn glawstroffobig.

24
Casgliadau (parhad)
  • Yn ôl David Cooper, mae'r teulu'n gyfrwng
    cymdeithasoli peryglus sy'n creu dinasyddion
    gor-ufudd.
  • Mae hyd yn oed y swyddogaethwyr Vogel a Bell yn
    cydnabod camweithrediadau teuluol, gyda phlant yn
    cael eu defnyddio fel bychod dihangol emosiynol.
  • Mae 1 fenyw o bob 10 yn dioddef trais yn y
    cartref yn ystod ei bywyd, 1 o bob 4 bob
    blwyddyn.
  • Yn 45 i 70 o achosion, y tad sy'n cyflawni trais
    ar y plant yn ogystal ag ar y fam.

25
Casgliadau (parhad)
  • Mae'r NSPCC yn dangos mai bwlio yw'r modd mwyaf
    cyffredin o gam-drin plant.
  • Ond mae dau blentyn yn marw bob dydd ym Mhrydain
    oherwydd camdriniaeth neu esgeuluso.
  • Mae Anthony Giddens yn dadlau bod y teulun
    adlewyrchu newidiadau ehangach yn y gymdeithas.
  • Mae'n honni nad yw dychwelyd at y teulu
    traddodiadol yn bosibl nac yn ddymunol.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com