Title: Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cw
1Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na
digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i
phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno." Luc 214
2Gweddiwn Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw ein
Tadau Ith foli ath ogoneddu yn
dragywydd. Bendithiwn y Tad, y Mab ar Ysbryd
Glân Molwn a gogoneddwn ef yn dragywydd.
3Bendigedig wyt ti, Arglwydd, yn ffurfafen y
nefoedd Molwn a gogoneddwn di yn
dragywydd. Cadw ni a bendithia ni, O Arglwydd
trugarog Am ein bod yn ymddiried ynot.
4Oni fyddi din ein hadfywio eto, O Arglwydd Er
mwy ith bobl lawenhau ynot? Arglwydd, dangos dy
drugaredd arnom A dyro i ni dy iachawdwriaeth.
5Arglwydd Dduw, sanctaidd a gogoneddus, o flaen
disgleirdeb dy bresenoldeb, gorchuddiar angylion
eu hwynebau gyda pharch gostyngedig a chariad
addolgar, moliannwn di, Dad, Mab ac Ysbryd Glân,
Drindod fendigaid Bendith ac anrhydedd a
gogoniant a gallu a fo in Duw ni, yn oes
oesoedd. Amen
6(No Transcript)
7SALM 148 Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd, molwch
ef yn yr uchelderau. Molwch ef, ei holl angylion
molwch ef, ei holl luoedd. Molwch ef, haul a
lleuad molwch ef, yr holl sêr disglair. Molwch
ef, nef y nefoedd, a'r dyfroedd sydd uwch y
nefoedd.
8Bydded iddynt foli enw'r Arglwydd, oherwydd ef a
orchmynnodd, a chrewyd hwy fe'u gwnaeth yn sicr
fyth bythoedd rhoes iddynt ddeddf nas torrir.
9(No Transcript)
10Dewch, addolwn ac ymgrymwn, Plygwn ein gliniau
ger bron yr Arglwydd an gwnaeth. Oherwydd ef yw
ein Duw, A ninnaun bobl iddo
a defaid ei borfa. Dewch i mewn iw byrth â
diolch ac iw gynteddau â mawl Diolchwch iddo,
bendithiwch ei enw, oherwydd da ywr Arglwydd
11Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ym
mhob man o dan ei lywodraeth Fy enaid,
bendithiar Arglwydd. Gras ein Harglwydd Iesu a
fod gyda ni Bydded yr Arglwydd gyda ni
oll. Ceisiwn yr Arglwydd ai nerth Ceisiwn ei
wyneb bob amser.
12(No Transcript)
13 Y mae cyfraith yr Arglwydd yn berffaith, yn
adfywio'r enaid y mae tystiolaeth yr Arglwydd yn
sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth Salm 197
14(No Transcript)
15"Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno
dewch, er eich bod heb arian prynwch a bwytewch.
Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb
dâl. Eseia 551
16(No Transcript)
17Canwch i'r Arglwydd gân newydd, canwch i'r
Arglwydd yr holl ddaear. Salm 961
18(No Transcript)
19Mor brydferth yw dy breswylfod, O Arglwydd y
Lluoedd. Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at
lewyg am gynteddau'r Arglwydd y mae'r cyfan
ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw.......
Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil
gartref gwell sefyll wrth y drws yn nhy fy Nuw
na thrigo ym mhebyll drygioni.
20Oherwydd haul a tharian yw'r Arglwydd Dduw rhydd
ras ac anrhydedd. Nid atal yr Arglwydd unrhyw
ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir. O
Arglwydd y Lluoedd, gwyn ei fyd y sawl sy'n
ymddiried ynot. (Salm 84 1-2, 10-12)
21(No Transcript)
22I Dad y trugareddau i gyd Rhown foliant, holl
drigolion byd Llur nef, moliennwch Ef ar gân
Y Tad, ar Mab, ar Ysbryd Glân
23(No Transcript)
24Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn y maen
blodeuo fel blodeuyn y maes pan âr gwynt
drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei len ei adnabod
mwyach. Salm 103 15 - 16
25(No Transcript)
26Salm 341-3,8 Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser
bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau. Yn yr
ARGLWYDD yr ymhyfrydaf bydded ir gostyngedig
glywed a llawenychu.
27Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw
gydan gilydd. Profwch, a gwelwch mai dy ywr
ARGLWYDD.
28(No Transcript)
29Salm 117 Molwch yr ARGLWYDD yr holl genhedloedd,
clodforwch ef, yr holl bobloedd. Oherwydd mae ei
gariad yn gryf tuag atom, ac y mae ffyddlondeb yr
Arglwydd dros byth. Molwch yr Arglwydd. Salm
117
30(No Transcript)
31Am Ddirnadaeth Thomas a Kempis Caniatâ i mi, O
Arglwydd, i wybod yr hyn syn werth ei wybod, i
garu yr hyn syn werth ei garu. i foli yr hyn
syn rhyngu dy fodd di, i drysori yr hyn syn
werthfawr yn dy olwg di, i gasau yr hyn syn
atgas gennyt ti.
32Gwared fi rhag barnu yn ôl yr hyn a welaf, na
dedfrydu yn ôl yr hyn a glywaf, ond i fedru
dirnad yr hyn sydd yn rhagori, ac uwchlaw pob
dim i chwilio am, a gwneud, yr hyn sydd wrth dy
fodd di, Trwy Iesu Grist. Amen
33(No Transcript)
34Salm 85 Dangos i ni dy ffyddlondeb, O Arglwydd,
a rho dy waredigaeth inni. Bydded imi glywed yr
hyn a lefara'r Arglwydd DDUW, oherwydd bydd yn
cyhoeddi heddwch i'w bobl ac i'w ffyddloniaid,
rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.
35Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai
sy'n ei ofni, fel bod gogoniant yn aros yn ein
tir. Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod, a
chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd. Bydd
ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear, a chyfiawnder
yn edrych i lawr o'r nefoedd.
36Bydd yr Arglwydd yn rhoi daioni, a'n tir yn rhoi
ei gnwd. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen, a
heddwch yn dilyn yn ôl ei droed. (Salm 857-13)