Cyflwyniad i Gymdeithaseg Fydeang - PowerPoint PPT Presentation

1 / 12
About This Presentation
Title:

Cyflwyniad i Gymdeithaseg Fydeang

Description:

Mae cymdeithasegwyr byd-eang yn canolbwyntio ar y perthnasoedd rhwng ac o fewn ... Ystyrir y rhai sydd ar frig y mynegai hwn fel y rhai mwyaf datblygedig yn ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:55
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 13
Provided by: crosskey
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Cyflwyniad i Gymdeithaseg Fydeang


1
Cyflwyniad i Gymdeithaseg Fydeang
  • Beth yw'r diffiniadau o ddatblygiad a sut maent
    yn datgelu barnau ar werth? (Addaswyd o S Moore)

2
Cyflwyniad i Gymdeithaseg Fyd-Eang
  • Mae cymdeithasegwyr byd-eang yn canolbwyntio ar y
    perthnasoedd rhwng ac o fewn gwledydd, yn enwedig
    gwahaniaethau economaidd a chymdeithasol.
  • E.e. yn 1997, roedd gan 1/5ed ran gyfoethocaf
    poblogaeth y byd incwm 78 gwaith yn fwy na'r
    1/5ed ran dlotaf.

3
Y byd sydd wedii ddiwydianeiddio yw'r
cyfoethocaf (h.y. Gogledd America, Gorllewin
Ewrop, Japan ac Awstralasia.) Y byd sydd heb ei
ddiwydianeiddio yw'r tlotaf (h.y. y rhan fwyaf o
Affrica, De a Chanol America, isgyfandir India
a'r rhan fwyaf o Ddwyrain Asia)
4
Mae'r nodweddion canlynol wedi cael eu defnyddio
i raddio gwledydd yn nhermau datblygiad neu
gynnydd
  • Graddio ar sail Gwahanol Fydoedd
  • Y Byd Cyntaf (gwledydd cyfalafol y Gorllewin)
  • Yr Ail Fyd (y gwledydd comiwnyddol gynt)
  • Y Trydydd Byd (y byd sy'n datblygu)
  • Anfantais wedi dyddio oherwydd cwymp yr Undeb
    Sofietaidd ac rydym i gyd yn yr un byd!
  • Graddio ar sail ddaearyddol
  • Gogledd a De
  • Mantais - mae hwn yn rhoi braslun cyflym
  • Anfantais - mae'n anghywir yn ddaearyddol gan fod
    llawer o wledydd wedi'u diwydianeiddio yn y de
    e.e. Awstralia

5
Graddio gwledydd yn ôl eu cyfoeth
  • Gwledydd cyfoethog
  • Gwledydd tlawd
  • Mantais - mae'n dangos anghydraddoldebau cyfoeth
    rhwng gwledydd
  • Anfanteision i) mae'n cuddio anghydraddoldebau
    cyfoeth o fewn gwledydd.
  • ii) Nid yw'n dangos cynnydd cymdeithasol e.e. y
    cynnydd mewn disgwyliad oes hyd yn oed os nad
    ywr wlad yn un gyfoethog

6
  • Graddio datblygiad neu gynnydd ar sail economaidd
    a diwydiannol
  • MEDCs- Gwledydd Mwyaf Economaidd
    Ddatblygedig
  • NICs- Gwledydd Newydd eu Ddiwydianeiddio
  • FCCs- Cyn Wledydd Comiwnyddol
  • LEDCs- Gwledydd Llai Economaidd Ddatblygedig
  • LLEDCs - Gwledydd Lleiaf Economaidd Ddatblygedig
  • Graddio datblygiad neu gynnydd o safbwynt
    ffeministaidd
  • Y Pedwerydd Byd - mae hwn yn cynnwys yr holl
    fenywod mewn byd patriarchaidd (Ffeministiaeth
    Radicalaidd)
  • Y Pumed Byd mae hwn yn cynnwys menywod sy'n
    cael eu defnyddio fel gweithlu rhad
    (Ffeministiaeth Sosialaidd)

7
Dau brif ddull o fesur datblygiad
  • Datblygiad fel lles economaidd

2 Datblygiad fel lles cymdeithasol
8
Datblygiad fel lles economaidd e.e. CGC (GNP)
  • Cynnyrch Gwladol Crynswth
  • Defnyddir hwn gan economegwyr, swyddogaethwyr,
  • llunwyr polisi a'r Dde Newydd i ddangos sefyllfa
    gwledydd
  • yn nhermau datblygiad
  • Manteision - yn caniatáu cymariaethau rhwng
    gwledydd
  • Anfanteision -
  • Gall data fod yn annibynadwy (ac felly nid yw'n
    gymaradwy)
  • Mae'n anwybyddu cynhyrchu mewnol ar gyfer
    treuliant mewnol a'r economi anffurfiol
  • Mae'n cuddio anghydraddoldebau o fewn gwledydd

9
Mesur Lles Cymdeithasol
  • Lluniodd y Cenhedloedd Unedig y mesurau Mynegai
  • Datblygiad Dynol (HDI) e.e. cyfraddau
    llythrennedd
  • oedolion, disgwyliad oes ar enedigaeth ayb.
  • Ystyrir y rhai sydd ar frig y mynegai hwn fel y
    rhai mwyaf datblygedig yn nhermau lles
    cymdeithasol. E.e. y disgwyliad oes yn yr Unol
    Daleithiau yw 76.4 blynedd ac yn Nigeria 51.4
    blynedd.
  • Ond mae'n bosibl i wledydd fod â CGC isel ond HDI
    uchel e.e. Ciwba

10
Dylanwad y Gorllewin ar ddiffiniadau a
chanfyddiadau o ddatblygiad neu gynnydd
  • Gellir dadlau bod barnau diwydiannol, cyfalafol
    a phatriarchaidd y Gorllewin yn dylanwadu ar
    ddatblygiad oherwydd
  • ei fod yn ethnosentrig
  • mae ganddo farn negyddol am werthoedd
    diwylliannol gwledydd sy'n datblygu. (e.e.
    teuluoedd estynedig)
  • mae'n ystyried bod diwydiannaeth y gorllewin yn
    berffaith ac mae'n anwybyddu ei broblemau ei hun
    megis tlodi a llygredd

11
  • mae'n ystyried bod Democratiaeth y Gorllewin yn
    well na modelau datblygiad sosialaidd
  • 5 mae'n creu problemau yn y byd sy'n datblygu
    e.e. colli mamwlad ac anghydraddoldebau mewnol
  • mae'n mabwysiadu 'dull cynhwysfawr tuag at
    wledydd sy'n datblygu ac yn anwybyddu amrywiaeth
    rhyngddynt ac o'u mewn
  • fe'i hystyrir yn ffug gan feirniaid oherwydd mai
    ei brif nod yw ecsbloetio a darostwng yn hytrach
    na chynorthwyo'r byd sy'n datblygu. O ganlyniad,
    mae'r bwlch rhwng gwledydd cyfoethog a thlawd yn
    ehangu
  • (Serch hynny, mae'n ymddangos bod economïau'r
    Teigrod Asiaidd wedi dilyn model datblygu'r
    Gorllewin yn llwyddianus)

12
Modelau datblygiad/cynnydd eraill
  • Y rhai sydd â'u gwreiddiau yng nghredoau
  • crefyddol y byd sy'n datblygu e.e. Islam
  • Y rhai sy'n gweld rhyddhad rhag y Gorllewin fel y
    prif lwybr i gyfeiriad datblygiad neu gynnydd
  • Gwrthod democratiaeth ac economeg yn null y
  • Gorllewin e.e. Gwledydd sosialaidd megis
    Ciwba.
  • Lleol/wedi'u canoli ar bobl, lle mae'r gymuned
    leol yn cael llais a grym ynghylch ei chynnydd ei
    hun.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com