CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 5: Damcaniaeth Swyddogaethol ac Isddiwylliannol - PowerPoint PPT Presentation

1 / 30
About This Presentation
Title:

CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 5: Damcaniaeth Swyddogaethol ac Isddiwylliannol

Description:

CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 5: Damcaniaeth Swyddogaethol ... Mae J. Katz (1988) yn dadlau. fod trosedd yn hudolus ac. mae pobl yn cael eu denu ato ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:155
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 31
Provided by: MR13
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 5: Damcaniaeth Swyddogaethol ac Isddiwylliannol


1
CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 5
Damcaniaeth Swyddogaethol ac Isddiwylliannol
Sut i lywio'r Sioe Sleidiau hon Naill ai
Cliciwch ar yr eicon isod yng nghornel dde y
sgrin i ddewis Sioe Sleidiau. Defnyddiwch y
botwm llygoden chwith i fynd i mewn i bob pwynt
bwled newydd ac i symud ymlaen i'r dudalen nesaf
Gwasgwch Esc i adael y Sioe Sleidiau ar unrhyw
adeg. Neu defnyddiwch y saethau isod i lywio o
un sgrin i'r nesaf. Neu cliciwch ar y geiriau ar
y chwith er mwyn mynd at y sleid briodol o'ch
dewis.
2
Datganiad Hygyrchedd
  • Dyluniwyd y sioe sleidiau hon i fod yn gyfeillgar
    i bobl â dyslecsia a nam ar y golwg.
  • Defnyddir y ffont hygyrch Arial.
  • Ni ddefnyddir ffont du ar gefndir gwyn.
  • Yn hytrach, dewiswyd lliw y ffont a'r cefndir i
    gyd-fynd â'i gilydd er mwyn osgoi gormod o
    wrthgyferbyniad a allai greu anhawster i
    ddarllenwyr dyslecsig.
  • Unionir yr holl destun ar yr ymyl chwith i osgoi
    'afonydd o wyn'.

3
Amcanion Pennod 5
  • Erbyn diwedd y Sioe Sleidiau hon dylech
  • Bod yn ymwybodol o ddylanwad Emile Durkheim a'i
    gysyniad o anomi wrth esbonio trosedd.
  • Bod yn gyfarwydd â datblygiad Robert Merton o
    anomi yn ei baradeim anomig.
  • Deall y cysylltiad rhwng clymau ymlyniad Hirschi
    a damcaniaeth anomi.
  • Bod yn ymwybodol o'r cysylltiad rhwng teulu a
    throsedd a sut y gallai hyn gyd-fynd ag anomi.
  • Bod yn ymwybodol yn feirniadol o gryfderau a
    gwendidau damcaniaeth anomi fel esboniad o
    drosedd.

4
Y Ddamcaniaeth Swyddogaethol a Throsedd
Emile Durkheim (1858 - 1917, yn y darlun ar y
chwith) oedd y cymdeithasegydd cyntaf i astudio
trosedd ac fe gafodd ddylanwad sylweddol ar y
ddamcaniaeth swyddogaethol a ddilynodd.
Tybiai Durkheim fod trosedd yn broblem oedd yn
nodweddiadol o fodernedd (y
trawsnewid i gymdeithas ddiwydiannol).
Teimlai fod dealltwriaeth o drosedd a gwyredd yn
hanfodol er mwyn deall sut roedd y gymdeithas yn
gweithio.
5
Durkheim ac Anomi
Datblygodd Emile Durkheim y term anomi i esbonio
pam roedd rhai pobl yn mynd yn gamweithredol ac
yn troi at drosedd.
Mae anomi'n golygu nad yw pobl wedi
integreiddion ddigonol â normau a gwerthoedd y
gymdeithas.
Mae anomi'n peri i gymdeithas fynd yn llai
integredig ac yn fwy unigolyddol.
Mae anomi'n peri i unigolion ofalu amdanynt eu
hunain yn hytrach nag am y gymuned.
6
Trosedd fel Problem Ddiwydiannol
Trosedd a gwyredd yn gysylltiedig â dirywiad y
cydlyniad mecanyddol a oedd, yn ôl Durkheim, yn
gyffredin mewn cymdeithasau cyn-ddiwydiannol.
Yn y fath gymdeithasau nid oedd trosedd yn hollol
absennol ond roedd unffurfiaeth rolau, statws a
gwerthoedd y gymuned glòs yn hybu cydymffurfiad.
7
Trosedd yn Gysylltiedig â Newid Cymdeithasol
Mewn cyfnodau o newid cymdeithasol gallai
unigolion deimlo'n ansicr ynghylch y normau a'r
rheolau cyfredol.
O ganlyniad maent yn fwy tebygol o'u torri.
Mae'r gydwybod gyfunol o werthoedd a rennir sy'n
ganllaw i weithredoedd yn mynd yn wannach.
Credai Durkheim fod Anomi yn cael ei fynegi nid
yn unig trwy drosedd, ond hefyd trwy
hunanladdiad, chwâl priodas, ac anghydfodau
diwydiannol.
8
Gall Trosedd a Gwyredd fod yn Gadarnhaol ac yn
Negyddol
Credai Durkheim fod lefelau uchel o drosedd a
gwyredd yn negyddol iawn ir gymdeithas gan eu
bod yn achosi ansicrwydd ac aflonyddwch.
Fodd bynnag, gellid ystyried bod ychydig o
drosedd yn beth cadarnhaol, gan ei fod yn helpu i
hybu newid ac yn atgyfnerthu gwerthoedd.
Arferol
Swyddogaethol
Cyffredinol
Gall trosedd fod yn
9
Newid Cymdeithasol Buddiol ym ymgodi o Drosedd a
Gwyredd
Gwrthododd Rosa Parkes ildio ei sedd i ddyn gwyn
ar fws yn yr Unol Daleithiau
Mudiadau Swffragét ac Etholfreintwyr
Martin Luther King
10
Beirniadaeth ar Durkheim
Mae gwaith Durkheim yn bwysig am ei fod yn cynnig
dimensiwn cymdeithasol ar drosedd.
Mae'n cysylltu anomi â chymdeithas ddiwydiannol
wedi'i dadreoleiddio a mwy unigolyddol.
Ond ni all esbonio pam mae rhai pobl yn fwy
gwyrdroëdig nag eraill.
11
Damcaniaeth Straen Robert Merton
Credai Robert Merton (1910-2003, yn y llun ar y
chwith) fod y cysyniad o 'anomi' a ddefnyddiwyd
gan Durkheim yn rhy amhenodol, ac felly fe
ddatblygodd ei ystyr.
Fel swyddogaethwr, roedd yn ymwybodol o
bwysigrwydd gyrchnodau a gwerthoedd a rennir mewn
cymdeithas yn yr Unol Daleithiau yn arbennig
ceir y 'Freuddwyd Americanaidd.
Ond roedd yn deall nad oedd pawb yn cael yr un
cyfle i rannu'r cyrchnodau a'r gwerthoedd hyn.
Newidiodd ef ystyr anomi i olygu cymdeithas lle
mae datgysylltiad rhwng cyrchnodau a'r modd o'u
cyrraedd.
12
Damcaniaeth Straen a'r Paradeim Anomig
Datblygodd Merton ei ddamcaniaeth straen i
adlewyrchu'r straen rhwng y cyrchnodau a'r modd
drwy 'baradeim anomig pumplyg
Cyrchnodau
Modd
Ymatebion


Cydymffurfwyr

-
Arloeswyr
-

Defodwyr
-
-
Encilwyr
/-
/-
Gwrthryfelwyr
13
Merton (parhad)
Mae damcaniaeth Merton yn strwythurol mae'n
lleoli achos trosedd yn y gymdeithas Americanaidd
cefnogaeth i'r Freuddwyd Americanaidd.
Mae rhwystredigaeth rhag llwyddiant yn arwain at
wyredd fel arloeswyr maent yn mabwysiadu modd
anghyfreithlon o gyrraedd cyrchodau na allant eu
cyrraedd yn gyfreithiol.
14
Beirnidaeth ar Merton
Daeth ei waith yn ysbrydoliaeth uniongyrchol i'r
ddamcaniaeth isddiwylliannol.
Gall esbonio patrymau gwahanol o wyredd er
enghraifft, efallai bydd un person yn dwyn
(arloeswr) tra bydd person arall yn cymryd
cyffuriau (enciliwr).
Disgrifiodd Laurie Taylor hyn fel y ddamcaniaeth
peiriant ffrwythau ar drosedd.
Ond, fel swyddogaethwr ni all esbonio o ble daw'r
rheolau yn y lle cyntaf.
15
Travis Hirschi
Roedd Travis Hirschi yn gymdeithasegydd allweddol
arall y dylanwadwyd arno gan gysyniad Emile
Durkheim o anomi.
Er mwyn ateb hyn, meddai, mae'n rhaid i ni ddeall
pa rymoedd sy'n cynnal cydymffurfiad yn achos y
rhan fwyaf o bobl mewn cymdeithas.
Mae'n gofyn y cwestiwn pam nad oes mwy o bobl yn
cyflawni trosedd?
Yn hytrach na'r ffactorau sy'n gyrru'r lleiafrif
i gyfeiriad ymddygiad gwyrdroëdig.
16
'Clymau Ymlyniad' Hirschi
Nododd fod pedwar cwlwm ymlyniad sy'n helpu i
rwymor gymdeithas at ei gilydd
Ymrwymiad y buddsoddiad personol a wnawn yn ein
bywydau ein hunain mewn geiriau eraill, yr hyn y
bydden nin ei golli o droi at drosedd a chael
ein dal.
Ymlyniad i ba raddau yr ydym yn poeni am farnau
a dymuniadau pobl eraill.
Ymglymiad i ba raddau rydym wedi integreiddio
fel nad oes gennym yr amser na'r awydd i ymddwyn
mewn ffordd wyrdroëdig/droseddol.
Cred i ba raddau mae unigolion yn ymroddedig i
gynnal rheolau a deddfau cymdeithas?
17
Y Ddamcaniaeth Isddiwylliannol
Mae'r ddamcaniaeth isddiwylliannol yn rhagdybio
bod gan y rhai sy'n gwyro werthoedd gwahanol ir
gymdeithas brif ffrwd.
Yn ganolog i hon yw'r syniad mai ymateb yw
trosedd a gwyredd gan grwp sy'n gwrthod safbwynt
y mwyafrif ac/neu sy'n teimlo eu bod wedi'u cau
allan.
18
Y Ddamcaniaeth Isddiwylliannol Americanaidd
Cyhuddwyd Robert Merton o fethu â gallu esbonio
trosedd nad yw'n faterol.
Felly datblygwyd y ddamcaniaeth isddiwylliannol
i esbonio trosedd o'r fath yn nhermau
isddiwylliannau.
Y prif gynigwyr oedd
Albert Cohen 1955
Cloward ac Ohlin (1960)
Walter B. Miller (1963)
19
Albert Cohen (1955)
Rhwystredigaeth Statws
Ffurfiant Ymateb
Mae bechgyn ifanc yn adlamu o fethiant
confensiynol (e.e. yn yr ysgol).
Pan fyddant yn wynebu methiant maent yn dewis
isddiwylliant tramgwyddus.
20
Cloward ac Ohlin (1960)
Fel Robert Merton, maent yn esbonio trosedd
dosbarth gweithiol yn nhermau cyrchnodau a modd.
Ond maent yn anghytuno â Merton fod tramgwyddwyr
yn rhannu'r un gwerthoedd/cyrchnodau â gweddill y
gymdeithas.
OND
Mae Cloward ac Ohlin yn tybio bod tramgwyddwyr
dosbarth gweithiol is yn rhannu eu gwerthoedd
isddiwylliannol gwyrdroëdig eu hunain.
Felly maent yn datblygu strwythur gyrfaol
anghyfreithlon.
Oherwydd y cyfleoedd a ataliwyd ni allant ddod
ymlaen yn gyfreithlon.
21
Cloward ac Ohlin (Parhad)
Nododd Cloward ac Ohlin fod 3 math o
isddiwylliant tramgwyddus
Is-ddiwylliant Troseddol
Is-ddiwylliant Gwrthdaro Treisgar
Is-ddiwylliant Enciliol (cyffuriau)
22
Beirniadeth ar Cloward ac Ohlin
23
Walter B. Miller (1962)
Teimlai Miller fod y dosbarth gweithiol is yn
cael ei gymdeithasoli i werthoedd isddiwylliannol
gwyrdroëdig a alwodd ef yn bryderon ffocal.
24
Beirniadaeth ar Walter B. Miller
25
A yw Isddiwylliannau yn Esbonio Trosedd ym
Mhrydain Heddiw?
Daeth Howard Parker (1974) o hyd i dystiolaeth o
bryderon ffocal yn ei astudiaeth o bobl ifanc
dosbarth gweithiol yn Lerpwl.
Fodd bynnag, dim ond ychydig o dystiolaeth welodd
David Downes (1966) o werthoedd isddiwylliannol
yn ei astudiaeth o bobl ifanc dosbarth gweithiol
yn Nwyrain Llundain.
Yn hytrach, cafodd eu bod wedi daduno o werthoedd
prif ffrwd cyflogaeth dymor hir, ac yn
canolbwyntio ar hamdden a hedoniaeth yn lle.
Gwerthoedd hamdden
Daduniad
26
Gwerthoedd Tanddaearol
Mae David Matza (1964) yn mabwysiadu beirniadaeth
ryngweithiol ar y ddamcaniaeth isddiwylliannol.
Mae pobl ifanc yn 'drifftio' i mewn ac allan o
wyredd fel rhan o'r broses arferol o dyfu i fyny.
Mae'n dadlau fod pobl ifanc yn llai medrus wrth
ffrwyno gwerthoedd tanddaearol a phan fydd y
rhain yn gyrru ymddygiad gwyrdroëdig maent yn
defnyddio technegau niwtraleiddio i'w cyfiawnhau.
27
All-gau Cymdeithasol neu Baradocs Cynhwysiad?
Nododd ef sut roedd pobl ddu yn llyncu
diwylliant Americanaidd yn awchus e.e. labeli
dylunydd
Carl Nightingale (1993)
Philip Bourgois (1995)
Cafodd ef fod cefnogaeth eang ymhlith
Americanwyr ddu i'r Freuddwyd Americanaidd.
Roeddynt yn gwerthu cyffuriau i dalu amdani.
Jock Young (2003)
Gwelodd ddysglau lloeren, pramiau dylunydd, a
blas am gylchgrawn Hello, ayb yn ystadau sinc
Prydain
28
Gwrywdod
Bob Connell
Gwrywdod Llywodraethol
Mae M. Collinson yn dadlau mai gwerthoedd gwrywol
ac nid rhai isddiwylliannol sy'n aml yn graidd i
ymddygiad gwyrdroëdig.
Bea Campbell
Gwrywdod Ymosodol
29
Ôl-foderniaeth
Mae'r ôl-fodernwyr yn dadlau fod y ddamcaniaeth
isddiwylliannol yn methu (fel bron pob
damcaniaeth) am ei bod yn chwilio am esboniad
rhesymegol am drosedd a gwyredd.
Mae J. Katz (1988) yn dadlau fod trosedd yn
hudolus ac mae pobl yn cael eu denu ato oherwydd
ei fod yn gyffrous.
Cymryd cyffuriau
Dwyn a gyrru ceir
Mae S. Lyng (1990) yn tybio fod pobl yn cael eu
gyrru gan weithio ar yr ymylon ac yn cael eu
denu gan berygl.
Trais pêl-droed
30
Diwedd y Cyflwyniad
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com