CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 2: Mesur Trosedd - PowerPoint PPT Presentation

1 / 36
About This Presentation
Title:

CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 2: Mesur Trosedd

Description:

Fodd bynnag, mae'r cyfraddau yn dal i fod yn isel yn Japan, Singapore a'r ... Felly mae'n dal i roi amcan rhy isel o wir gyfradd trosedd. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:172
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 37
Provided by: MR13
Category:
Tags: cbac | dal | gwyredd | mesur | trosedd | uned | wythnos

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 2: Mesur Trosedd


1
CBAC U2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 2
Mesur Trosedd
Sut i lywio'r Sioe Sleidiau hon Naill ai
Cliciwch ar yr eicon isod yng nghornel dde y
sgrin i ddewis Sioe Sleidiau. Defnyddiwch y
botwm llygoden chwith i fynd i mewn i bob pwynt
bwled newydd ac i symud ymlaen i'r dudalen nesaf
Gwasgwch Esc i adael y Sioe Sleidiau ar unrhyw
adeg. Neu defnyddiwch y saethau isod i lywio o
un sgrin i'r nesaf. Neu cliciwch ar y geiriau ar
y chwith er mwyn mynd at y sleid briodol o'ch
dewis.
2
Datganiad Hygyrchedd
  • Dyluniwyd y sioe sleidiau hon i fod yn gyfeillgar
    i bobl â dyslecsia a nam ar y golwg.
  • Defnyddir y ffont hygyrch Arial.
  • Ni ddefnyddir ffont du ar gefndir gwyn.
  • Yn hytrach, dewiswyd lliw y ffont a'r cefndir i
    gyd-fynd â'i gilydd er mwyn osgoi gormod o
    wrthgyferbyniad a allai greu anhawster i
    ddarllenwyr dyslecsig.
  • Unionir yr holl destun ar yr ymyl chwith i osgoi
    'afonydd o wyn'.

3
Amcanion Pennod 2
  • Erbyn diwedd y sioe sleidiau hon dylech wybod
  • Mai lluniad cymdeithasol yw ystadegau trosedd.
  • Bod y gyfradd trosedd swyddogol wedi codi fesul
    tipyn dros y 100 mlynedd diwethaf a chyrhaeddodd
    ei huchafbwynt yng nghanol y 1990au.
  • Bod y gyfradd swyddogol yn rhoi amcan llawer yn
    rhy isel o wir gyfradd trosedd.
  • Bod astudiaethau dioddefwyr a hunan-adrodd yn
    dangos bod trosedd yn cael ei danadrodd a'i
    dangofnodi'n sylweddol.
  • Bod ofn trosedd yn anghyfartal âr tebygrwydd o
    fod yn ddioddefwr trosedd.

4
Tueddiadau Troseddu yn y DU ar hyd y Blynyddoedd
Yn gyffredinol mae'r twf hwn mewn trosedd yn cael
ei adlewyrchun fyd-eang.
Fodd bynnag, mae'r cyfraddau yn dal i fod yn isel
yn Japan, Singapore a'r gwledydd Sgandinafaidd.
Mae'r cyfraddau trosedd yn tueddu i fod yn is
mewn gwladwriaethau totalitaraidd.
5
Rhesymau dros y Cynnydd mewn Trosedd
Mwy o weithredu gan y wladwriaeth wrth i
blismona wella, mae mwy o droseddau yn cael eu
datgelu.
Mwy o ddeddfau Oherwydd bod mwy o ddeddfau ar y
llyfr statud, mae mwy o droseddau posibl
(troseddau traffig, twyll ariannol, troseddau
cyfrifiadurol, ayb).
Mwy o ddioddefwyr Oherwydd bod mwy o gyfoeth mae
mwy o bethau i'w dwyn. Fel y bo cyfleoedd wedi
cynyddu, mae troseddau wedi cynyddu hefyd.
Mwy o sensitifrwydd Mae pobl yn fwy sensitif i
adrodd troseddau corfforol a thrais rhywiol i'r
heddlu.
6
Y Gyfradd Trosedd Swyddogol (OCR)
Yn 1998, ychwanegwyd ymosod cyffredin, meddu ar
arf, ymosod ar gwnstabl ac aflonyddu, at y
troseddau a gofnodir.
7
Arolwg Trosedd Prydain (BCS)
Mae'r BCS yn mesur nifer y troseddau yng Nghymru
a Lloegr trwy ofyn i bobl ynghylch y troseddau y
maent wedi eu profi yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf.
Mae'r BCS yn cynnwys troseddau na chânt eu
hadrodd i'r heddlu, felly mae'n ffynhonnell arall
bwysig sy'n wahanol i'r Gyfradd Trosedd Swyddogol.
Mae sawl rheswm pam had yw dioddefwyr yn adrodd
trosedd. Heb y BCS ni fyddai gan y Llywodraeth
unrhyw wybodaeth am y troseddau hyn na chânt eu
hadrodd.
8
Tueddiadau Troseddu Arolwg Trosedd Prydain
Miliynau
9
Tuddiadau o ran Troseddau a Adroddwyd, Troseddau
a Gofnodwyd ar BCS
10
Cyfraddau Trosedd Diweddar
Yn 2004/05, cofnododd Arolwg Trosedd Prydain
(BCS) 10.9 o filiynau o droseddau yn erbyn
oedolion mewn cartrefi preifat yng Nghymru a
Lloegr.
Yn 2004/05, y Gyfradd Trosedd Swyddogol (OCR)
(troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu) oedd 5.6 o
filiynau o droseddau yng Nghymru a Lloegr.
Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 6 o gymharu
âr flwyddyn flaenorol.
Yn 2004/05, dioddefodd bron 24 o'r boblogaeth
ryw fath o drosedd o gymharu â 44 yn 1995
11
Ffiguraur Gyfradd Trosedd Swyddogol yn ôl y
Drosedd 2004-05
Math o Drosedd
2,027,516
Lladrad a thrafod eiddo a ladratwyd
1,184,702
Cyfanswm y troseddau treisgar
679,973
Byrgleriaeth
1,185,388
Difrod troseddol
278,902
Twyll a ffugiad
142,338
Troseddau cyffuriau
121,200
Ysbeilio
60,946
Troseddau rhyw
63,872
Troseddau hysbysadwy eraill
5,562,691
Cyfanswm yr holl droseddau
12
Nodweddion Troseddwyr
Crynhoir y Gyfradd Trosedd Swyddogol (OCR) bob
blwyddyn gan yr heddlu dros y Swyddfa Gartref.
  • Maent yn dangos bod troseddwyr nodweddiadol
  • yn wrywod
  • yn ddosbarth gweithiol
  • yn ifanc
  • yn Ddu mewn niferoedd anghymesur.

Yn ogystal, maent yn debygol o fod â hanes
addysgol gwan, a dod o gartref toredig.
13
Ffigur Tywyll Ystadegau Trosedd
Mae cymdeithasegwyr yn dadlau bod troseddaur
Gyfradd Trosedd Swyddogol yn rhoi amcan llawer yn
rhy isel o'r gyfradd trosedd wirioneddol neu
gywir.
Mae Arolwg Trosedd Prydain yn awgrymu fod gwir
lefel trosedd o leiaf dwywaith y Gyfradd Trosedd
Swyddogol.
Gelwir y gwahaniaeth rhwng y gyfradd trosedd
swyddogol a'r gwir gyfradd trosedd yn ochr
dywyll yr ystadegau trosedd.
14
Lluniad Cymdeithasol yr Ystadegau Trosedd
Swyddogol
Mae ystadegau trosedd yn lluniad cymdeithasol
oherwydd eu bod yn gynnyrch prosesau cymdeithasol
Maent yn ymwneud nid yn unig â throseddwyr ond ag
adrodd ac ag ymddygiad yr heddlu.
Amcangyfrifir gan y BCS mai dim ond 31 o
droseddau a adroddir ac a gofnodir.
15
Safbwynt Swyddogaethol ar Ystadegau
Mae swyddogaethwyr yn rhannu safbwynt y
positifwyr ac yn tueddu i dderbyn ystadegau
trosedd yn anfeirniadol.
Er enghraifft, dechreuodd y ddamcaniaeth
isddiwylliannol a ysbrydolwyd gan y
swyddogaethwyr, dechreuodd, or safbwynt fod
trosedd yn ffenomen ifanc, dosbarth gweithiol,
gwryw.
16
Safbwynt y Marcswyr ar Ystadegau
Maer Marcswyr yn cydadnabod y gogwydd systematig
sy'n ffafrio'r rhai grymus wrth weithredu'r
gyfraith.
Yn gyffredinol, yr uchaf y mae pobl yn y system
gymdeithasol, y lleiaf tebygol y maent o gael eu
harestio, eu cyhuddo, eu herlyn a'u cael yn euog.
Mae'r Marcswyr yn pwysleisio ochr dywyll
sylweddol trosedd coler wen a throsedd
corfforaethol syn gudd i raddau helaeth ac yn
absennol o'r ystadegau trosedd.
17
Safbwynt y Ddamcaniaeth Rhyngweithedd/ Labelu ar
Ystadegau
Mae'r dull deongliadol hwn yn tybio bod ystadegau
trosedd yn ddiwerth i raddau helaeth ac yn
gwyrdroi realiti.
Maent yn dadlau bod ystadegau yn lluniad
cymdeithasol ac nad ydynt yn dweud dim wrthym ni
am wir lefel trosedd, dim ond pwy â'u crynhodd a
sut.
Mae mwy o ddiddordeb gan y Ddamcaniaeth Labelu
mewn gofyn cwestiynau megis pam mae rhai
gweithredoedd yn cael eu hystyried yn fwy
gwyrdroëdig nac eraill a pham mae rhai grwpiau yn
cael eu labelu fel rhai gwyrdroëdig.
18
Safbwynt Realwyr y Chwith ar Ystadegau
Mae Realwyr y Chwith bron yn unigryw (ar wahân
ir Swyddogaethwyr), gan eu bod yn derbyn bod gan
yr ystadegau swyddogol rywfaint o werth ac na
ddylid eu gwrthod yn llwyr.
Maent yn derbyn y safbwynt ystadegol fod
troseddwyr nodweddiadol yn ifanc, gwryw, dosbarth
gweithiol ac yn ddu mewn niferoedd anghymesur.
Gan ddefnyddio astudiaethau o ddioddefwyr, maent
yn amlygu sut mae ar bobl (yn enwedig pobl dlawd
a diamddiffyn) wir ofn trosedd.
19
Safbwynt y Ffeministiaid ar Ystadegau
Mae'r Ffeministiaid yn dadlau fod ystadegau
trosedd yn gwneud yn fach o'r niferoedd o fenywod
syn ddioddefwyr ymosodiad personol trais yn y
cartref, ayb.
Hyd yn ddiweddar roedd yr heddlu'n ystyried
ymosodiadau yn y cartref fel ffraeon teuluol ac
nid oeddynt yn awyddus i ymyrryd.
Mae llawer o fenywod syn dioddef ymosodiadau
corfforol a rhywiol yn amharod i adrodd
troseddau. (Gweler Pennod 8 am fwy o fanylion).
20
Tanadrodd Trosedd
Yn ôl casgliadau Arolwg Trosedd Prydain
roedd 44 o ddioddefwyr trosedd yn teimlo nad
oedd y digwyddiad yn ddigon difrifol i'w adrodd.
honnodd 33 y byddai'r heddlu'n aflwyddiannus yn
datrys y trosedd, felly teimlent nad oedd yn
werth ei adrodd.
nid adroddodd 22 y trosedd am eu bod yn teimlo
na fyddai diddordeb gan yr heddlu.
nid adroddodd 4 droseddau oherwydd yr oeddynt yn
ofni dial. Nid adroddodd 4 droseddau oherwydd y
byddain anghyfleus.
21
Tanadrodd (Parhad)
Nid adroddir rhai troseddau oherwydd eu bod heb
ddioddefwyr e.e. cymryd cyffuriau, smyglo,
puteindra ayb.
Tollau
Nid adroddir rhai troseddau oherwydd y cywilydd a
deimlir gan y dioddefwyr, megis trais rhywiol,
trais yn y cartref, ayb.
Mae trosedd corfforaethol a throsedd coler wen yn
anodd iawn eu datgelu ac felly eu hadrodd.
22
Tangofnodi Yr heddlu fel Hidlyddion'
Yn ôl Moore, Aiken a Chapman (2000) mae'r heddlu
yn hidlyddion syn cofnodi rhai yn unig o'r
troseddau a adroddir iddynt.
Difrifoldeb gellid ystyried bod y trosedd yn rhy
ddibwys.
Statws cymdeithasol' y dioddefwr mae pobl
bwysig yn tueddu i gael ymateb mwy ffafriol na'r
tlawd, crwydriaid a'r digartref.
Dosbarthu'r trosedd efallai nad ymchwilir i fân
ymosodiadau ond fel arfer fe ymchwilir i
ymosodiadau mwy difrifol.
23
Yr Heddlu fel Hidlyddion (parhad)
Disgresiwn mae gan bob swyddog heddlu
ddisgresiwn i gyhuddo neu i ryddau unigolyn hyd
yn oed os ydynt yn gwybod eu bod yn euog.
(Mae'r rhai sy'n ymddwyn yn barchus, yn
gydweithredol ac yn gwrtais yn fwy tebygol o gael
eu rhyddhau am fân droseddau. Ystyriwch yma
'drafodaeth' Aaron Ciçourel, damcaniaeth labelu
Howard Becker a diwylliant cantîn' Skolnick ).
Dyrchafiad a pherthnasoedd yn y gwaith Mae'n
rhaid i swyddogion yr heddlu gerdded ar raff
rhwng ceisio creu argraff dda ar uwch swyddogion
a pheidio ag ymddangos yn rhy awyddus (gan fod
hyn yn creu mwy o waith i'w cydweithwyr).
24
Cwffio Trosedd
Cyfeirir at yr arfer anonest o beidio â chofnodi
troseddau o fewn yr heddlu fel cwffio neu
arferion Sbaenaidd.
Awgrymir gan rai ir gostyngiad mewn troseddau yn
y 1990au gael ei drin trwy 'gwffio' gan yr heddlu
yn hytrach na bod yna wir ostyngiad yn y
cyfraddau trosedd.
25
Astudiaethau o Ddioddefwyr
Arolygon yw'r rhain o bobl y gofynnir iddynt
adrodd pob achos lle buont yn ddioddefwyr trosedd
yn ddiweddar.
Gall yr enghreifftiau fod yn rhai lleol megis
Arolwg Trosedd Islington (1986 a 1995) neun
genedlaethol megis Arolwg Trosedd Prydain (yn
flynyddol).
Mae arolygon dioddefwyr yn rhoi gwell syniad o
faint o drosedd sydd, pwy sy'n debygol o fod yn
ddioddefwr ac ofnau pobl ynghylch trosedd.
Maent hefyd yn amlygur risg y caiff dioddefwyr
eu herlid yr eilwaith.
26
Arolwg Trosedd Prydain
Arolwg blynyddol a gynhelir gan y Swyddfa Gartref
o 40,000 o gartrefi, lle mae data yn cael eu
bwydo i liniaduron.
Bellach mae'n cynnwys adran am drais yn y
cartref, ond fel arfer pennaeth gwryw y cartref
syn cael ei gyfweld.
Nid yw'n cynnwys trosedd corfforaethol neu yn y
gweithle, trosedd heb ddioddefwr neu droseddau yn
erbyn pobl o dan 16 oed.
Felly mae'n dal i roi amcan rhy isel o wir
gyfradd trosedd.
27
Gwendidau'r Astudiaethau o Ddioddefwyr
Mae dibynnu ar gof pobl yn broblem gan fod
atgofion yn gallu bod yn anghywir neu'n dueddol.
Weithiau mae pobl yn gosod troseddau yn y
categorïau anghywir.
Nid yw'r arolygon yn cynnwys troseddau coler wen
megis twyll a throsedd corfforaethol yn
effeithiol mae'r rhain yn dod yn 'droseddau cudd'.
Ni fydd pobl yn adrodd 'troseddau heb ddioddefwr'
megis cymryd cyffuriau neu buteindra.
Mae ymosodiadau personol, trais yn y cartref a
throseddau rhywiol yn cael eu tanadrodd, er
gwaethaf anhysbysrwydd. (Noder gall y ffaith fod
y cyfryngaun sensiteiddio materion annog pobl i
adrodd).
28
Astudiaethau Hunan-adrodd
Mae'r rhain yn gofyn i bobl gyffesu yn onest ir
troseddau y maent wedi eu cyflawni dros gyfnod o
amser.
Gall y rhain fod yn ffordd bwysig o gael darlun
cliriach o rai troseddau megis defnyddio
cyffuriau.
Rhoddodd Anne Campbell astudiaeth hunan-adrodd i
fenywod ifanc a dangosodd y casgliadau fod eu
cyfradd trosedd bron mor uchel â gwrywod ifanc.
Ond yn ôl Steven Box, pe bai mân droseddau yn
cael eu tynnu allan, byddai'r gymhareb
gwryw-benyw llawer yn debycach i'r un swyddogol
sef 51.
29
Gwendidau Astudiaethau Hunan-adrodd
Yn ôl Steven Box (1971), mae gan astudiaethau
hunan-adrodd broblemau dilysrwydd, cynrychioldeb
a pherthnasedd
Dilysrwydd a ydynt yn debyg i fywyd? Gall
atebwyr anghofio, bychanu neu orliwior nifer o
weithgareddau troseddol y buont yn ymwneud â nhw.
Cynrychioldeb Gan fod y rhan fwyaf o
astudiaethau hunan-adrodd yn ymwneud â phobl
ifanc, anaml y byddant yn cynnwys oedolion
proffesiynol neu mewn swyddi reoli.
Perthnasedd' mae'r rhan fwyaf o'r troseddau a
adroddir yn ddibwys.
30
Ffrwydriad Ystadegol mewn Cymdeithas Risg
Bathodd Ulrich Beck (1995, yn y llun ar y chwith)
y term cymdeithas risg i ddisgrifio'r wybodaeth
gyfrannol o risgiau cyfoes, yn cynnwys y cynnydd
mewn trosedd.
Nododd Mike Maguire (2002) sut y cawn ein peledu
gan ddata nid yn unig gan y Swyddfa Gartref ond
gan ymchwilwyr, asiantaethau a hyd yn oed gan
ddioddefwyr. Mae hyn yn ychwanegu at ein
gwybodaeth a'n hofn trosedd.
Dadleuodd Garland (2001) ein bod wedi colli hyder
mewn llywodraethau yn ystod modernedd hwyr. Mae
hyn yn esbonio pam mae llawer o bobl yn credu bod
y gyfradd trosedd yn dal i godi, er ei fod yn
gostwng yn swyddogol.
31
Ofn trosedd
Ond dw i ddim bellach
Ond dw i ddim bellach
Wel, nid ers i mi beidio â mynd allan
Roeddwn in arfer poeni am drosedd
32
Ofn Trosedd
Oedran Nid pobl oedrannus oed yn unig sy'n ofni
trosedd gan mai dan 25 oed yw'r rhai sy'n adrodd
y lefelau uchaf o ofn yn achos y rhan fwyaf o
fathau o drosedd.
Rhyw Mae menywod bron 3 gwaith yn fwy tebygol o
ofni ymosodiad corfforol na dynion.
Ethnigrwydd Mae pobl o gefndiroedd ethnig
lleiafrifol yn ofni trosedd yn fwy na'r
boblogaeth Wyn sydd yn y mwyafrif.
33
Ofn Trosedd ymhlith Pobl dros 60 Oed
Canran y bobl 60 oed a throsodd sy'n teimlo'n
anniogel 'iawn' yn cerdded ar eu pen eu hun yn y
nos, 2004/05 (Ffynhonnell gwefan ONS
www.statistics.gov.uk/)
34
Ofn Trosedd
Y casgliadau gan Arolwg Trosedd Islington (1995)
ac a rennir gan Realwyr y Chwith yw bod yna wir
ofn trosedd ymhlith y cyhoedd.
Y grwp mwyaf tebygol o fod yn ddioddefwyr trais
yw gwrywod ifanc. Mewn 88 o achosion maent yn
adnabod yr ymosodwr.
Yn eironig, ceir y lefelau uchaf o drosedd mewn
ardaloedd difreintiedig canol dinas ac mewn
ystadau tai gwael. Mae'r fath bobl sy'n dioddef
byrgleriaeth mewn perygl mawr o gael eu herlid yr
eilwaith.
35
Cwestiynau Myfyriol
Ym Mhennod 1 fe welson ni sut mae trosedd yn
lluniad cymdeithasol sy'n deillio o
lywodraethaun newid deddfau mewn ymateb i
newidiadau diwylliannol a dylanwad grwpiau grymus.
1. Pam mae hyn yn ei gwneud yn anodd cymharu
cyfraddau trosedd dros gyfnod o amser?
Mae'r rhan fwyaf o systemau cyfreithiol yn
gwobrwyo pobl os ydynt yn pledio'n euog. Yn yr
Unol Daleithiau mae hyn yn hollol agored ar term
amdano yw bargeinio pledion.
2. Pa effaith gallai hyn ei chael ar ddifrifoldeb
y troseddau y cyfaddefir iddynt ac a gânt eu
datrys?
36
Diwedd y Cyflwyniad
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com