Cyfrifoldebau Cadeirydd - PowerPoint PPT Presentation

1 / 23
About This Presentation
Title:

Cyfrifoldebau Cadeirydd

Description:

Mae'r unigolyn gerwin - y Maverick, y Lone Ranger, Hercules oll yn fythau. ... y byddai oedi yn gwneud drwg mawr i'r: ysgol, athro/athrawes, disgybl neu riant. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:99
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 24
Provided by: amdr
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Cyfrifoldebau Cadeirydd


1
Cyfrifoldebau Cadeirydd
  • Mae pobl yn gwbl ryng-ddibynnol. Felly y bu
    pethau erioed. Maer unigolyn gerwin - y
    Maverick, y Lone Ranger, Hercules oll yn
    fythau. Rydyn nin ychwanegu gwerth at ein gilydd
    trwy ryngweithio ac fe amlygir hynny trwy
    gyfathrebu.
  • Mae cyfathrebu yn rhyddhau egni cudd, talent
    cudd, potensial cudd. Ychydig o bethau syn fwy
    grymus.
  • (Awdur Anhysbys)

2
Pwy fydd yn elwa?
  • Darpar Gadeiryddion ac Is Gadeiryddion cyrff
    llywodraethol pob ysgol.

3
Mae gan Gorff Llywodraethol
  • Gyfrifoldeb ar y Cyd
  • Rhaid iddynt weithio fel grwp
  • Mae un aelod yn cymryd rôl arweiniol -
  • Y CADEIRYDD

4
Pwy all fod yn gadeirydd? Unrhyw
lywodraethwr ac eithrio
  • Pennaeth
  • Athro/Athrawes Lywodraethwr
  • Person a gyflogir yn yr ysgol
  • Disgybl cofrestredig yn yr ysgol

5
Ethol Cadeirydd
  • Yng Nghymru bob blwyddyn
  • Fel arfer yn ystod cyfarfod yr Hydref
  • Etholir gan bob llywodraethwr

6
Grymoedd
  • Nid oes gan y cadeirydd unrhyw rymoedd arbennig.
  • Ac eithrio, wrth gwrs, mewn argyfwng.

7
Grymoedd cadeirydd mewn argyfwng.
  • Dim ond ar faterion brys y gall y cadeirydd
    weithredu ar ran y Corff Llywodraethol, pan nad
    oes amser hyd yn oed i gynnull cyfarfod arbennig
    a phan fod modd dirprwyor mater dan sylw yn
    gyfreithlon.
  • Byddai argyfwng yn sefyllfa ble y byddai oedi yn
    gwneud drwg mawr ir ysgol, athro/athrawes,
    disgybl neu riant.
  • Byddai ef neu hi maes o law yn cyflwyno adroddiad
    ar y camau a gymerwyd ir corff llywodraethol.

8
Pleidleisio
  • Mae llywodraethwyr yn gwneud penderfyniadau trwy
    gonsensws a phleidlais.
  • Gallant benderfynu a oes angen cynnal pleidlais
    gudd ai peidio.
  • AC EITHRIO wrth ethol cadeirydd rhaid cael
    pleidlais gudd.
  • Pan for bleidlais yn gyfartal ar unrhyw fater,
    mae gan y cadeirydd ail bleidlais, neu bleidlais
    fwrw.

9
Pleidlais Fwrwr Cadeirydd
  • Mae gan Gadeirydd y Corff Llywodraethol neu
    unrhyw un or is-bwyllgorau bleidlais fwrw.
  • (ac eithrio yng nghyfarfod cyntaf y
    flwyddyn)
  • Y confensiwn yw y bydd y cadeirydd yn pleidleisio
    dros y status quo.
  • (Mae hynnyn gofalu nad yw newidiadau ond yn
    cael eu gwneud pan fod mwyafrif pendant o blaid
    newid)
  • Pan fod gwelliannau i gynnig yn cael eu hystyried
    a phan fo nifer y pleidleisiau ar y gwelliant yn
    gyfartal, dylid defnyddior bleidlais fwrw er
    mwyn cadwr cynnig gwreiddiol, ond nid yw hynnyn
    orfodol!
  • (Pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol
    gall hynny arwain at sefyllfa ryfedd ble y maer
    cadeirydd yn defnyddio ei bleidlais gyntaf un
    ffordd ar ffordd arall wrth ddefnyddior
    bleidlais fwrw.)
  • Mae hynnyn iawn gan nad ywn fwriad ir
    bleidlais fwrw roi mwy o rym neu ddylanwad ir
    cadeirydd.

10
Diswyddor Cadeirydd
  • Gellir diswyddor Cadeirydd trwy benderfyniad gan
    y Corff Llywodraethol.
  • Rhaid i benderfyniad or fath gael ei gadarnhau
    mewn ail gyfarfod iw gynnal heb fod yn llai nac
    14 diwrnod ar ôl y cyfarfod cyntaf.
  • Rhaid ir mater fod yn eitem ar agendar ddau
    gyfarfod.
  • Rhaid ir cynigydd gynnig rhesymau ac mae gan y
    cadeirydd hawl i ymateb.

11
Beth yw rôl cadeirydd effeithiol ar gorff
llywodraethol?
12
Rôl y Cadeirydd yw
  • Gofalu fod gwaith y corff llywodraethol yn cael
    ei gyflawni mewn ffordd gyfreithlon
  • Gofalu fod cyfarfodydd yn cael eu rhedeg yn
    effeithiol
  • Helpur corff llywodraethol i weithio fel tîm
  • Gweithion effeithiol gydar Pennaeth i feithrin
    perthynas gadarnhaol
  • Gofalu fod y corff llywodraethol yn gweithredu
    fel seinfwrdd ir pennaeth ac yn cynnig cyfeiriad
    strategol
  • Cyflawni dyletswyddau a ddirprwyir gan y corff
    llywodraethol

13
  • Defnyddio amser yn effeithiol, eu hamser eu
    hunain
  • ac amser pobl eraill
  • Cyflawni rolau penodol o dan, er enghraifft,
    rheoli perfformiad
  • Ei fod/bod wdi cytuno agenda bwrpasol wedi trafod
    gydar pennaeth ar clerc.
  • Ei fod/bod wedi darllen y dogfennau perthnasol.
  • Ei fod/bod yn gwybod pryd i annog y drafodaeth
    neu pryd i ddod â hi i ben.
  • Gwrandawydd da.
  • Gall grynhoi trafodaeth mewn ffordd syn arwain
    at benderfyniad priodol.

14
Dylai fod gan gadeirydd effeithiol
  • Weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol syn cael ei
    rhannu gan y corff llywodraethol ar staff, ac yn
    enwedig fellyr pennaeth
  • Ddealltwriaeth dda or ysgol ai lle yn y gymuned
    leol
  • Gallu siarad ar ran y corff llywodraethol a
    chyflwyno ei safbwyntiau yn deg a chywir.
  • Bod yn ddi-duedd a chadw cydbwysedd rhwng rhoi
    arweiniad a gofalu fod pob barn yn cael ei
    chlywed
  • Rheoli cyfarfodydd yn dda er mwyn sicrhau fod
    penderfyniadau teg yn cael eu gwneud
  • Bod yn gyswllt allweddol rhwng y pennaeth ar
    corff llywodraethol
  • Cadw trosolwg o weithgareddaur corff
    llywodraethol a dirprwyo i aelodau eraill pan fo
    hynnyn briodol.

15
MAER CADEIRYDD
  • Yn arwain cyfarfodydd.
  • Yn cydlynu gwaith y corff llywodraethol
  • Yn gofalu fod y corff llywodraethol yn cyflawni
    ei ddyletswyddau yn effeithiol
  • Yn gynrychiolydd cyhoeddus ir corff llywodraethol

16
Mae Gwaith y Cadeirydd
  • Yn heriol ond yn rhoi boddhad
  • Yn cymryd amser.
  • Gall fod yn feichus.
  • Yn golygu llawer mwy na mynd i gyfarfodydd.
  • Mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol a
    Llywodraeth Ganol erbyn hyn yn cyfathrebun
    uniongyrchol gyda chadeiryddion ar y rhan fwyaf o
    bethau (ond nid ar bopeth).
  • Mae llawer o wybodaeth iw threulio.
  • Arweinyddiaeth a gweledigaeth ar gyfer y Corff
    Llywodraethol
  • Cyflawnir weledigaeth.
  • Partner mewn arweinyddiaeth gydar pennaeth.

17
Eitemau cyffredin ar gyfer yr Agenda
  • Ymddiheuriadau
  • Cofnodion y cyfarfod diwethaf
  • Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau a dylai is
    grwpiau eraill ag awdurdod dirprwyedig gyflwyno
    adroddiadau ysgrifenedig ir Corff Llywodraethol
    llawn cyn gynted ag y bo modd.
  • Datganiadau o ddiddordeb dylai unrhyw
    lywodraethwr a chanddo/chanddi ddiddordeb
    gwrthdrawiadol ar unrhyw eitem ddatgan hynny a
    gall y Corff Llywodraethol benderfynu os oes
    angen iddynt adael y cyfarfod
  • Datgan diddordebau busnes dylid eu diweddaru
    h.y. llywodraethwyr newydd yn ystod y flwyddyn
    ond dylid eu hadolygun flynyddol ar gyfer pob
    aelod.
  • Adroddiadau ar unrhyw gamau a gymerwyd gan y
    cadeirydd
  • Adroddiad y Pennaeth
  • Hyfforddiant Llywodraethwyr mae gan lawer o
    gyrff llywodraethol lywodraethwr cyswllt dyma eu
    cyfle i adolygu a myfyrio ar eu hanghenion
  • Materion U.F.A.

18
Y Cyfarfod
  • Nid oes y fath beth ag un fformat cywir ar gyfer
    cyfarfod.
  • Yr hanfodion yw trafodaeth bwrpasol yn yr amser
    sydd ar gael.
  • Yn arwain at benderfyniadau eglur, democrataidd
    a synhwyrol.
  • Grwp o bobl syn fodlon ar y diwedd eu bod wedi
    cael cyfle llawn ar anogaeth i gymryd rhan.

19
Arwain a Datblygu
  • Gofalu fod pawb yn cael eu trin yn deg.
  • Cynnig anogaeth i bobl syn brin o hyder.
  • Ffrwyno pobl allai gymryd drosodd.
  • Gofalu fod y gwaith yn cael ei wneud yn
    effeithlon.
  • Gofalu fod digon o amser yn cael ei neilltuo ar
    gyfer y materion pwysicaf.
  • Gofalu fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn unol
    âr rheolau ar protocolau.

20
Cyfaill Beirniadol - Cynhaliaeth
Ymrwymiad a theyrngarwch
Cyfrinachedd
Deall y cyfrifoldeb colectif
Eiriolaeth
Y gymuned ehangach
Cynnal yr Ysgol
Gwrando
Canmol staff, disgyblion, rhieni, am eu
hymdrechion au cyflawniadau
Gwneud amser i ymweld âr ysgol
Datblygu perthnasoedd
21
Monitro Adolygu Perfformiad yr Ysgol
  • Sut mae ein hysgol yn gwneud ar hyn o bryd?
  • A yw rhai rhannau or ysgol yn fwy effeithiol nac
    eraill?
  • A yw rhai grwpiau o ddisgyblion yn gwneud yn well
    nac eraill?
  • Sut mae cyflawniadaur ysgol ar hyn o bryd yn
    cymharu âi chyflawniadau yn y gorffennol?
  • Sut mae perfformiad yr ysgol yn cymharu â
    pherfformiad ysgolion eraill?

22
Rhestr Wirio ar gyfer Cadeiryddion
  • Cytuno gydar clerc ar pennaeth pa eitemau iw
    rhoi ar yr agenda cyn y cyfarfod.
  • Hysbysiad y cyfarfod
  • Cyflwyno llywodraethwyr newydd neu sylwedyddion
    fel aelodau o staff yr ysgol
  • Gweithio gydar clerc yn y cyfarfod i fynd drwyr
    eitemau ar yr agenda.
  • Cadwr agenda yn berthnasol, hylaw a nid yn rhy
    hir.
  • Cadwr cyfarfodydd i fynd dylair trafodaethau
    fod yn berthnasol ni ddylai unrhyw un siarad yn
    rhy aml nac yn rhy hir a dylid mynd drwyr
    agenda mewn da bryd.
  • Gosod cywair cynhwysol gofalu fod pawb yn cael
    cyfle i siarad.
  • Peidio goddef iaith neu ymddygiad syn
    rhywiaethol, hiliol neun rhagfarnllyd mewn
    unrhyw ffordd arall.
  • Gofalu nad ywr trafodaethaun mynd yn llawn
    jargon.
  • Gofalu fod cofnodion y cyfarfod yn eglur a
    chryno, a bod cyfrifoldebau gweithredur personau
    cyfrifol yn cael eu nodi

23
Y Cadeirydd
  • Mae cadeiryddion da werth eu pwysau mewn aur.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com