Cydweddwn - PowerPoint PPT Presentation

1 / 36
About This Presentation
Title:

Cydweddwn

Description:

Daw'r eglwys yn un corff wrth i bawb gymryd rhan. GWEDDIO'N GYHOEDDUS. 3 ... Ond pan fyddi di'n gwedd o, dos i mewn i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:77
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 37
Provided by: elwynri
Category:
Tags: cydweddwn | daw

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Cydweddwn


1
Y RHAGLEN GENHADOL
GWEDDïON GYHOEDDUS
2
CYDWEDD?WN
  • Un Arglwydd, un corff (1 Cor. 12, Eff. 4)
  • Maer eglwys yn un corff.
  • Dawr eglwys yn un corff wrth i bawb gymryd rhan

GWEDDION GYHOEDDUS
3
ARGLWYDD, DYSG I NI WEDD?O (Lc. 111)
  • esiampl Iesu
  • profiadau Cristnogion eraill
  • ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân
  • A OES GENNYCH HOFF WEDDI?
  • A YDYCH YN COFIO SUT Y DAETHOCH AR DRAWS GWEDDI
    AM Y TRO CYNTAF?

GWEDDION GYHOEDDUS
4
PERSONOL A CHYHOEDDUS
  • Ond pan fyddi din gweddïo, dos i mewn ith
    ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddïa ar dy Dad
    sydd yn y dirgel (Math. 66)
  • Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr
    apostolion ac yn y gymdeithas, yn torri bara ac
    yn y gweddïau (Act. 242)

GWEDDION GYHOEDDUS
5
  • Mewn gwasanaeth cyhoeddus, dylair sawl syn
    arwain y gynulleidfa mewn gweddi fod yn ymwybodol
    mair nod yw arwain y gynulleidfa gyfan o flaen
    gorsedd gras nid offrymu gweddi bersonol.

GWEDDION GYHOEDDUS
6
PARATOI A DYCHYMYG
  • Mawl
  • Cyffes
  • Diolchgarwch
  • Eiriolaeth
  • Canolbwyntio ar Dduw
  • Uniaethu âr gynulleidfa

GWEDDION GYHOEDDUS
7
RHANNAU GWEDDI
  • Moliant
  • mawredd, gogoniant, trugaredd a chariad Duw
  • y datguddiad yn Iesu Grist
  • Cyffes
  • pechodau gwybyddus a dirgel, person
  • nol a chyhoeddus a gwaith achubol Crist

GWEDDION GYHOEDDUS
8
RHANNAU GWEDDI
  • Diolchgarwch
  • am Grist ar Efengyl
  • yr Eglwys ai chymdeithas
  • yr Ysbryd ai arweiniad
  • Eiriolaeth
  • Dros y byd yn gyfan, sefyllfaoedd arbennig ac
    amgylchiadau personol, hysbys ac anhysbys

GWEDDION GYHOEDDUS
9
CANOLBWYNTIO AR DDUW GWEDDÏO AR Y TAD
  • Golyga addoli ddarostwng ein holl natur i Dduw
  • bywiogir gydwybod âi sancteiddrwydd
  • porthir meddwl âi wirionedd
  • puror dychymyg âi harddwch
  • agor y galon iw gariad
  • ildior ewyllys iw bwrpas

GWEDDION GYHOEDDUS
10
MYFYRIO AR GRIST YN ENWR MAB
  • Nid swyn na dewiniaeth
  • Hyder seiliedig ar waith achubol Crist
  • Plygu iw ewyllys
  • Os arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau
    ynoch chwi, gofynnwch am beth bynnag a fynnwch,
    ac fei rhoddir i chwi
  • (In. 157)

GWEDDION GYHOEDDUS
11
DIBYNNU AR YR YSBRYD YNG NGRYM YR YSBRYD GLÂN
  • Y maer Ysbryd Glân yn ein cynorthwyo pan
    wedd?om
  • Yn yr un modd, y maer Ysbryd yn ein cynorthwyo
    yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem
    weddïo, ond y maer Ysbryd ei hun yn ymbil trosom
    ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau
  • (Rhuf. 826)

GWEDDION GYHOEDDUS
12
GWRTHRYFEL NID GODDEFGARWCH
  • Nid dweud wrth Dduw beth iw wneud yw gweddi, ond
    dweud wrthor hyn y tybiwn sydd arnom ei angen
  • Nid yw gweddin disodli ymdrech ond y maen
    cyd-fynd ag ymdrech
  • Ni ddylem wedd?o am yr hyn na ddylem weithio
    amdano

GWEDDION GYHOEDDUS
13
DEWCH ÂR CWBL AT EI GILYDD
  • NODWCH, DAN Y PENAWDAU ISOD, DESTUNAU ADDAS I
    WEDDI YN EICH CYD-DESTUN CHI
  • Mawl
  • Cyffes
  • Diolchgarwch
  • Eiriolaeth

GWEDDION GYHOEDDUS
14
AMSER I WEDDI
  • Ceir gweddïau mewn sawl man o fewn oedfa
  • Gwasgarwch wedd?au byr drwyr gwasanaeth
  • Bydd hyn yn sicrhau mwy o gyfleoedd i bobl gymryd
    rhan

GWEDDION GYHOEDDUS
15
CYN DECHRAU
  • Ymunwch mewn gweddi yn y festri cyn cychwyn yr
    oedfa
  • Mewn rhai eglwysi bydd y blaenoriaid yn gwneud
    hyn yn eu tro
  • Canolbwyntiwch ar y gweithgarwch sydd ar fin
    dechrau

GWEDDION GYHOEDDUS
16
  • O Dduw, ein Tad nefol, diolchwn i ti am y cyfle
    hwn i gyfarfod yn dy enw gan ofyn dy fendith ar
    ein hoedfa. Arwain ni drwy rym dy Ysbryd Glân i
    ddweud a gwneuthur wrth dy fodd, a gad i ni fod
    yn ymwybodol ein bod wedi ymgynnull yn dy
    bresenoldeb, wedi ein huno âth bobl ym mhob man
    drwy gymdeithas dy Eglwys sydd yn y nef ac ar y
    ddaear, ac wedi ein galw i glodfori dy Fab, Iesu
    Grist ein Harglwydd. Amen.

GWEDDION GYHOEDDUS
17
GALWAD I ADDOLI
  • Ceisiwch drawo nodyn defosiynol ar gychwyn yr
    oedfa
  • Dylair weddi fod yn fyr a chryno, yn
    canolbwyntio ar y gweithgarwch o addoliad ac yn
    cynnwys yr holl gynulleidfa
  • Gellir defnyddio geiriaur ysgrythur neu emyn

GWEDDION GYHOEDDUS
18
  • Caniatâ i ni o Dduw dy addoli mewn ysbryd a
    gwirionedd, i ddarostwng ein holl natur i ti, fel
    y caiff ein cydwybod ei bywhau drwy dy
    sancteiddrwydd, ein meddwl ei borthi âth
    wirionedd, an dychymyg ei buro gan dy harddwch.
    Cynorthwya ni i agor ein calonnau ith gariad a
    darostwng ein hewyllys ith bwrpas.
  • Boed i ni ddyrchafu ein calonnau atat mewn
    moliant a chariad anhunanol. Drwy Iesu Grist ein
    Harglwydd. Amen.
  • George Appelton, The Oxford Book of Prayer
    Rhif 18

GWEDDION GYHOEDDUS
19
GWEDDI GYFFREDINOL
  • Mawl
  • Cyffes
  • Diolchgarwch
  • Eiriolaeth
  • Gellir dosbarthur elfennau hyn drwyr gwasanaeth

GWEDDION GYHOEDDUS
20
EIRIOLAETH
  • Dylai gweddi o eiriolaeth fod yn destunol
  • Dylid osgoi pentyrru manylion
  • Dylid gochel rhag datgelu cyfrinachau
  • Gall fod yn addas cyfeirio at unigolion neu
    amgylchiadau gwybyddus ir gynulleidfa.

GWEDDION GYHOEDDUS
21
  • Arglwydd, dymunwn gyflwyno ith ofal
  • bawb sydd mewn angen ac mewn gofid
  • ir rhai syn dioddef
  • Arglwydd, rho esmwythad
  • ir rhai syn flinedig,
  • Arglwydd, rho orffwys
  • Ir rhai syn drist
  • Arglwydd, rho ddiddanwch
  • ir rhai syn newynu,

GWEDDION GYHOEDDUS
22
Arglwydd, rho ymborth ir rhai sydd mewn
dryswch ac ansicrwydd, Arglwydd, rho
gyfarwyddyd Ir rhai syn dioddef gormes a
chreulondeb, Arglwydd, rho obaith am ryddid a
gwell byd. Gofynnwn hyn oll yn enw ac yn
haeddiant Iesu Grist ein Harglwydd. Elfed ap
Nefydd Roberts, Amser i Dduw, Rhif 243
GWEDDION GYHOEDDUS
23
  • O Grist, bendithia a chynnal bawb sydd mewn poen
    heddiw. Amen.
  • USPG, The Oxford Book of Prayer, Rhif 436

GWEDDION GYHOEDDUS
24
BENDITHIOR CASGLIAD
  • Gweddi syml ac uniongyrchol
  • Cyflwyno rhoddion y gynulleidfa i Dduw
  • Cydnabod ei haelioni ai gariad
  • Pwysleisio ymgysegriad
  • Gweddi Dafydd (1Cronicl2910-14)

GWEDDION GYHOEDDUS
25
Y FENDITH
  • Maen arferol diweddu oedfa â bendith
  • Patrwm trindodaidd
  • Gellir addasu bendithion yn ôl y galw fel eu bod
    yn addas i amgylchiadau arbennig.

GWEDDION GYHOEDDUS
26
  • O Dduw, ein Tad, danfon ni oddi yma,
  • gyda chysuron y ffydd yn ein clustiau,
  • goleuni dobaith yn ein llygaid,
  • A thân dy gariad yn ein calon.
  • Danfon ni oddi yma,
  • yn ymwybodol o gwmnir cwmwl anweledig o
    dystion,
  • ac yn sicr o gymdeithas ein Harglwydd
    bendigedig.
  • Nid oes bellach fwy iw ddweud,
  • ond mae llawer iw wneud.
  • Felly, yn enw Iesu Grist, ein Harglwydd, awn
    allan i weithio.
  • Gras ein Harglwydd Iesu Grist

GWEDDION GYHOEDDUS
27
HEN FENDITH ALBANAIDD
  • Boed ir ffordd godi ith gyfarfod.
  • Boed ir gwynt fod yn wastad oth du.
  • Boed ir heulwen dywynnun gynnes ar dy wyneb.
  • Boed ir cawodydd ddisgyn yn dyner ar dy feysydd
  • hyd nes y cyfarfyddwn drachefn.
  • Boed i Dduw dy gadw yng nghledr ei law.
  • Hen Fendith Albanaidd, Amser i Dduw Rhif 669

GWEDDION GYHOEDDUS
28
IAITH GWEDDI
  • Y mynegiant symlaf syn cyfleu syniadau a
    theimladau cynulleidfa orau.
  • Y mae didwylledd ac eglurder bwriad yn hollbwysig
  • Y mae gweddi or frest yn rhoi rhyddid mynegiant,
    ond gall ddirywio i fod yn ddim ond cyfres o
    ebychiadau a seibiadau

GWEDDION GYHOEDDUS
29
YSGRIFENNWCH
  • Gall gweddi a baratowyd ymlaen llaw gyfleu
    ysbryd a theimladau cynulleidfa lawn cystal â
    gweddi fyrfyfyr.

GWEDDION GYHOEDDUS
30
LLYFRAU A PHATRYMAU GWEDDI
  • Mae dewis helaeth o lyfrau gweddïau ar gael.
  • Mae llyfrau or fath yn darparu enghreifftiau o
    ddulliau mynegiant a patrymau litwrgaidd.

GWEDDION GYHOEDDUS
31
CYNORTHWYON GWEDDI
  • Croes, darlun, cerddoriaeth a thawelwch
  • Rhowch gyfarwyddyd.
  • Gadewch i ni weddïon ddistaw am ennyd
  • Tran gwrando ar y gerddoriaeth gadewch i ni
    fyfyrio ar yr hyn yr ydym wedi ei glywed

GWEDDION GYHOEDDUS
32
DISTAWRWYDD
  • Dylai pawb fod yn ddistaw gan gynnwys yr
    organydd
  • Mae hyd cyfnod a dreulir mewn tawelwch yn dibynnu
    ar y gynulleidfa
  • Mae 10 eiliad yn ddigon i ganolbwyntio ar syniad
  • Mae angen rhagor o amser i fyfyrio ar agwedd
    meddwl arbennig

GWEDDION GYHOEDDUS
33
YMARFER 1
  • Gorffennwch y weddi
  • Arglwydd, diolchwn i ti am dy Eglwys
  • Arglwydd, gweddïwn am heddwch ar y ddaear
  • Arglwydd, deuwn oth flaen â moliant

GWEDDION GYHOEDDUS
34
YMARFER 2
  • Lluniwch chwe brawddeg y gellid ymateb iddynt âr
    geiriau Gwneler dy ewyllys
  • Lluniwch ymateb priodol i weddi o foliant, cyffes
    a diolchgarwch.

GWEDDION GYHOEDDUS
35
YMARFER 3
  • Lluniwch wedd?au byr fyddain addas
  • i ofyn bendith ar bryd o bysgod a sglodion
  • fel eiriolaeth yn dilyn trychineb cenedlaethol
  • ar gyfer diolchgarwch am y cynhaeaf
  • ar gyfer cyflwyno pregeth

GWEDDION GYHOEDDUS
36
CYDWEDDÏWN
  • Arglwydd, diolchwn am y fraint o ddod ger dy
    fron mewn gweddi. Gofynnwn i ti ein cyfarwyddo
    an cynnal wrth i ni geisio arwain eraill gerbron
    gorsedd gras. Wrth inni wneud hynny paid â gadael
    in gwendid an methiant ein digalonni, ond
    cymell ni âth gariad. Amen

GWEDDION GYHOEDDUS
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com