Ysgol Maliele - PowerPoint PPT Presentation

1 / 13
About This Presentation
Title:

Ysgol Maliele

Description:

Ysgol Maliele. Teimlad rhyfedd oedd troedio'r llwybr i gyfeiriad ... Roedd y cyfan yn gyfarwydd rhywsut gan fod plant ac athrawon ... newydd Angharad, y ddol ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:35
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 14
Provided by: BEC589
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Ysgol Maliele


1
Ysgol Maliele
Teimlad rhyfedd oedd troedior llwybr i gyfeiriad
Ysgol Maliele ar y bore cyntaf. Roedd y cyfan yn
gyfarwydd rhywsut gan fod plant ac athrawon
Maliele wedi anfon lluniau ou hysgol ers in dwy
ysgol gefeillio. A hithau bron yn wyth or gloch
galwodd Mrs. Mahloane ar bawb iw rhesi.
Y cylch haearn yn hongian ar y goeden yw cloch
yr ysgol. Ar ddydd Sul mae hi hefyd yn gloch yr
eglwys.
Plant yn cyrraedd Ysgol Maliele yn y bore.
2
Aeth pawb iw le yn ddi lol ac yn fuan iawn
doedd dim smic iw glywed.
Mae diwrnod Maliele hefyd yn dechrau gyda
gwasanaeth syml, canu emyn a dweud gweddi. Mae eu
ffordd hwy o weddio yn wahanol in ffordd ni.
Disgyblion dosbarth 7 yn gweddio
3
Mae plant Lesotho yn dechraur ysgol pan yn 6 oed
ac yn treulio 7 mlynedd yn yr ysgol gynradd.
Maer dosbarthiadau, fel ym mhob ysgol yn
Lesotho, yn llawn iawn
  • Dosbarth Oed Disgyblion Athrawon
  • 6 39 Mrs Malinkeng
    Mahloane (Prifathrawes)
  • 7 33 Miss
    Florina Machai
  • 3 8 57 Miss
    Mahthatisi Mohapi
  • 9 59 Mr Morake
    Mashobane
  • 10 50 Mrs Mpepuoa
    N Koebe
  • 11 47 Miss
    Makhauheto Thamae
  • 12 37 Mrs Lifelile
    Mahomo ( Dirpwy Bennaeth)
  • Cyfanswm 322

4
Athrawon Ysgol Maliele gyda Mrs. Mahloane yn y
canol a Mrs Mahomo y dirprwy yn gwisgor het.
Mae gan dosbarthiadau 1, 2 a 7 eu hystafelloedd
dosbarth eu hunain, ond maen rhaid ir pedwar
dosbarth arall rannu neuadd yr ysgol un
dosbarth ym mhob cornel. 213 o blant yn rhannu un
ystafell!
Dau o ddosbarthiadaur neuadd
5
Rhaid talu am fynd ir ysgol yn Lesotho. Nid yw
rhai teuluoedd yn gallu fforddior taliad o 110
Moloti y flwyddyn (11) ac felly nid ywr plant
yn mynd ir ysgol ambell flwyddyn. Maen beth
cyffredin ir bechgyn gollir ysgol am flwyddyn
neu ddwy oherwydd mae eu hangen i ofalu am y
gwartheg ar defaid yn ystod y dydd. Or herwydd
ceir nifer o fyfyrwyr 18 oed yn yr un dosbarth â
phlant 12 oed.
Mae Thakamasopha (15 oed) a Nyenyane (18 oed) yn
nosbarth 7.
6
Mae Ysgol Maliele yn dlawd iawn oi chymharu ag
Ysgol Corn Hir. Mae prinder adnoddau mawr yno. Yn
wir, ychydig or plant sydd â chadair i eistedd
arni, a does gan neb bron fwrdd i bwyso arno wrth
ysgrifennu.
7
Does dim lluniau ar furiaur dosbarthiadau na
silffoedd i ddal llyfrau, dim pensiliau lliwio,
paent nag offer mesur, ac mae cyfrifiaduron yn
perthyn i fyd gwahanol iawn.
Disgyblion dosbarth 3 yn defnyddio cerrig iw
helpu i weithio allan symiau rhannu.
Yr unig bel yn yr ysgol oedd tiwban rwber wedii
lapio mewn cadachau.
8
Yn ystod amser egwyl mae cowt Ysgol Maliele, fel
cowt Ysgol Corn Hir a phob ysgol ar draws y byd
yn llawn o swn a miri plant yn chwaraen hapus ac
yn falch o gael seibiant ou gwersi.
Bechgyn yn dawnsio ac yn taro un goes yn erbyn y
llall. Mae gwisgor rhan uchaf o esgidiau glaw yn
helpu i chwyddo swn y taro tran arbed y coesau
ar yr un pryd.
Pa adar maer genethod yn ddynwared?
9
Mae plant Ysgol Maliele yn cael cinio ysgol fel
plant Corn Hir. Does dim cegin yn yr ysgol i
ddarparur bwyd, maen cael ei wneud yng
nghartrefi dwy o wragedd y pentref. Am hanner
dydd daw Mrs. Ramataboc a Mrs Shakhane ar hyd y
llwybr or pentref, y ddwy yn rowlio berfa yn
llawn o papa. Fesul dosbarth, pawb gydai bowlen
wag, maer plant yn mynd at y ddwy ferfa i gael
llwyaid o papa ac ychydig o fresych.
Disgyblion dosbarth 1 yn mwynhau papa i ginio.
10
Roedd ymateb y plant ir anrhegion oddi wrth
plant ac athrawon Corn Hir yn fythgofiadwy.
Mrs Mahloane yn dangos y llyfr newydd am Gymru i
rai o ddisgyblion dosbarth 2
Ffrindiau newydd Angharad, y ddol o Gymru
Tim pel-droed Ysgol Maliele gydau pel newydd o
siop Look Around
11
Rhoi gwynt yn y glôb ac wedyn dilyn y daith o
Gymru i Lesotho.
Bu bron ir hogiau golli arnynt eu hunain yn
gyfan gwbl o weld y bel-droed o siop Look Around,
Llangefni. Trefnwyd gem yn erbyn tim o fechgyn y
pentref.
Fe sgoriodd Lekunta ( trowsus llaes) or gic
gornel hon. Sgoriodd 4 gôl i gyd ac yntaun
dreodnoeth!
12
Beth ydych chin feddwl or gôl a chyflwr y cae?
Tim pel-droed bechgyn y pentref.
13
  • Sut ysgol yw Ysgol Maliele?
  • Er gwaethaf y
  • diffyg adnoddau mwayf sylfaenol
  • nifer o blant yn y dosbarthiadau
  • craciau yn y waliau
  • to yn gollwng dwr
  • tyllau mawr yn y lloriau
  • Mae plant Ysgol Maliele yn
  • hapus iawn
  • gwrtais ac ufudd
  • dangos parch mawr iw hathrawon
  • gweithion galed
  • dangos balchder yn eu llyfrau gwaith
  • gweld gwerth yn y cyfle mae addysg yn ei gynnig
    iddynt
  • Roedd yn bleser ac yn anrhydedd cael bod yn eu
    mysg.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com