Salm 47 Curwch ddwylo, yr holl bobloedd rhowch wrogaeth i Dduw chaneuon gorfoledd' Oherwydd y mae'r - PowerPoint PPT Presentation

1 / 24
About This Presentation
Title:

Salm 47 Curwch ddwylo, yr holl bobloedd rhowch wrogaeth i Dduw chaneuon gorfoledd' Oherwydd y mae'r

Description:

Salm 47 - Curwch ddwylo, yr holl bobloedd; rhowch wrogaeth i Dduw chaneuon ... Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ym mhob man o dan ei lywodraeth: ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:57
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 25
Provided by: alun1
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Salm 47 Curwch ddwylo, yr holl bobloedd rhowch wrogaeth i Dduw chaneuon gorfoledd' Oherwydd y mae'r


1
Salm 47 - Curwch ddwylo, yr holl bobloedd rhowch
wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd. Oherwydd y
mae'r Arglwydd, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin
mawr dros yr holl ddaear. Fe ddarostwng bobloedd
odanom, a chenhedloedd o dan ein traed. Dewisodd
ein hetifeddiaeth i ni, balchder Jacob, yr hwn a
garodd. Sela Esgynnodd Duw gyda bloedd, yr
Arglwydd gyda sain utgorn.
2
Canwch fawl i Dduw, canwch fawl canwch fawl i'n
brenin, canwch fawl. Y mae Duw yn frenin ar yr
holl ddaear canwch fawl yn gelfydd. Y mae Duw yn
frenin ar y cenhedloedd, y mae'n eistedd ar ei
orsedd sanctaidd. Y mae tywysogion y bobl wedi
ymgynnull gyda phobl Duw Abraham oherwydd eiddo
Duw yw mawrion y ddaear- fe'i dyrchafwyd yn uchel
iawn. Salm 471-9
3
Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na
digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i
phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno." Luc 214
4
Gweddiwn Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw ein
Tadau Ith foli ath ogoneddu yn
dragywydd. Bendithiwn y Tad, y Mab ar Ysbryd
Glân Molwn a gogoneddwn ef yn dragywydd.
5
Bendigedig wyt ti, Arglwydd, yn ffurfafen y
nefoedd Molwn a gogoneddwn di yn
dragywydd. Cadw ni a bendithia ni, O Arglwydd
trugarog Am ein bod yn ymddiried ynot.
6
Oni fyddi din ein hadfywio eto, O Arglwydd Er
mwy ith bobl lawenhau ynot? Arglwydd, dangos dy
drugaredd arnom A dyro i ni dy iachawdwriaeth.
7
Arglwydd Dduw, sanctaidd a gogoneddus, o flaen
disgleirdeb dy bresenoldeb, gorchuddiar angylion
eu hwynebau gyda pharch gostyngedig a chariad
addolgar, moliannwn di, Dad, Mab ac Ysbryd Glân,
Drindod fendigaid Bendith ac anrhydedd a
gogoniant a gallu a fo in Duw ni, yn oes
oesoedd. Amen
8
(No Transcript)
9
SALM 148 Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd, molwch
ef yn yr uchelderau. Molwch ef, ei holl angylion
molwch ef, ei holl luoedd. Molwch ef, haul a
lleuad molwch ef, yr holl sêr disglair. Molwch
ef, nef y nefoedd, a'r dyfroedd sydd uwch y
nefoedd.
10
Bydded iddynt foli enw'r Arglwydd, oherwydd ef a
orchmynnodd, a chrewyd hwy fe'u gwnaeth yn sicr
fyth bythoedd rhoes iddynt ddeddf nas torrir.
11
(No Transcript)
12
Dewch, addolwn ac ymgrymwn, Plygwn ein gliniau
ger bron yr Arglwydd an gwnaeth. Oherwydd ef yw
ein Duw, A ninnaun bobl iddo
a defaid ei borfa. Dewch i mewn iw byrth â
diolch ac iw gynteddau â mawl Diolchwch iddo,
bendithiwch ei enw, oherwydd da ywr Arglwydd
13
Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ym
mhob man o dan ei lywodraeth Fy enaid,
bendithiar Arglwydd. Gras ein Harglwydd Iesu a
fod gyda ni Bydded yr Arglwydd gyda ni
oll. Ceisiwn yr Arglwydd ai nerth Ceisiwn ei
wyneb bob amser.
14

Y mae cyfraith yr Arglwydd yn berffaith, yn
adfywio'r enaid y mae tystiolaeth yr Arglwydd yn
sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth Salm 197
15
"Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno
dewch, er eich bod heb arian prynwch a bwytewch.
Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb
dâl. Eseia 551
16
Mor brydferth yw dy breswylfod, O Arglwydd y
Lluoedd. Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at
lewyg am gynteddau'r Arglwydd y mae'r cyfan
ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw.......
Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil
gartref gwell sefyll wrth y drws yn nhy fy Nuw
na thrigo ym mhebyll drygioni.
17
Oherwydd haul a tharian yw'r Arglwydd Dduw rhydd
ras ac anrhydedd. Nid atal yr Arglwydd unrhyw
ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir. O
Arglwydd y Lluoedd, gwyn ei fyd y sawl sy'n
ymddiried ynot. (Salm 84 1-2, 10-12)
18
I Dad y trugareddau i gyd Rhown foliant, holl
drigolion byd Llur nef, moliennwch Ef ar gân
Y Tad, ar Mab, ar Ysbryd Glân
19
Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn y maen
blodeuo fel blodeuyn y maes pan âr gwynt
drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei len ei adnabod
mwyach. Salm 103 15 - 16
20
Salm 341-3,8 Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser
bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau. Yn yr
ARGLWYDD yr ymhyfrydaf bydded ir gostyngedig
glywed a llawenychu.
21
Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw
gydan gilydd. Profwch, a gwelwch mai dy ywr
ARGLWYDD.
22
Salm 117 Molwch yr ARGLWYDD yr holl genhedloedd,
clodforwch ef, yr holl bobloedd. Oherwydd mae ei
gariad yn gryf tuag atom, ac y mae ffyddlondeb yr
Arglwydd dros byth. Molwch yr Arglwydd. Salm
117
23
Am Ddirnadaeth Thomas a Kempis Caniatâ i mi, O
Arglwydd, i wybod yr hyn syn werth ei wybod, i
garu yr hyn syn werth ei garu. i foli yr hyn
syn rhyngu dy fodd di, i drysori yr hyn syn
werthfawr yn dy olwg di, i gasau yr hyn syn
atgas gennyt ti.
24
Gwared fi rhag barnu yn ôl yr hyn a welaf, na
dedfrydu yn ôl yr hyn a glywaf, ond i fedru
dirnad yr hyn sydd yn rhagori, ac uwchlaw pob
dim i chwilio am, a gwneud, yr hyn sydd wrth dy
fodd di, Trwy Iesu Grist. Amen
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com