COMMUNICATIONS - PowerPoint PPT Presentation

1 / 29
About This Presentation
Title:

COMMUNICATIONS

Description:

Czbl metel. Mae gan geblau metel wifrau metel (copr fel arfer) ... maent yn gyflym a nid ydynt yn cael eu heffeithio gan ymyrraeth fel ceblau metel. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:67
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 30
Provided by: kay64
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: COMMUNICATIONS


1
Uned TGCh 1 Rhwydweithiau
2
CYFATHREBIADAU
  • Rhesymau dros dyfiant rhwydweithiau
  • Lleihad mewn costau meddalwedd a chaledwedd yn eu
    gwneud yn fwy cyffredin.
  • Datblydiad y swyddfa di-bapur, gyda rheolwyr yn
    defnyddio prosesyddion geiriau, systemau ffeilio
    a.y.y.b. ar eu desgiau
  • Angen rheolwyr i gael at wybodaeth gyfredol a
    chywir
  • Datblygiad cyfathrebiadau ffôn a lloeren syn
    safonol a dibynadwy.
  • Maen dod yn bwysicach i ddefnyddio dulliau
    newydd o drosglwyddo gwybodaeth yn gyflym ac yn
    ddibynadwy.

3
Diffiniadau
  • Beth yw Rhwydwaith?
  • Casgliad o gyfrifiaduron cysylltiedig (gan geblau
    rhwydwaith) yw rhwydwaith. Gallant felly
    gyfathrebu gydai gilydd. Mae gan bob gorsaf
    gwaith cerdyn datgodio trwy hyn fe gysylltir y
    cêbl âr cyfrifiadur. Maer cerdyn yn cael ei
    weithredu gan feddalwedd y gyrrwr cerdyn.
  • Cyfrifiadur arunig ywr term am gyfrifiadur sydd
    heb ei gysylltu â rhwydwaith.

4
Rhwydweithiau cyfrifiadurol
  • Mae yna ddau fath o rwydwaith gyfrifiadurol
  • Rhwydwaith Ardal Leol (LAN) - maer
    cyfrifiaduron i gyd yn yr un ystafell, neu mewn
    adeiladau gwahanol ar un safle wediu cysylltun
    barhaol gan geblau arbennig..
  • Rhwydwaith Ardal Eang (WAN) - maer
    cyfrifiaduron wedi eu gwasgaru ar draws ardal
    ddeaearyddol eang nid ydynt wediu cysylltu yn
    barhaol maent yn defnyddio gwirfau ffôn,
    trosglwyddyddion radio neu gysylltiadau lloeren.

5
Manteision ac anfanteision rhwydweithiau
  • Manteision
  • Gellir rhannu argraffyddion
  • Gellir rhannu rhaglenni
  • Gellir rhannu data
  • Gall ddefnyddwyr gyfathrebu gydai gilydd
  • Gall ddefnyddwyr e-bostio
  • Nid oes rhaid defnyddio yr un cyfrifiadur.
  • Anfanteision
  • Mae rhwydweithiau yn gostus iw prynu au cynnal
  • Mae pawb yn cael eu heffeithio os yw rhwydwaith
    yn torri
  • Mae angen camau digelwch arbennig i arbed
    defnyddwyr rhag defnyddio rhaglenni a data heb
    awdurdod.

6
Anfanteision Rhwydweithiau Ardal Leol
Nid ywn newyddion da i gyd. Rhaid ir sefydliad
dalu staff technegol i gynnal y rhwydwaith. Mae
angen ychwanegu neu ddileu cyfrifon defnyddwyr
wrth i bobl ymuno neu adael sefydliad. Am fod
data defnyddwyr wedi ei storio ar y disgiau caled
yn y gweinyddion mae angen cadw copïau wrth-gefn
cyson byddai cryn gythrwfwl pe collwyd y data.
Mae rhwydweithiau yn methu o bryd iw gilydd, ac
yna ni all neb yn y sefydliad ddefnyddior
cyfrifiaduron. Wrth i fwy o bobl logio ymlaen ir
rhwydwaith, rhaid ir gweinyddion rannu eu hamser
rhyngddynt efallai bydd y system yn arafu. Mae
defnyddwyr yn anghofio eu cyfrineiriau ac yn
methu logio ymlaen, syn achosi gwaith ychwanegol
i Reolwr y Rhwydwaith. Mae gan bob defnyddiwr le
penodol ar y ddisg galed, yn aml maent yn mynd y
tu hwnt ir cyfyngiadau ac yn galw am ragor o le.
Mae rhai defnyddwyr yn dueddol o greu pob math o
ddrygioni gan hacio i ardaloedd defnyddwyr
eraill, llwytho neu osod meddalwedd heb ganiatâd,
dwyn perifferolion, tagur system ag e-bostion,
anghofio logio i ffwrdd a.y.y.b. Gall ddiogelwch
achosi cryn drafferth.
7
Rhyngrwyd, Mewnrwyd ac Allrwyd
  • Rhwydwaith Ardal Eang ywr Rhyngrwyd - mewn
    gwirionedd, maen gasgliad anferth o rwydweithiau
    wediu cysylltu drwy fynedfeydd - maer rhain yn
    gwneud ir system weithio fel un rhwydwaith
    anferth.
  • Mae nifer o rwydweithiau mewn diwydiant, busnes,
    addysg uwch a swyddfeydd llywodraethol wediu
    cysylltu âr we, er y gall unrhyw un gysylltu gan
    ddefnyddior meddalwedd ar caledwedd priodol a
    modd o gael at ISP (Internet Service Provider
    )...e.e. Freeserve, AOL, Demon a channoedd
    eraill.
  • Gall ddefnyddiwr gael gwybodaeth am unrhyw beth.
    Mae yna gyfarpar chwilio syn galluogi chwilior
    We Fyd-Eang am unrhyw destun, ac mae gan bob
    tudalen gysylltiadau i dudalennau eraill
    a.y.y.b...
  • - Mae hefyd yn bosib lawr lwytho meddalwedd a
    ffeiliau (e.e. graffeg NASA)
  • - byrddau bwletin (fforymau) neu grwpiau
    newyddion, lle gallwch adael negeseuon neu
    gyfathrebun uniongyrchol gyda defnyddwyr eraill.
  • Mae busnesau yn creu gwefannau ar y we
    oherwydd...
  • ..gallant hysbysebu. Maen galluogi pobl i gael
    gwybodaeth am yr hyn maent yn ei wneud ai
    werthu.
  • ..gall bobl e-bostio ag ymholiadau, archebion,
    gofyniadau
  • ..gallant gyrraedd cynulleidfa ryngwladol
  • Gweler y nodiadau diweddarach

8
  • Mewnrwyd
  • Sefydlir mewnrwyd yn gyfan gwbl o fewn LAN.
    Gellir storio a chael mynediad at dudalennaur we
    o unrhyw le ar rwydwaith gellir hefyd ddanfon
    e-bostion yn fewnol o fewn y LAN.
  • Gall gwmni sefydlu mewnrwyd a galluogir
    gweithwyr i ddanfon negeseuon at ei gilydd a
    defnyddio porwr i gyrraedd gwybodaeth y cwmni a
    gedwir fel tudalennau gwe. Gellir ei ddefnyddio
    hefyd ar gyfer hyfforddi staff.
  • Allrwyd
  • Os yw cwmni yn caniatáu mynediad or tu hwnt iw
    fewnrwyd, yna maen dod yn allrwyd. Ceir mynediad
    fel arfer trwy fur gwarchod (meddalwedd sydd ond
    yn caniatáu mynediad ir data i ddefnyddwyr â
    chaniatâd).

9
Gwarchodaeth Rwydwaith
Mae yna dri math o warchodaeth i rwydwaith
gwarchodaeth CORFFOROL, gwarchodaeth MYNEDIAD a
gwarchodaeth DATA.
  • Mae Gwarchodaeth Corfforol yn diogelur
    galedwedd
  • Rhifau cyfresol Cadw cofnod o bob rhif
    gyfresol.
  • Larymau Gwarchod yr ystafell gyfrifiadurol gyda
    larymau.
  • Drysau a ffenestri Iw cloi pan nad ywr
    ystafell yn cael ei defnyddio.
  • Diogelwch rhag tân Defnyddio drysau tân a
    larymau tân

10
  • Diogelwch rhag trosedd
  • Hacio - Hierarchiaeth Cyfrineiriau
  • Dilysu ac awdurdodi ID
  • Amgryptio
  • codio un pen
  • danfon gwybodaeth ar ffurf wedi ei sgramblo
  • datgodio ar y pen arall
  • rhaid bod gan y ddau ben godiau.
  • Cardiau smart
  • Cardiau rhaglenadwy i reoli mynediad i
    ystafelloedd

11
  • Mae Gwarchodaeth Mynediad yn cyfyngu ar y bobl
    gall ddefnyddio rhwydwaith
  • Rhaid rhoi enwau defnyddiwr a chyfrineiriau i bob
    defnyddiwr â chaniatâd. Bydd hyn yn cyfyngu ar
    ddefnydd or rhwydwaith heb awdurdod.
  • Ni ddylai fod modd dyfalu cyfrineiriau a ni
    ddylid rhannu cyfrineiriau gyda neb nau
    hysgrifennu.
  • Dylai ddefnyddwyr newid eu cyfrineiriau yn
    rheolaidd.
  • Gellir cwtogi ar ddefnydd diawdurdod trwy roi
    hawliau gwahanol i ddefnyddwyr gwahanol. Er
    enghraifft, rhoddir mynediad llawn i reolwyr y
    rhwydwaith, tra bydd defnyddwyr eraill wediu
    cyfyngu i ddefnyddio rhaglenni megis prosesyddion
    geiriau.

12
Y rhannau syn gwneud rhwydwaith
Nid mater o gysylltu cyfrifiaduron gyda cheblau
yn unig yw rhwydweithio. Dyma rai cydrannau sydd
iw cael mewn rhwydweithiau fel arfer.
Meddalwedd Gall feddalwedd rhwydwaith fod yn rhan
o system weithredu (e.e. Windows98, Windows XP)
neu gall fod yn feddalwedd arbennig ar gyfer
rheoli rhwydwaith.
Ceblau Defnyddir ceblau cysylltu fel arfer i
gysylltu dyfeisiau mewn rhwydwaith, er y
cysylltir rhai rhwydweithiau gyda thonnau radio
neu donnau meicro.
13
Cysylltyddion Defnyddir cysylltyddion i gysylltu
ceblaur rwydwaith â therfynellau neu dyfeisiau
eraill.
Cardiau Rhyngwyneb Rhwydwaith (NICs) Rhaid cael
dyfais a elwir yn Gerdyn Rhwyngwyneb Rhwydwaith
er mwyn defnyddio cyfrifiadur fel terfynell ar
rwydwaith. Mae NIC yn edrych fel bwrdd cylchedd
ac yn ffitio i un or prif gysylltyddion ar y
prif fwrdd cylchedd (y Famfwrdd/Mother Board) y
tu mewn ir cyfrifiadur Mae gan NCIs
gysylltyddion arnynt ar gyfer ceblaur rhwydwaith.
14
Trawsyrru data
  • Cysylltiadau cyfathrebu
  • Rhaid bod yna gysylltiad cyfathrebu er mwyn i
    gyfrifiaduron gyfathrebu gydai gilydd.
  • Nid ceblau ywr cysylltiadau hyn o reidrwydd nid
    yw wastad yn bosib iw gweld au cyffwrdd.
  • Gall y cysylltiadau fod yn donnau radio,
    meicrodonnau neu is-goch.

15
Cyfryngau Cêbl
Cêbl metel Mae gan geblau metel wifrau metel
(copr fel arfer). Maer data yn cael eu yrru ar
hyd yr rhain, fel arfer ar ffurf cerrynt
amrywiol. Ceblau ffibr opteg Mae ceblau ffibr
opteg yn gweithio wrth drawsyrru data fel cyfres
o bylsau golau ar hyd ffibr gwydr tenau. Mae un
sypyn o wifrau yn cario negeseuon mewn un
cyfeiriad, tra bod sypyn arall yn cario negeseuon
yn ôl yn y cyfeiriad arall. Mae opteg ffibr yn
ddefnyddiol ar gyfer trawyrru data oherwydd maent
yn gyflym a nid ydynt yn cael eu heffeithio gan
ymyrraeth fel ceblau metel.
16
Cyfryngau di-wifren
Tonnau radio Maer data yn cael ei drawsyrru trwy
gyfes o donnau radio. Meicrodonnau Mae ffonau
symudol yn defnyddio meicrodonnau. Maent yn
ddelfrydol ar gyfer cysylltu cyfrifiaduron mewn
dau adeilad syn gymharol agos at ei gilydd. Mae
systemau lloeren hefyd yn defnyddio
meicrodonnau. Is-goch Mae hyn yn gweithio yn
eithaf tebyg i reolydd teledu. Ni all signal
is-goch deithio yn bell iawn mae hyn yn cyfyngu
ar eu defnydd. Feu defnyddir yn aml y gysylltu
gliniadur ac argraffydd fel y gellir danfon data
rhwng y ddau heb geblau.
17
Y Rhyngrwyd
  • Maer Rhyngrwyd yn cysylltu PCs preifat,
    rhwydweithiau cyhoeddus a rhwydweithiau busnes
    gan ddefnyddio gwifrau ffôn mewn un rhwydwaith
    byd-eang anferth. Mae hefyd yn galluogi
    defnyddwyr cyfrifiaduron i rannu a chyfnewid
    gwybodaeth gydai gilydd o unrhyw le yn y byd.
  • Mae gwybodaeth ar y we yn dod mewn sawl fformat
    gwahanol e.e. ffeiliau testun e-bost syml,
    cerddoriaeth, fideo, meddalwedd cyfrifiadurol.

18
Cysylltu âr we
  • Mae angen cyfrifiadur â modem a llinell ffôn.
  • Maen bosib cael cysylltiad cyflymach gyda math
    arbennig o ffôn digidol a elwir yn linell ISDN
    nid oes angen modem ar hwn.
  • Gellir prydlesi llinell arall yn arbrnnig ir we.
  • Mae llinell brydles yn linell ffôn breifat syn
    agored 24awr y dydd.
  • Band-eang mae llinellau digidol cyflym iawn ar
    gael ond maent yn gostus.
  • Mae llwybrydd yn ddarn arbennig o feddalwedd syn
    cydlynnur cyfnewid negeseuon rhwng cyfrifiaduron
    a gweddil y Rhyngrwyd.
  • Dod o hyd i Ddarparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd
    (Internet Service Provider (ISP))

19
Y We Fyd-eang (WWW)
  • Y we fyd eang yw rhan helaethaf y rhyngrwyd
  • Mae tudalennau o wybodaeth yn dechrau gyda
    hafan (home page)
  • Cysylltir tudalennau gydai gilydd trwy
    ddefnyddion hyperdestun
  • Cynhyrchir hyperdestun trwy ddefnyddio iaith
    clustnodi hyperdestun (Hypertext Mark-up language
    neu HTML)

20
Porwr
  • I bori, neu syrffio, ar y we, mae angen rhaglen
    bori
  • Mae Microsoft Internet Explorer a Netscape
    Navigator yn defnyddio peiriannau chwilio i
    chwilio am wybodaeth trwy ddefnyddio
    allweddeiriau.

21
URL
  • Uniform Resource Locator
  • Maer rhain yn rhoi lleoliadau safleoedd unigol
    ar y We Fyd-Eang
  • Maer rhan fwyaf yn cychwyn gyda http//www.
  • Maent yn aml yn datgelur wlad maer wefan wedi
    ei lleoli, e.e. .uk ar gyfer y Deyrnas Unedig.
    Maent hefyd yn dangos os ywr wefan yn fasnachol
    gyda naill ai .co neu .com, sefydliad
    llywodraethol gyda .gov, neu sefydliad academaidd
    gyda .ac

http// - defnyddio iaith clustnodi
hyperdestun www. - y we fyd-eang
demon. - enwr parth (enwr perchennog ar math
o wefan) Com - parth
lefel-uchaf, sefydliad neu wlad
/index - tudalen arbennig
22
Gwasanaethau sydd ar gael ar y we
23
Siopa ar-lein
  • Galluogi defnyddwyr y we i brynu nwyddau a
    gwasanaethau ar-lein unrhyw bryd, ddydd a nos,
    heb orfod teithio i unrhyw le a heb y drafferth o
    siopa mewn siopau prysur
  • Mae rhai cwmnïau yn cynnal eu holl fusnes dros y
    we ac yn cyrraedd marchnad fyd-eang.

Ebay
24
Manteision siopa ar-lein ?
  • Nid oes rhaid talu costau busnes arferol megis
    rhent a chyflog.
  • Gellir cynnig amrywiaeth ehangach o nwyddau
    oherwydd gellir eu harchebu or cyflenwyr yn ol
    yr angen, yn hytrach cadw nwyddau ar silffoedd
    drwyr amser.
  • Nid oes arian wedi ei glymu mewn stoc sydd heb eu
    gwerthu, na chwaith yn cael ei wastraffu ar
    nwyddau amhoblogaidd.
  • Gellir casglu data am gwsmeriaid au harferion
    prynu yn uniongyrchol gellir defnyddior data
    yma i gynnig gwasanaeth llawer mwy personol syn
    unol â gofynion ac anghenion cwsmeriaid.

25
Anfanteision siopa ar-lein?
  • Fel arfer, mae angen mynedu rhifau cardiau debyd
    neu gredyd cyn cwblhau trafodion ar-lein. Mae yna
    beryg y gall y rhifau hyn gael eu dwyn gan hacwyr
    au defnyddio ganddynt i wneud trafodion heb
    awdurdod. Maer defnydd o eiriau cytûn, gwefannau
    taliad diogel, amgryptio a chardiau smart yn
    gallu helpu diogelu rhag hyn.
  • Gall droseddwyr sefydlu gwefannau ffug yn cynnig
    nwyddau a gwasanaethau, yn aml gan ddefnyddio enw
    cwmni go-iawn. Gall hyn arwain pobl i wario arian
    ar nwyddau/gwasanaethau na fyddant fyth yn eu
    derbyn. Mae hyn hefyd yn rhoi enw drwg ir
    cwmniau gwreiddiol.
  • Mae casglu gwybodaeth am gwmnïau maent yn
    cystadlu yn eu herbyn yn haws i fusnesau gallant
    chwilio trwy wefannau cystadleuwyr yn hawdd. Mae
    hyn yn ei gwneud hin anoddach i aros yn
    gystadleuol.

26
Systemau archebu ar-lein
  • Galluogi defnyddwyr y we i ymchwilio, a hefyd i
    archwilio, pethau megis
  • Tocynnau ir theatr, sinema neu gyngherddau
  • Seddi ar fysiau, trenau ac awyrennau
  • Ystafelloedd mewn gwestai
  • Yn y bôn, gwefan y gellir ei defnyddio i gyrraedd
    cronfa ddata pell yw system archebu ar-lein
  • Manteision
  • Ni ddylai archebu gormod ddigwydd
  • Gellir cynnig dewisiadau eraill os nad ywr
    cyntaf ar gael
  • Mynediad at gronfa ddata ehangach o wybodaeth

27
? Peryglon defnyddior we ?
  • Hacwyr
  • Meddalwedd mur gwarchod
  • Hierarchaeth cyfrineiriau
  • Firysau
  • Feu lledir yn aml trwy e-bost
  • Rhaglenni canfod a dileu firysau
  • Defnydd anweddus a phedoffilyddion mewn siopau
    siarad
  • Meddalwedd i rwystro mynediad i wefannau
  • Goruchwyliaeth oedolion
  • Gwasanaeth hidlo gwefannau gan yr ISP

28
Manteision defnyddior we
  • Cyfathrebun hawdd gyda phobl eraill
  • Adnodd dysgu gwerthfawr oherwydd bydd angen
    sgiliau defnyddior we ar gyfer swyddi yn y
    dyfodol
  • Galluogi pobl i weithio o adref gan ddefnyddio
    rhwydweithiau cyfrifiadurol (teleweithio)
  • Gellir cael mynediad at swm anferth o wybodaeth
  • Gellir cael mynediad at wybodaeth gyfoes ar-lein
    yn syth heb orfod aros nes ei gyhoeddi
  • Mae cyhoeddi dogfennau ar y we yn arbed papur
  • Adnodd gwerthfawr i gwmnïau hysbysebu a rhedeg
    busnes

29
Anfanteision defnyddior we
  • Gallai llawer or wybodaeth fod yn amherthnasol
    neun anghywir, oherwydd nid ywr wybodaeth yn
    cael ei wirio
  • Mae llawer o wybodaeth anweddus, megis
    pornograffi, ar gael yn hawdd
  • Gellir rhyng-gipio negeseuon ar draws y we yn
    hawdd au cam-ddefnyddio gan bobl eraill
  • Gellir creu biliau ffôn mawr yn hawdd
  • Gall wario gormod o amser ar y we arwain at
    ddiffyg cydweithredu wyneb-yn-wyneb gyda phobl
    eraill a cholli sgiliau cymdeithasol
  • Mae bod ar-lein yn cynyddur peryg y gall hacwyr
    neu firysau achosi difrod ir cyfrifiadur
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com