Data, Hysbysiaeth a Gwybodaeth - PowerPoint PPT Presentation

1 / 24
About This Presentation
Title:

Data, Hysbysiaeth a Gwybodaeth

Description:

Dilysiad haws. Gyda nifer cyfyngedig o godau mae'n haws eu priodi gyda rheolau a gwneud yn siwr ... fod yn haws i'w cofio. Gall codau byr fod yn haws i'w cofio ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:36
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 25
Provided by: ngflcy
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Data, Hysbysiaeth a Gwybodaeth


1
Data, Hysbysiaeth a Gwybodaeth
2
Data
  • Ffeithiau crai a ffigyrau
  • Llythrennau, rhifau a chyfuniad o lythrennau a
    ffigyrau
  • Gwerthoedd sydd ar eu pennau eu hunain heb ystyr

3
Esiamplau o Ddata
  • 150170
  • Cymraeg
  • 23
  • 1066

Does dim ystyr i'r data uchod
4
Hysbysiaeth
  • Data sy'n cael ystyr drwy ei gyd-destun
  • Wedi ei brosesu i ffurf sy'n ddefnyddiol i'r
    defnyddiwr

5
Fformiwla ar gyfer Hysbysiaeth
6
Enghreifftiau o Hysbysiaeth
  • Dyddiad geni Lisa ydy 15/01/70
  • Mae'r arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Dim ond 23 o ddyddiau hyd nes fod y taliad yn
    ddyledus
  • Mae'r cyfrifiadur yn costio 1066

Mae ystyr gan y brawddegau uchod
7
Hysbysiaeth (Data Cyd-destun)
  • Dyddiad geni Lisa ydy 15/01/70
  • Mae'r arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Dim ond 23 o ddyddiau hyd nes fod y taliad yn
    ddyledus
  • Mae'r cyfrifiadur yn costio 1066

Mae ystyr gan y brawddegau uchod
8
Gwybodaeth
  • Yn deillio o hysbysiaeth drwy gymhwyso rheolau
    iddo
  • Gall penderfyniadau gael eu gwneud os gellwch
    gymhwyso gwybodaeth i'r hysbysiaeth

9
Gwybodaeth
  • Gwybodaeth ydy canlyniad dehongli hysbysiaeth
  • Gall Mae angen i ni archebu mwy o getris inc ar
    gyfer yr argraffydd fod yn wybodaeth a gafwyd ar
    ôl cyfrif nifer y cetris oedd ar ôl heb eu
    defnyddio.
  • Defnyddiwn wybodaeth i adeiladu set o reolau
  • Mae hi'n gaddo eira a rhew / iâ yr wythnos nesaf
    felly fe fydd yn rhaid i ni roi archeb fwy am
    ddadrewydd a gwrth-rewydd

10
Y Gwahaniaeth Rhwng Hysbysiaeth â Gwybodaeth
  • Mae hysbysiaeth yn seiliedig ar ffeithiau
  • Mae gwybodaeth yn seiliedig ar reolau, ac mae'r
    rheolau hyn yn seiliedig ar debygolrwydd, yn
    hytrach na sicrwydd

Mae pwysedd atmosfferig uchel yn hysbysiaeth. Mae
daroganwyr tywydd yn dehongli'r hysbysiaeth hon
e.e. mae pwysedd uchel yn golygu tywydd sefydlog.

11
Dyfarniadau Gwerth
  • Mae pwysau 9 disgybl ym mlwyddyn 12 yn cael eu
    rhestru isod

Gwnewch dabl gyda'r penawdau canlynol a rhowch
bob person yn y categori cywir
Cymharwch eich canlyniadau
12
Dyfarniadau Gwerth (defnyddio Pen Bwrdd Gwyn)
13
Ffynonellau Data
  • Data wedi ei gasglu o ffynhonnell
  • Data wedi ei gasglu yn anuniongyrchol
  • Data wedi ei drosglwyddo / brynu
  • Data o set ddata

14
Data Wedi ei Gasglu o Ffynhonnell
  • Wedi ei gasglu fel rhan o fasnachu
  • Cardiau ffyddlondeb
  • Wedi ei gasglu mewn arolwg
  • wedi ei gofnodi ar ffurflen Adnabyddiad Marc
    Gweledol AMG (OMR)
  • wedi ei gofnodi mewn cyfweliad neu holiadur
  • Wedi ei gasglu drwy samplu
  • Data o synwyryddion e.e. Gorsaf dywydd, ystadegau
    trafnidiaeth

15
Data Wedi ei Gasglu'n Anuniongyrchol
  • Data yn cael ei ddefnyddio i bwrpas gwahanol i'r
    hyn y casglwyd ef yn wreiddiol
  • Mae cwmni cerdyn credyd yn defnyddio data am bob
    pryniant er mwyn gyrru bil i'r cwsmer. Os
    defnyddir y data hwn wedyn i ddarganfod arferion
    gwario'r cwsmer er mwyn gyrru hysbysebion penodol
    ato yna, bydd hyn yn defnyddio data yn
    anuniongyrchol.

16
Data Wedi ei Drosglwyddo / Brynu
  • Data wedi ei drosglwyddo / brynu mae'r rhain yn
    ffurfiau o gaffael data ac yna'r data yn cael ei
    ddefnyddio mewn ffurf wahanol i'r hyn y bwriadwyd
    iddo'n wreiddiol.

17
Data o Setiau Data
  • Data yn cael ei gynhyrchu drwy brosesu
    ffynhonnell ddata
  • gall y ffynhonnell ddata o archfarchnad fod y
    nifer o duniau Ffa Pob ar gychwyn y mis a'r nifer
    ar ddiwedd y mis.
  • Canlyniad y prosesu ydy'r nifer a werthwyd yn
    ystod y mis.
  • ArchifauDefnyddio data a gasglwyd ynghynt e.e.
    enwau a chyfeiriadau pobl a fynychodd gwrs TG.

18
Effaith Ansawdd Ffynhonnell Ddata ar yr
Hysbysiaeth a Gynhyrchwyd
  • Holiaduron Annibynadwy Os holir yr unigolyn
    anghywir yna, ni ellir dibynnu ar y data, er yn
    gywir, e.e. gofyn barn llysieuwr am ei farn / ei
    barn am gig.
  • Data AnghyflawnGall nwyddau adael siop mewn sawl
    ffordd y prif un ydy gwerthiant a gofnodir gan
    ddarllenwyr côd bar. Pe byddai rheolwyr yn
    dibynnu ar y data hwn yn unig yna, byddai'r
    hysbysiaeth yn anghywir. Mae nwyddau hefyd yn
    cael eu dwyn ac yn cael eu difrodi.

19
Effaith Ansawdd Ffynhonnell Ddata ar yr
Hysbysiaeth a Gynhyrchwyd
  • SIMSA (GIGO) (Sbwriel i Mewn Sbwriel Allan)Os
    ydy'r ffynhonnell ddata yn anghywir yna,o
    ganlyniad, bydd yr hysbysiaeth yn anghywir.
  • Mae ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd y data yn
    cynnwys
  • Perthnasedd (os nad ydy'r hysbysiaeth yn
    berthnasol)
  • Oedran (os ydy'r hysbysiaeth yn hen)
  • Cyflawnrwydd (os ydy peth o'r wybodaeth ar goll)
  • Cyflwyniad (os na ellir cael hyd i'r hysbysaeth
    oherwydd y dull y mae wedi cael ei gyflwyno)
  • Safon y Manylion (Gormod neu rhy fach o fanylion
    mae'r ddau yn cael effaith)

20
Codio Data
  • Newid y data gwreiddiol i fersiwn llai er mwyn ei
    storio yn y cyfrifiadur
  • storio misoedd y flwyddyn fel Ion, Chwe, Maw
  • storio gwrywaidd a benywaidd gel G a B

21
Problemau Codio Data
  • Data ddim o angenrheidrwydd yn fanwl gywire.e.
    Lliw gwallt sy'n frown golau yn cael ei godio fel
    brown
  • Mae'n rhaid i'r defnyddiwr wybod y codauOs nad
    ydy'r defnyddiwr yn ymwybodol o'r codau yna, all
    o/hi ddim dehongli'r data

22
Manteision o Godio Data
  • Angen llai o ofod storio Os storir Mer yn lle
    Mercher yna mae angen llai o ofod storio
  • Gall chwiliadau fod yn gyflymach ac yn fwy manwl
    gywir Gan fod llai o ddata'n cael ei storio
    mae'n gyflymach i'w chwilio ac i wneud
    cymhariaethau rhwng darnau o ddata l
  • Dilysiad hawsGyda nifer cyfyngedig o godau
    mae'n haws eu priodi gyda rheolau a gwneud yn
    siwr mai dim ond y codau sydd ar gael a
    fewnbynnir
  • Gallant fod yn haws i'w cofioGall codau byr fod
    yn haws i'w cofio nag enwau llawn

23
Costau Cynhyrchu Hysbysiaeth
  • Caledwedd
  • Casglu, prosesu ac allbynnu'r data
  • Gofod storio i ddal y data
  • Prynnu a chynnal a chadw offer
  • Meddalwedd
  • Gofynnol i storio a phrosesu data
  • Trwyddedau meddalwedd a chytundebau cynnal a
    chadw
  • Gweithlu
  • Pobl yn cael eu cyflogi i gasglu mewnbynnu a
    chynnal data
  • Hyfforddiant staff
  • Angen i bobl ddadansoddi a pharatoi adroddiadau
    ar ddata

24
Hysbysiaeth fel Nwydd
  • Mae hysbysiaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer
    amrywiaeth o ddibenion
  • Gwneud Penderfyniad
  • Cynllunio
  • Rheoli
  • Cofnodi Deliadau Ariannol
  • Mesur Perfformiad
  • Rhaid i gostau beidio gorbwyso'r manteision
  • mwya'r budd mwyaf yr arian y byddwch yn barod i'w
    wario
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com