Title: Mae Uned HY1 yn seiliedig ar uned sefydledig gyda pherfformiadau da ar draws yr holl unedau'
1UNED HY1 ASTUDIAETH O GYFNOD
HY1
Mae Uned HY1 yn seiliedig ar uned sefydledig gyda
pherfformiadau da ar draws yr holl unedau.
Mae llawer iw ganmol yn y gwaith o ansawdd uwch
oedd yn canolbwyntio ar y ddau brif sgìl
gofynnol EGLURO - yn Rhan (a) a GWERTHUSO / DOD I
GASGLIAD - yn Rhan (b)
Maen amlwg bod y rhan fwyaf o ganolfannaun
ymwybodol or amcanion asesu ac yn eithaf bodlon
â gofynion y ddau gwestiwn strwythuredig sydd iw
cyflawni mewn 90 munud.
2AMCANION ASESU
HY1
- AA1a
- (Defnyddio Gwybodaeth ac Ansawdd y Cyfathrebu
Ysgrifenedig) - Mae YMGEISWYR yn dwyn i gof, dethol a
chyflwynon gywir wybodaeth hanesyddol, ac yn
mynegi eu gwybodaeth au dealltwriaeth o hanes
mewn dull eglur ac effeithiol.
3AMCANION ASESU
HY1
- AA1b (Sgiliau)
- Mae YMGEISWYR yn arddangos eu dealltwriaeth or
gorffennol trwy ei egluro ai ddadansoddi a dod i
gasgliadau cadarnhaol ynglyn â -
- chysyniadau allweddol megis achosiaeth,
canlyniad, parhad, newid ac arwyddocâd mewn
cyd-destun hanesyddol -
- cysylltiadau rhwng nodweddion allweddol y
cyfnodau a astudiwyd.
4HY1
Roedd yr arholwyr yn disgwyl y byddai ymatebion
da
yn canolbwyntio yn Rhan (a) ar egluro pam y
digwyddodd newid neu ddatblygiad penodol mewn
ffordd ddeallus gydag ychydig ymgais i ddangos
sut gwnaeth un ffactor arwain at un arall.
Maer dull hwn yn hybu esboniad cydlynol ac yn
aml iawn yn elwa o gael ei ysgrifennu mewn trefn
gronolegol.
Dylai ymgeiswyr geisio cynnig esboniad syn
gysylltiedig ac yn datblygu o un ffactor i un
arall yn hytrach na darparu rhestr siopa o
ffactorau.
5Roedd yr arholwyr yn disgwyl y byddai ymatebion da
HY1
- yn Rhan (b) maer pwyslais ar y gallu i werthuso
amrywiaeth o ffactorau a dod i gasgliad yn
hytrach na disgrifion unig yr hyn a ddigwyddodd
yn y gorffennol. - Maer broses werthuso yn golygu pwyso a mesur y
ffactorau amrywiol sydd wedi effeithio ar
sefyllfa yn y gorffennol. - Maer arholwyr yn disgwyl y bydd ymgeiswyr yn
gallu asesu pwysigrwydd cymharol y ffactorau
amrywiol wrth ystyried testun maent wedii
astudio a dod i gasgliad sydd wedii gefnogin
dda ar draws cyfnod llawn y testun.
6HY1
Gwelwyd ychydig wallau cyffredin ym mherfformiad
ymgeiswyr y mae modd eu goresgyn
Amseru Yn syml, cynghorir ymgeiswyr i neilltuo
45 munud i bob traethawd. Nid oes unrhyw werth
ysgrifennu ail draethawd byr sydd heb ei
ddatblygu. Mae hynnyn golygu bod RHAID i
ymgeiswyr baratoin dda ar gyfer DAU destun ac ni
ddylent ddibynnu ar hoff destun neu fethu ag
adolygu dau destun yn drylwyr.
7HY1
Ymdriniaeth Methodd nifer bach o ymgeiswyr, ym
mhob papur, i gynnig ymdriniaeth lwyr or cyfnod
cyfan, yn enwedig yn is-gwestiwn Rhan (b) ac
felly methwyd ag ennill marciau mwy llawn. Mae
angen atgoffa ymgeiswyr bod angen iddynt ystyried
y testun CYFAN beth bynnag yw canolbwynt y
ffactor canolog yn y cwestiwn er mwyn ennill
marciau Lefel 3 yn is-gwestiwn Rhan (b). Bydd
rhan (b) y cwestiwn yn arholi gallur ymgeisydd i
ystyried y testun llawnach.
8HY1
ATEB Y CWESTIWN A OSODWYD Roedd nifer o
ymgeiswyr yn tueddu diystyrur ffactor allweddol
yn rhan (b) y cwestiwn a osodwyd ac yn hytrach
wedi bodloni ar ddadlwytho gwybodaeth ar
amrywiaeth o ffactorau eraill. Nid ywr ymatebion
hyn syn seiliedig ar ddull rhestru, mecanyddol,
yn cynnig gwerthusiad dilys. Cawsant eu marcio
ar Lefel 2. Mae angen i ymgeiswyr fod yn ceisio
gwerthuso gwerth cymharol y ffactorau a
ddadansoddwyd ac i ddefnyddio rhyw fath o ddull
rhestru i ennill marciau Lefel 3.
9HY1
GWYBODAETH FFEITHIOL Mae hefyd yn amlwg nad oes
gan rai ymgeiswyr wybodaeth am rai agweddau or
fanyleb. Gellir cywiro hyn trwy sicrhau
ymdriniaeth lawn o gynnwys y cwrs fel yr
amlinellir yn y fanyleb. Roedd rhai ymgeiswyr yn
ansicr neun anymwybodol o enwau, dyddiadau,
datblygiadau a digwyddiadau yn y rhan fwyaf o
bapurau a osodwyd. Dyma faes y mae angen i
ganolfannau ganolbwyntio arno gan ymdrin ag ystod
lawn y fanyleb a sicrhau bod ymgeiswyr yn
paratoin dda ar gyfer yr arholiad.