Dysgu i Arwain ein Bywydau - PowerPoint PPT Presentation

1 / 8
About This Presentation
Title:

Dysgu i Arwain ein Bywydau

Description:

Cyfreithwyr dros yr erlyniaeth yn creu areithiau i ddangos bod Truman yn euog ... Yn Mawrth 1947, traddododd Truman araith yn amlinellu ei gredo ynglyn a ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:47
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 9
Provided by: pet89
Category:
Tags: arwain | bywydau | dysgu | ein | truman

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Dysgu i Arwain ein Bywydau


1
Dysgu i Arwain ein Bywydau
Teitl Truman ar Brawf
Sgil Dinasyddiaeth
GCaD Cymru UDA 1929 -1990
Credir bod pob delwedd/cartwn yn eiddo cyhoeddus.
Cafwyd llawer or delweddau or gwyddoniadur
wikipedia ar y rhyngrwyd yn http//en.wikipedia.or
g
2
  • Gosodir yr ystafell ddosbarth yn ôl y patrwm
    isod. Mae gan bawb ran!
  • Cyfreithwyr dros yr erlyniaeth yn creu areithiau
    i ddangos bod Truman yn euog
  • Cyfreithwyr dros yr amddiffyniaeth yn creu
    areithiau i brofi ei fod yn ddieuog
  • Tystion yn gweithio gyda chyfreithwyr y tystion i
    greu datganiadau / sgriptiau cwestiwn ac ateb i
    ddangos bod Truman yn euog / ddieuog.

Rheithgor
Diffynnydd Truman
Cyfreithwyr dros yr amddiffyniaeth
Cyfreithwyr dros yr erlyniaeth
Safler tyst
Clerc y llys
Barnwr
3
The Marshall Plan
Yn Mawrth 1947, traddododd Truman araith yn
amlinellu ei gredo ynglyn â chomiwnyddiaeth
(Athrawiaeth Truman). Gwnaeth yn eglur yn ei
araith y byddai UDA yn ymwneud yn weithredol ym
materion mewnol gwledydd eraill er mwyn atal
Comiwnyddiaeth rhag lledu. Dyfeisiodd George
Marshall, yr Ysgrifennydd Tramor (gweler llun), a
ysbrydolwyd gan yr araith yma, a chan ymweliad ag
Ewrop pan welodd llawer yn dioddef yn ofnadwy yn
Ewrop wedir rhyfel, gynllun i anfon Cymorth i
wledydd Ewrop. Bwriad y Cymorth oedd lleddfur
dioddefaint yn Ewrop fel y byddai Ewropeaid yn
llai tebygol o droi at gomiwnyddiaeth i ddatrys
eu problemau ac yn fwy tebygol o weithion agos
gyda America. Dan y Rhaglen Adferiad Ewropeaidd
(ERP), neu Gynllun Marshall, anfonwyd 12.5
biliwn o Gymorth Marshall i 16 o wledydd Ewrop.
Stamp post U.D. a gyhoeddwyd ym 1997 i ddathlu
penblwydd Cynllun Marshall yn 50 oed. USPS syn
dal yr hawlfraint, ond credir y gellir arddangos
y stampiau dan ddefnydd teg deddf hawlfraint yr
Unol Daleithiau
Cynyddodd incwm y gwledydd hyn 33 ar gyfartaledd
rhwng 1947-51. Cynigiwyd Cymorth i Ddwyrain
Ewrop ac i Rwsia, ond roedd Stalin yn amau (yn
gywir) fod America yn ceisio tanseilio rheolaeth
y Sofietiaid dros Ewrop gydar Cymorth, ac ni
fyddai Stalin caniatáu i unrhyw wlad Dwyrain
Ewrop ei dderbyn. Cynyddodd y tyndra. Sut maer
dystiolaeth yman dangos fod Truman yn gyfrifol
neu beidio am y Rhyfel Oer?
4
Athrawiaeth Truman
Comiwnydd o Groeg, syn bwriadu dymchwel
llywodraeth lwgr Groeg. Roedd yr UD yn cefnogi
llywodraeth Groeg. Caniatâd Wikipedia iw
ddefnyddio dan Drwyddedu Dogfennaeth Rhad GNU.
Ym Mawrth 1947, gofidiai Truman ynglyn ag
ymdrechion yr USSR i ennill rheolaeth dros Wlad
Groeg a Thwrci. Nid oedd eisiau i gomiwnyddiaeth
ennill rheolaeth dros ragor o wledydd y byd, ac
felly traddododd araith ir Gyngres yn datgan y
byddair UD yn gweithredu i atal Comiwnyddiaeth
rhag lledu. Dyma rai detholion Mae union
fodolaeth gwladwriaeth Groeg yn cael ei beryglu
heddiw gan weithgareddau terfysglyd miloedd o
ddynion arfog, dan arweiniad comiwnyddion maen
rhaid i Groeg gael cymorth Maen rhaid ir UD
ddarparur cymorth hwn Gwelwyd pobloedd nifer o
wledydd yn cael llywodraethau totalitaraidd
unbenaethau comiwnyddol wedi eu gorfodi arnynt
yn erbyn eu hewyllys yn ddiweddar Credaf fod yn
rhaid iddo fod yn bolisir UD i gefnogi pobloedd
rhydd syn gwrthsefyll ymdrechion iw darostwng
comiwnyddion yn cipio grym. Roedd tawelwch
llethol yn y Gyngres yn ystod yr araith.
Honnai cefnogwyr Truman fod yn rhaid ir UD fod
yn llym gyda chomiwnyddiaeth iw atal rhag
lledu. Fodd bynnag, weithiau golygai Athrawiaeth
Truman fod yr UD yn cefnogi llywodraethau llwgr
oherwydd eu bod yn gomiwnyddol (fel yn Groeg ym
1947). Nid hyrwyddo democratiaeth oedd hyn, sef
yr union beth y safair UD drosto hefyd. Sut
maer dystiolaeth yman dangos fod Truman yn
gyfrifol neu beidio am y Rhyfel Oer?
5
NATO a Chytundeb Warsaw
Ym Mawrth 1947, roedd Truman yn gofidio ynglyn ag
ymdrechio yr USSR i ennill rheolaeth dros Groeg a
Thwrci. Nid oedd eisiau i gomiwnyddiaeth ennill
rheolaeth dros ragor o wledydd y byd, ac felly
traddododd araith ir Gyngres yn datgan y
byddair UD yn gweithredu i atal Comiwnyddiaeth
rhag lledu. Roedd agwedd Truman tuag at
gomiwnyddiaeth yn annog yr UD i ystyried sefydlu
cynghrair filwrol i atal yr USSR rhag ymosod ar
unrhyw wlad yng Ngorllewin Ewrop. Ym 1949,
recriwtiodd America llawer o wledydd Gorllewin
Ewrop yn NATO, mudiad milwrol gydar bwriad o
wrthsefyll unrhyw ymosodiad gan y Sofietiaid ar
Orllewin Ewrop, ar draws y Llen Haearn. Ymunodd y
DU, Ffrainc, Canada ac, ym 1954, Gorllewin Yr
Almaen. Roedd NATO yn golygu North Atlantic
Treaty Organisation (Cyfundrefn Cytundeb Gogledd
Iwerydd), oherwydd bod holl aelodaur gyfundrefn
wediu lleoli o amgylch ardal Gogledd Môr Iwerydd.
Uwchgynhadledd NATO yn 2002. Gwelir symbol NATO
yn y canol. Wikipedia, parthau cyhoeddus.
Trwy NATO, gwnaed cynlluniau i ddefnyddio arfau
niwclear tactegol i ddinistrio tanciaur
Sofietiaid pe baent yn llifo trwyr prif linellau
cyswllt i mewn i Orllewin Yr Almaen. Roedd
Stalin yn gweld NATO fel bygythiad clir iddo ef.
Ym 1955, sefydlodd fudiad comiwnyddol a oedd yn
gyfystyr â NATO, Cytundeb Warsaw. Ymunodd pob
gwlad Dwyrain Ewrop a Rwsia ag ef.. Sut maer
dystiolaeth yman dangos fod Truman yn gyfrifol
neu beidio am y Rhyfel Oer?
6
Achoswyd llawer o ddrwgdeimlad rhwng yr USSR ar
UD oherwydd triniaeth Yr Almaen wedir Ail Ryfel
Byd. Yng nghynhadledd Yalta yn Chwefror 1945,
pan oedd Roosevelt yn Arlywydd, cytunwyd y dylid
rhannur Almaen a drechwyd yn 4 rhan, iw rheoli
gan yr UD, Ffrainc, Prydain ar USSR.
Roedd hyn yn annog yr USSR i gymryd meddiant o
rannau eraill o Ddwyrain Ewrop, yn ogystal â
Gorllewin Berlin, a oedd yn dir y Cynghreiriaid
tu mewn i diriogaeth a reolid gan y Sofietiaid!
Yn Ebrill 1948, caeodd Stalin pob ffordd i
Orllewin Berlin, gan geisio gorfodir
Cynghreiriaid i adael (gwarchae Berlin).
Gorchmynnodd Truman y dylid hedfan miliynau o
dunelli o nwyddau i mewn i helpu Berlinwyr y
Gorllewin (Cludiad Awyr Berlin). Yn Medi 1949,
rhoddodd Stalin y gorau ir cynllun a chaniataodd
y ffyrdd i agor. Cysylltwyd sectoraur
gorllewin gan y Cynghreiriaid i ffurfio
Gweriniaeth Ffederal Yr Almaen (Gorllewin yr
Almaen) a gwnaeth yr USSR Ddwyrain yr Almaen yn
Weriniaeth Ddemocratig Yr Almaen. Roedd Yr
Almaen yn rhanedig roedd Stalin wedi methu
meddiannur Almaen.
Sut maer dystiolaeth yman dangos fod Truman yn
gyfrifol neu beidio am y Rhyfel Oer?
7
Rhyfel geiriau!
Roedd Stettin ar arfordir deheuol Y Baltig (Gwlad
Pwyl heddiw), ac roedd Trieste yng
ngogledd-ddwyrain Yr Eidal. Golygai Churchill
fod rheolaeth y Sofietiaid wedi cwympor holl
ffordd ar draws Dwyrain Ewrop, ai fod yn
haearn. Digiwyd Stalin gan yr araith, ac mewn
cyfweliad dywedodd fod araith Chuchill yn
rhyfelgar, galwad i ryfel yn erbyn yr Undeb
Sofietaidd. Roedd y rhyfel geiriau wedi
dechrau! Sut maer dystiolaeth yman dangos fod
Truman yn gyfrifol neu beidio am y Rhyfel Oer?
Yn Chwefror 1946, traddododd Stalin araith a
honnai fod cyfalafiaeth yn gwneud rhyfel yn
anochel. Brawychwyd swyddogion gwladol yr UD a
gofynnwyd i abenigwr ar y Sofietiaid or enw
George Kennan adrodd ar bolisi tramor Stalin.
Anfonodd Kennan ymateb 8,000 o eiriau trwy
delegram (y Telegram Hir), a oedd yn darogan
brwydr einioes, hir, rhwng democratiaeth a
chomiwnyddiaeth. Dosbarthwyd copïau or Telegram
Hir i bawb yn y llywodraeth. Erbyn Mawrth
1946, roedd yr USSR wedi meddiannu llawer o
Ddwyrain Ewrop. Gofidiai Winston Churchill, cyn
Brif Weinidog y DU, am hynMewn araith enwog yn
Missouri, UD, gyda Truman yn eistedd nesaf ato,
dywedodd
O Stettin yn Y Baltig i Trieste yn yr Adriatig,
mae llen haearn wedi disgyn ar draws y cyfandir.
Wikipedia parthau cyhoeddus
8
Yr oes atomig!
Roedd gollwng y bom atomig ar Japan, yn weddol
agos i Rwsia, yn weithred ymosodol ar ran Truman.
Roedd Stalin yn bryderus iawn gan fygythiad arf
campus America, a gorchmynnodd y dylair
ymchwiliad i fom atomig Rwsia fynd ymlaen ar
frys. Golygodd y digwyddiad hwn fod cysylltiadau
rhwng yr UD ar USSR ar delerau drwg. Datblygodd
Rwsia ei bom atomig ym 1949. Roedd yr oes atomig
wedi dechrau.
Yn ystod Cynhadledd Potsdam yn Awst 1945, cafodd
Truman wybod fod gwyddonwyr America wedi
datblygur bom atomig cyntaf, prosiect a
ddechreuwyd flynyddoedd cynt. Dywedodd Truman
wrth Stalin mewn modd hunanfoddhaus, fod gan
America arf grymus. Gorffennodd Truman y
gynhadledd yn gyflym fel y gallai archwilior
bom. Gadawodd Truman mor gyflym fel yr
anghofiodd sicrhau fod Stalin yn glir ynglyn âr
trefniadau parthed Dwyrain Ewrop. Gadawodd
Stalin gynhadledd Potsdam heb argraff uchel iawn
o Truman, yn credu bod yr Arlywydd wedi cytuno
bod Dwyrain Ewrop yng nghylch dylanwad yr USSR.
Roedd hyn wedi rhoi anogaeth i Stalin i feddiannu
Dwyrain Ewrop o 1945 hyd 1948. Ar 6ed ar 9fed o
Awst 1945, awdurdododd Truman ollwng 2 fom atomig
ar drefi Hiroshima a Nagaskai yn Japan. Arbedwyd
llawer o fywydau milwyr America a fyddai wedi
marw wrth geisio goresgyn Japan trwy rym, ac, yn
ogystal, roedd yn atal Stalin rhag meddiannu
Japan.
Sut maer dystiolaeth yman dangos fod
Truman yn gyfrifol neu beidio am y Rhyfel
Oer?
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com