Uned TGCh 1 - PowerPoint PPT Presentation

1 / 67
About This Presentation
Title:

Uned TGCh 1

Description:

Bydd meddyg yn holi claf am symptomau; bydd yr atebion yn cael ei bwydo i'r system arbenigo. ... cronfeydd data ar-lein pell ar gyfer eu system holi ac archebu. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:1276
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 68
Provided by: kay64
Category:
Tags: holi | tgch | uned

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Uned TGCh 1


1
Uned TGCh 1 Y Defnydd o TGCh
2
Dysgu drwy gymorth cyfrifiadur (CAL)
Tiwtorialau Disgyblion ag anghenion
arbennig Rhaglenni sillafu ag elfen
ryngweithiol syn profi disgyblion gyda gemau,
cwisiau a phrofion. Mae system sgorio yn
galluogi myfyrwyr i asesu eu cynnydd. Yn aml
bydd yr ateb neu gliwiau yn cael eu rhoi ar ôl 3
chynnig. Defnyddir lluniau a sain i ehangur
profiad. Rhaglenni adolygu TGAU
TG mewn Addysg
3
Hyfforddiant wedi ei seilio ar gyfrifiaduron DYSG
U O BELL Ni fydd myfyrwyr wastad yn yr un lle
âr athro.. Cwrs dysgu o bellter lle maer tiwtor
yng Ngogledd Cymru. Maer myfyrwyr yn cael
llyfrynnaur cwrs a gwaith ymarferol. Defnyddir
fideogynadledda i drafod problemau syn codi.
Maer gwaith yn cael ei farcion
electronig. Cyrsiau ar-lein e.e. y Brifysgol
Agored Gall y rhain gael eu seilio ar fewnrwydi
prifysgolion neu ar y we. Mae rhai modiwlau
prifysgol yn hollol gyfrifiadurol, gydag adrannau
gwybodaeth a thasgau. Maer meddalwedd yn cofnodi
faint or cwrs yr ydych wedi ei gwblhau os nad
ydych yn cwblhaur cwrs byddwch ym methur
modiwl. Mae Gwefannau e-ddysgu ar gael erbyn
hyn. Gall danysgrifwyr wneud lefel-A ar-lein sydd
wedi ei gymeradwyo gan gyrff arholi megis OCR.
Rhoddir credydau e-ddysgu i ysgolion yn Lloegr
defnyddir y rhain i brynu cyrsiau
ar-lein. Siopau siarad i drafod cyrsiau a
phroblemau gydar tiwtor.
4
  • Manteision defnyddio TG ar gyfer DYSGU AC ADDYSGU
  • Mae mwy o ryngweithio yn cadw sylw disgyblion.
  • Adborth cyflymach ar brofion ar-lein
  • Yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd gwahanol i ddysgu
    ac amrediad o ffynonellau gwybodaeth.
  • Yn galluogir defnyddiwr i ddysgu ar ei
    g/chyflymder ei hun pan maen gyfleus iddo/iddi.
  • Yn galluogi defnyddiwr i adolygu gwaith
    cynharach eto, rhag ofn eu bod heb ddeall, h.y.
    ailadrodd adrannau y cawsant drafferth â hwy yn
    flaenorol.
  • Mae hyfforddiant wedi ei seilio ar gyfrifiadur yn
    lleihau costaur cyflogwyr yn sylweddol gall
    hefyd fod yn fwy diogel os oes perygl.
  • Manteision defnyddio TG ar gyfer GWEINYDDU
  • Mynediad cyflymach at ddata - chwiliadau
    cyflymach e.e. chwilio am yr holl fyfyrwyr mewn
    blwyddyn arbennig, a didolidadu cyflymach e.e.
    rhestru myfyrwyr yn ôl eu cyfenwau yn nhrefn yr
    wyddor.
  • Amrywiaeth o fformatau allbwn e.e. adroddiadau
    printiedig, dogfennau wedi eu postgyfuno,
    a.y.y.b.
  • Mae trosglwyddo data yn gyflymach ac yn symlach,
    e.e. cofnodion arholiad
  • Yn arbed amser wrth atgynhyrchu llythyrau safonol
    e.e. llythyrau i rieni am nosweithiau rhieni,
    diwrnodau mabolgampau a.y.y.b. Dim ond
    man-newidiadau fydd angen ar y rhain bob
    blwyddyn.
  • Mwy o ddiogelwch
  • Yn arbed ar le i storior wybodaeth mewn
    storfa/swyddfa.

5
Problemau wrth ddefnyddio TG mewn addysg Mae TG
yn gostus ac mae angen buddsoddiad ariannol mawr
rhaid cynnal a diweddaru hyn yn gyson. Gall
gytundebau cynnal a chadw gostio hyd at filoedd o
bunnoedd, syn tynnu arian i ffwrdd o adnoddau
dysgu traddodiadol megis llyfrau. Darpariaeth
anheg o adnoddau TG, a, felly, anwastadrwydd mewn
cyfleoedd dysgu. Bydd gan ysgolion cyfoethocach
gwell adnoddau. Yn cwtogi ar sgiliau
cymdeithasol Mae rhai addysgwyr yn dadlau nad
oes gan ddisgyblion iau yr un cyfle ar gyfer
dysgu mewn grwpiau. Mae Tecstio yn cael ei y bai
am ostyngiad mewn sgiliau sillafu oherwydd y
defnydd cynyddol o fyrfoddau. Diffyg cymorth
personol. Nid yw dysgu o bellter yn cynnig y
cymorth personol sydd ei angen ar y rhan fwyaf o
fyfyrwyr pryd a ble y mae ei angen arnynt mae
hyn yn hollbwysig os ywr myfyriwr yn isel ei
hyder neu yn methu deall y cyfarwyddiadau
ysgrifenedig. Gorddibyniaeth e.e. os oes methiant
ar y pwer nid oes modd ei ddefnyddio.
6
CAD Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur
7
(No Transcript)
8
(No Transcript)
9
(No Transcript)
10
(No Transcript)
11
(No Transcript)
12
(No Transcript)
13
(No Transcript)
14
(No Transcript)
15
(No Transcript)
16
(No Transcript)
17
(No Transcript)
18
(No Transcript)
19
(No Transcript)
20
(No Transcript)
21
C.A.M. Gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrfiadur
  • Dylunio gyda CAD
  • Cynhyrchu gyda CAM e.e. turniau mewn DT

22
TG mewn Ysbytai
Cronfa ddata o gofnodion cleifion
  • Manteision
  • Chwiliadau cyflymach
  • Llythyrau atgoffa ar gyfer apwyntiadau
  • Cadw ffeiliau yn gyfredol

23
Rheolaeth gyfrifiadurol mewn ysbytai
  • Synwyryddion
  • Tymheredd
  • Cyfradd curiad y galon/pyls
  • Pwysedd gwaed
  • Nwyon yr anadl
  • Patrymau tonnau yr ymennydd
  • Electrocardiograffau (ECG)

24
Rheolaeth gyfrifiadurol mewn ysbytai
  • Manteision
  • Monitro 24 awr
  • Larymau neu ymateb sydyn os oes problem yn codi
  • Dadansoddi tueddiadau ar gyfer gwaith ymchwil
  • Anfanteision
  • Gor-ddibyniaeth
  • Costus iw prynu
  • Angen staff arbenigol i gynnal y cyfarpar

25
Sganwyr
  • Delwedd cyseiniant magnetig (MRI)
  • Tynnu delweddau tryloyw trwyr corff
  • Tomograffeg Echelinol Gyfrifiadurol (CAT)
  • Manteision
  • Galluogi meddygon i weld y tu mewn ir corff heb
    lawdriniaeth
  • Llai o debygolrwydd o heintiadau ar ôl
    llawdriniaeth
  • Diagnosis manylach
  • Anfanteision
  • Costus iawn
  • Bydd gor-ddibyniaeth yn arwain at golli sgiliau
    diagnostig traddodiadol

26
Cynnal bywyd
  • Angen unedau gofal dwys
  • Cyflenwad pwer wrth gefn
  • Cyfrifiadur wrth gefn

27
Datblygiadau newydd
  • Bar-godio gwaed a systemau llwybro
  • Egadw cofnodion cleifion yn electronig
  • Dosbarthu cronfeydd data meddygol
  • Defnyddior we, e-bost a fideo ar gyfer diagnosis
    meddygol
  • Cofnodolion meddygol ar-lein

28
Systemau arbenigo
  • System gyfrifiadurol sydd yn efelychu gallu
    arbenigydd dynol i wneud penderfyniadau yw system
    arbenigo.
  • Mae system wedi ei seilio ar wybodaeth yn ceisio
    cymryd lle arbenigydd dynol mewn maes arbennig.
  • Maen rhoi diagnosis ar broblemau ac yn cynnig
    cyngor ar yr hyn gallai fod wedi achosir
    problemau hynny. Gall hefyd roi cymorth ar
    ddatrysiadau.

29
Diagnosis meddygol Nid yw cyfrifiadur cyn cymryd
lle meddyg ond maen cael ei ddefnyddio i
helpur meddyg i wneud penderfyniadau. Byddai gan
system arbenigo wybodaeth am afiechydon au
symptomau, y cyffuriau a ddefnyddir iw trin
a.y.y.b. Bydd meddyg yn holi claf am
symptomau bydd yr atebion yn cael ei bwydo ir
system arbenigo. Maer cyfrifiadur yn chwilior
gronfa ddata, yn defnyddio ei reolau ac yn gwneud
awgrymiadau am yr afiechyd ar ffyrdd oi drin.
Ambell waith bydd tebygolrwyddau yn cael eu rhoi
i ddiagnosis.
30
  • Manteision.
  • Gall gyfrifiadur storio llawer mwy o wybodaeth na
    pherson. Gall ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau
    megis gwybodaeth o lyfrau ac astudiaethau achos i
    helpu gydar diagnosis ar cyngor.
  • Nid yw cyfrifiadur yn anghofio nac yn gwneud
    camgymeriadau.
  • Gellir cadw data yn gyfoes.
  • Gellir defnyddio system arbenigo 24 awr y dydd
    ni fydd byth yn ymddeol.
  • Gellir defnyddior system o bellter ar draws
    rhwydwaith. Gall ardaloedd gwledig neu hyd yn oed
    gwledydd yn y trydydd byd gael at arbenigwyr.
  • Ceir rhagdybiadau manwl gyda thebygolrwyddau pob
    problem posib gyda chyngor mwy cywir a manwl.
  • Maen well gan rai pobl breifatrwydd sgwrsio gyda
    chyfrifiadur.
  • Cyfyngiadau/ anfanteision systemau arbenigo
  • Gorddibyniaeth ar gyfrifiaduron
  • Gallai rhai arbenigwyr goll eu swyddi ni fydd
    eraill yn derbyn hyfforddiant os oes yna
    gyfrifiaduron ar gael i wneud yr un swydd.
  • Nid oes cyffyrddiad dynol - diffyg cyswllt
    dynol.
  • Yn ddibynol ar gael y wybodaeth gywir. Os ywr
    data neur rheolau yn anghywir, bydd y cyngor
    anghywir yn cael ei roi.
  • Nid oes gan systemau arbenigo synnwyr
    cyffredin. Nid oes ganddynt ddealltwriaeth ou
    sywddogaeth nau cyfyngiadau au defnyddioldeb,
    na sut mae eu hargymhellion yn perthyn i
    gyd-destyn ehangach. Pe byddai MYCIN yn ymayeb i
    glaf syn gwaedu i farwolaeth ar ôl cael ei
    saethu, byddair rhaglen yn rhoi diagnosis o
    achos bacteriol i symptomaur claf.
  • Gall systemau arbenigo wneud gwallau abswrd,
    megis darnodi dogn sydd yn amlwg yn anghywir i
    glaf am fod y clerc wedi mewnosod oed a phwysaur
    claf yn y mannau lle y dylair llall fod.

31
Cyfrifiaduron ar gyfer adloniant yn y cartref
  • Teledu rhyngweithiol
  • Gemau cyfrifiadurol
  • Ffotograffiaeth ddigidol
  • Lawrlwytho cerddoriaeth a chreu ffeiliau sain

32
PC â gemau
  • Defnyddio PC
  • Gallwch brynu gêm ar ddisg.
  • Mae yna nifer o wefannau gemau mae rhai am ddim
    ond mae rhaid talu tanysgrifiad i eraill.
  • Mae cyflymder y prosesydd yn bwysig iawn.
  • Mae nifer o ddefnyddwyr PC yn prynu
  • Prosesyddion cyflym
  • Cardiau graffeg
  • Cardiau sain a seinyddion
  • Ffyn rheoli, bysellfyrddau gemau, olwynion
    gyrru/llywiau a.y.y.b.
  • Defnyddio teledu digidol rhyngweithiol
  • Mae gan Sky sianelau gemau

33
Problemau
  • Ymddygiad gwrth-gymdeithasol (diffyg cymdeithasu
    ag eraill).
  • Diffyg ffitrwydd drwy eistedd am oriau ar y tro.
  • Mae chwarae gemau ar sianeli Sky yn costio 75
    ceiniog am bob munud ar y ffôn.

34
Teledu rhyngweithiol
  • Talu i wylio ffilmiau/chwaraeon
  • Siopa
  • Betio
  • Chwilio am bartner
  • Archebu gwyliau/sinema
  • E-bost

35
Systemau archebu ar-lein
  • Archebu tocynau ir sinema, theatr, gwyliau
    a.y.y.b.
  • Gellir archebu tocynau theatr, sinema,
    cyngherddau, gwyliau a hediadau ar deledu
    rhyngweithio ar we. Gall y defnyddiwr cartref
    ddefnyddio cronfeydd data ar-lein pell ar gyfer
    eu system holi ac archebu.
  • Gall bobl chwilio am wyliau a.y.y.b. syn ateb eu
    gofynion a gwneud archebion amodol neu derfynol.
  • Manteision ir archebwr ar-lein
  • Gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd
  • Gellir archebu o adref
  • Gellir cynnig dewisiadau eraill os nad ywr dewis
    cyntaf ar gael.
  • Data ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o wyliau,
    gan gynnwys cynigion arbennig.
  • Mae archebiadau yn ebrwydd felly nid oes peryg
    archebu gormod, oherwydd unwaith bydd sedd neu
    wyliau wedi archebu bydd y manylion hyn yn
    ymddangos yn y gronfa ddata.

36
Tele-siopa / E-fasnach
  • Mae hyn yn golygu gwerthu nwyddau a gwasanaethau
    dros y we neu drwy deledu rhyngweithiol.
  • Ar y we
  • Mae busnesau yn creu gwefannau ar y we er mwyn...
  • ...hysbysebu. Gall bobl weld beth maent yn ei
    wneud a beth maent yn ei werthu.
  • ...y gall bobl e-bostio ymholiadau, gofyniadau,
    ac archebiadau atynt.
  • ...iddynt gyrraedd cynulleidfa ryngwladol.
  • Trwy deledu rhyngweithiol
  • Mae yna sianeli siopa arbenigol
  • Manteision
  • Gellir prynu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y
    flwyddyn
  • Ni oes angen trafod arian parod gwneir pob
    trafod gyda chardiau
  • Mae angen llai o staff

37
Ffonau symudol
  • I nifer o bobl mae ffonau symudol yn gyfrwng
    adloniant yn ogystal â chyfrwng cyfathrebu
  • Manteision ffonau symudol
  • Gellir eu defnyddio pa le bynnag mae yna signal
  • Tecstio
  • Negeseuon llais
  • Cloc larwm/amser
  • Negeseuon atgoffa/ rhestri cyfeirio
  • Newid tôn y caniad
  • Recordio neges gyfarch
  • Dangos lluniau/lluniau ar sgrin
  • Radio
  • Gall rhai dderbyn y we
  • Anfanteision defnyddio ffonau symudol
  • Dim gwasanaeth
  • Dim batri/diffyg credyd
  • Dirwyo os yu defnyddir wrth yrru
  • Biliau costus
  • Peryg mygio

38
Bancio ar-lein
  • EFTPOS
  • Gall fanciau symud arian rhwng un cyfrif ac un
    arall yn electronig ar draws rhwydweithiau
    cyfrifiadurol. Gelwir hyn yn Drosglwyddo Cyfalaf
    yn Electronig, neu Electronic Funds Transfer
    (EFT).
  • Bancio ar-lein neu o gartref
  • Gellir cael mynediad at gyfrif banc o gartref
    trwy gyfrwng y we.

39
  • Manteision bancio ar-lein o gartref
  • Gellir prynu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y
    flwyddyn.
  • Nid oes rhaid i gwsmeriaid adael y ty er mwyn
    talu biliau a.y.y.b. gan arbed ar gostiau teithio
    neu bostio.
  • Nid oes angen trafod arian parod defnyddir
    cardiau - llai o beryg mygio.
  • Maer trafodion yn awtomatig mae hyn yn arbed
    costau staff.
  • Gall gwsmer argraffu derbynneb oddi ar y sgrin
  • Gellir olrhain y broses gludo ar-lein.
  • Yn aml ceir disgowntiau oherwydd costau adwerthol
    is.

40
  • Problemau
  • Hacio manylion cardiau credyd/debyd - pobl allai
    gamddefnyddior data.
  • Gorfod talu costiau ffôn tran defnyddior we.
  • Diogelwch
  • Atal defnydd heb ganiatâd trwy GYFRINEIRIAU neu
    RIFAU PIN
  • Crëir awdurdodiad a chod awdurdodiad os oes digon
    o arian yng nghyfrif y siopwr i dalu am y
    nwyddau. Crëir cofnod i setlo rhwng banciaur
    siopwr ar gwerthwr 2 neu 3 diwrnod yn
    ddiweddarach. Fel arall, efallai gwrthodir yr
    awdurdodiad oherwydd diffyg arian yn y cyfrif
    bydd hyn yn arwain at broblemau peidio talu
    biliau ar amser.
  • Peryg twyll cyfrifiadurol e.e. gwefannau
    ysbrydol (ghost sites)

41
Troseddau cardiau ac ataliad
  • Dwyn cardiau o ATMs/ Dwyn cardiau debyd/credyd
  • Peidiwch ag ysgrifennu rhifau PIN
  • Peidiwch a gadael i neb eich gweld yn teipio eich
    rhif PIN.
  • Lluniau ar gardiau
  • Lleihewch y swm y gellir ei wario cyn ceisio
    awdurdodiad
  • Rhoddir manylion cardiau coll ar derfynellau POS
  • Chip and PIN
  • Twyll cardiau credyd ar y we au camddefnydd
  • Defnyddiwch hai geiriau cytûn ar rai gwefannau
  • Defnyddiwch wasanaeth diogel/ESCROW
  • Copïo cardiau
  • Cardiau smart rhaglenadwy syn gwneud data yn
    anoddach iw gopïo
  • Defnyddio hologramau i wneud cardiaun anoddach
    iw copïo
  • Rhowch god diogelwch 3 digid ar gefn cardiau

42
Ffotograffiaeth ddigidol
  • Camerâu digidol
  • Cof fflach
  • Argraffyddion lluniau un pwrpas
  • Manteision
  • Prosesu sydyn
  • Effeithiau arbennig
  • Argraffu dim ond yr syn sydd ei angen/ albymau
    electronig
  • Anfanteision
  • Cost papur ffotograffiaeth ac inc

43
Cerddoriaeth a sain
  • Lawr lwytho cerddoriaeth or we - Mae yna nifer o
    wefannau y gellir gwrando ar y gerddoriaeth
    ddiweddaraf, neu gerddoriaeth hen, arnynt wrth
    brofi cyn prynu.
  • Problemau
  • Mae deddfau hawlfraint yn gwahardd copïo
    cerddoriaeth yn angyfreithlon, gan gynnwys lawr
    lwytho o wefannau angyfreithlon.
  • Creu cerddoriaeth eich hun gan ddefnyddio
    offerynnau megis allweddellau electronig â
    ryngwynebau Midi
  • Mae Technoleg Sain Ddigidol yn eich galluogi i
    greu, golygu a chlywed eich cerddoriaeth eich
    hun. Rhaid bod gan y PC gerdyn sain o safon
  • Gall fewnbynnau ddod o feicroffonau, allweddellau
    electronig, drymiau a.y.y.b. ag iddynt
    rhyngwynebau Midi.
  • Mae MIDI (Musical Instrument Digital Interface)
    yw fformat safonol y diwydiant wedi ei gymhwyso i
    offerynnau. Maen fformat cryno iawn mae munud o
    gerddoriaeth midi wedii syntheseiddio yn
    defnyddio 30kb o le ar ddisg oi gymharu â 600kb
    o recordiad sain safon isel.

44
Meddalwedd cerddoriaeth
  • Mae yna dri gwahanol math o feddalwedd
    cerddoriaeth
  • Dilynianwyr
  • Stiwdio recordio amldrac yw hwn maen adeiladu
    ffeiliau cymhleth wrth eu haenu gyda ffeiliau
    symlach. Mae gan Magix Music Maker dros 1000
    ffeil cerddoriaeth sampl a synau gall berson
    angherddorol eu defnyddio.
  • Nodianyddion (Notators)
  • Meddalwedd cyfansoddi cerddorol yw hon.
  • Mae cerddorion yn cyfansoddi cerddoriaeth yn y
    ffordd draddodiadol ac maer cyfrifiadur yn ei
    chwarae. Yna gellir ei olygu, newid y tempo,
    ychwanegu geiriau neu ddethol rhannau offerynau
    unigol a.y.y.b.
  • Golygyddion Seindonnau
  • Maer trydydd math o feddalwedd yn eich galluogi
    i olygu seindonnau. H.Y. maen galluogi golygu
    patrwm seindonnau digidedig. Fei defnyddir yn
    aml i gael gwared ar swn. Gellir ei ddefnyddio
    hefyd i newid y geiriau mae pobl wedi eu
    recordio. Mae meddalwedd fel hyn wedi arwain at
    anghredu tystiolaeth recordwyr mewn rhai achosion
    llys.

45
TG a siopa
Mewn archfarchnadoedd Dyfeisiau mewnbwn POS
A DDELIR
YN Y LLAW Sganwyr cod bar
Cyfrifiaduron ymyl y silff (SEC) Sganwyr cardiau,
Cloriannau Bysellfryddau Dyfeisiadau
allbwn Argraffyddion LCD Seinyddion Dyfeisiadau
storio Storio ffeiliaur gangen ar pencadlys
46
Lan a Wan
  • Maer archfarchnad yn defnyddio sawl cyfrifiadur
    feu lleolir yn swyddfar system ac maent yn
    ffurfio LAN (Local Area Network) yr archfarchnad.
    Defnyddir y cyfrifiaduron hyn i reoli stoc maent
    wedi eu cysylltu âr terfynellau. Rhain yw
    cyfrifiaduron y gangen. Maer cyfrifiaduron yn
    amlbwrpas gall bob un gael at ddata, syn
    galluogi rheolwyr i gael at wybodaeth o sawl man
    gwahanol.
  • Mae cyfrifiaduron y gangen wedi eu cysylltu â WAN
    (Wide Area Network) wrth eu cysylltu â phrif
    gyfrifiadur y Pencadlys, sydd wedi ei gysylltu yn
    ei dro â chyfrifiaduron y canolfannau dosbarthu.

47
Dyfeisiadau mewnbwn
Ymhob desg dalu mae yna dil PWYNT TALU ELECTRONIG
/ELECTRONIC POINT OF SALE ( EPOS ). Mae gan y
til EPOS fysellfwrdd, sganiwr cod
bar cloriannau, darllennydd cerdyn credyd/debyd
argraffydd, dangosydd digidol
Cyfrifiaduron ymyl y silff /SEC (Shelf Edge
Computers). Defnyddir rhain am newidiadau pris,
creu darlun or stoc (gwybodaeth ar gyfansymau
stoc) ac er mwyn rhagweld nwyddau yn cyrraedd yr
archfarchnad.
48
Codau bar
Rhif Erthygl Ewropeaidd /European Article Number
(EAN). Mae hyn yn rif 13-digid a ddefnyddir i
adnabod cynnyrch unigryw. Rhaid bod gan pob nwydd
sydd iw werthu rif cod syn wahanol i bob nwydd
arall. Mae angen rhif gwahanol ar bob nwydd o
whanol faint.
a) Maer 2 digid cyntaf yn cynrychioli gwlad y
cwmnir cynhyrchu. 50 ydi y D.U. b) Maer pum
digid nesaf yn cynrychiolir cwmni syn
cynhyrchur nwydd. 00208 - Lyons Tetley Cyf. c)
Maer pum digid nesaf yn cynrychiolir nwydd ei
hun 02100 - 80 Cwdyn tê. d) Digid wirio ywr
digid olaf. Fei defnyddir i sicrhau bod y cod
wedi ei ddarllen yn gywir. Felly 5000208021000
yw rhif EAN bocs o 80 cwdyn tê Tetley.
49
Darllenyddion cardiau
  • Nid yw pob cwsmer yn talu gydag arian parod. Mae
    nifer yn dewis defnyddio cerdyn debyd megis
    Switch neu Delta. Yn yr achosion hyn mae cerdyn y
    cwsmer yn cael ei roi trwyr darllennydd cardiau
    mae hwn yn darllen y wybodaeth (megis rhif y
    cyfrif ar dyddiad dibennu) ar y stribed magnetig
    ar gefn y cerdyn. Y datblygiad diweddaraf yw
    darllenyddion cardiau smart wrth yr EPOS. Rhoddir
    cerdyn debyd ag iddo sglodyn smart (smart chip)
    yn y darllennydd ac, yna, maer cwsmer yn rhoi ei
    r/rhif PIN i awdurdodi tynnu arian oi g/chyfrif.
    Mae hyn lawer mwy diogel nag arwyddo tocyn
    cynnwys oherwydd ni ellir ei ffugio.

50
Canfod y pris
Mae cyfrifiadur y gangen yn chwilio yn ei ffeil
stoc am y rhif syn cydfynd âr rhif EAN. Pan
leolir y cofnod hwn, maer pris a disgrifiad or
cynnyrch yn cael ei dynnu ai ddanfon yn ôl ir
til EPOS wrth y ddesg dalu bydd hwn yna yn
dangos yr eitem ar pris ar y dangosydd digidol,
yn ei argraffu ar ddefbyneb, ac ychwanegur pris
ir cyfanswm. Ar yr un pryd, maer cyfrifiadur yn
cofnodi bod un eitem wedi ei werthu.
Maer cloriannau wrth y til EPOS wedi eu cysylltu
â chyfrifiadur y gangen. Yn ogystal â rhoir
disgrifiad ar pris, mae pris y cynnyrch hefyd yn
cael ei dynnu or ffeil stoc.
51
Dyfeisiadau allbwn
  • Argraffydd
  • Yn ogystal ag argraffu derbyneb eitemedig, gall
    yr argraffydd syn gysylltiedig âr teil EPOS
    hefyd argraffu enwr archfarchnad, y dyddiad ar
    swm syn daladwy ar sieciau/talebau cardiau
    credyd. Mae hyn yn lleihaur peryg o
    gamgymeriadau ar amser maen rhaid i gwsmer
    dreulio wrth y ddesg dalu.
  • Dangosydd LCD
  • Gall gwsmer weld prisiau ar cyfanswm sydd iw
    dalu.

52
Cynigion arbennig a chardiau ffyddlondeb
  • Ni ellid gwneud cynigion megis Multibuy -
    Prynwch ddau a chewch un am ddim" neu LinkSave
    - Prynwch un nwydd ac arbedwch 50 ar un arall"
    cyn dyfodiad Technoleg Gwybodaeth. Wrth sgainor
    codau bar, maer cyfrifiadur yn chwilio am
    eitemau sydd yn rhan o gynnig arbennig ac yn
    gostwng y pris yn ôl yr angen.

53
Storio
  • Mae, mewn gwirionedd chwe chyfrifiadur cangen
    wedi eu cysylltu âr terfynellau EPOS wrth y
    desgiau talu. Maent i gyd yn cofnodi gwybodaeth
    am yr eitemau a werthir ac yn ategu ei gilydd
    (backup). Pe defnyddir ond un cyfrifiadur, a
    hwnnwn torri, ni fyddair archfarchnad yn gallu
    gweithio. Maer cyfrifiaduron cangen hyn wedi eu
    cysylltu trwy loeren gyda phrif gyfrifiadur mawr
    ym mhrif swyddfar archfarchnad rhywle arall yn y
    wlad. Mae pob cangen or archfarchnad hefyd wedi
    eu cysylltu âr prif gyfrifiadur hwn -
    enghraifft o allrwyd.

54
Rheoli stoc
  • Mae cyfrifiadur y gangen yn danfon manylion pob
    trafod unigol ir prif gyfrifiadur yn y
    pencadlys, syn diweddaru ei gofnod o rif stoc yr
    eitem yn y siop.
  • Mae SEC yn galluogi rheolwyr i gael darlun stoc
    gywir a chyfredol, ac yn eu galluogi i gynyddu
    archebiadau a dosbarthiadau stoc o ddim hyd at 72
    neu 48 awr.
  • Gan ddefnyddio rhagolygon gwerthiant ynghyd â
    ffactorau eraill (y tywydd, cyfnod y flwyddyn
    a.y.y.b.), maer system yn archebur swm cywir o
    stoc am y dosbarthiad nesaf, mewn 48 neu 72 awr o
    bryd.
  • Maer prif gyfrifiadur hwn hefyd yn trosglwyddor
    archebiadau hyn i gyfrifiaduron yn y canolfannau
    dosbarthu ar draws cysylltiau lloeren.
  • Maer canolfannau dosbarthu yna yn danfon y stoc
    ir siopau yn syth.
  • Danfonir newidiadau pris, a phrisiau eitemau
    newydd, cynigion arbennig a.y.y.b., yn cael eu
    danfon yn ôl i gyfrifiadur y gangen yn yr
    archfarchnad.
  • Argraffir labeli silff newydd dros nos, au gosod
    yn barod.

55
Patrymau siopa
  • Ar y prif gyfrifiadur yn y brif swyddfa bydd
    proffil yn cael ei greu, sef disgrifiad o
    batrymau siopa y cwsmeriaid.
  • Gan ddefnyddior wybodaeth yma, gellir gweithio
    allan faint o le y dylid ei roi i eitemau
    arbennig ar silffoedd y siop.

56
DULL MEWN PRYD v DULL TRADDODIADOL O REOLI STOC
Maer dull mewn pryd yn manteisio ar system
gwybodaeth stoc. Wrth i nwyddau gael eu gwerthu
yn yr (EPOS), maer data perthnasol yn cael ei
ddanfon yn ôl at gronfa ddata syn cynnwys
gwybodaeth am lefelau stoc. Pan maer stoc yn
disgyn yn is na lefel penodol, bydd mwy yn cael
ei archebu. Felly dim ond y lleiafswm
angenrheidiol syn cael ei archebu nid oes angen
cynnal warws mawr llawn stoc. Mewn rhai achosion
maer system yn hollol awtomatig, yn gweithio
allan pa stoc sydd ei angen ac yn prosesu ac yn
danfon yr archeb yn electronig.
57
  • Manteision
  • Arbedir arian oherwydd nid oes angen prynu a
    chynnal cymaint o le storio mewn warws.
  • Gellir arbed arian ar gostau llafur - bydd angen
    llai o staff.
  • Mae busnesau yn fwy hyblyg, ac yn gallu ymateb yn
    well, i newidiadau mewn cyflenwad a galw.
  • Anfanteision
  • Os oes problem ar y system drafnidiaeth, bydd
    siopau a busnesau yn rhedeg allan o stoc yn
    gyflym.
  • Gall siopau ddioddef yn dilyn newidiadau sydyn
    mewn patrymau prynu. Mewn achosion felly gall
    siopau yn aml redeg allan or nwydd y maer galw
    mwyaf amdano gan gwsmeriaid.
  • Gall system TG fod yn gostus iw sefydlu ai
    gynnal mae angen arbenigedd sydd hefyd yn gostus.

58
E-farchnata
  • Dull o gyfathrebu gwybodaeth am y nwyddau ar
    gwasanaethau sydd ar gael
  • Siop rhith, sydd yn galluogi cwsmeriaid i brynu
    nwyddau a gwasanaethau ar-lein
  • Gwasanaeth rhad, syn gwneud arian wrth werthu
    gofod ar y wefan i hysbysebwyr
  • Gwasanaeth tanysgrifio, e.e. galluogi
    tanysgrifwyr i gael mynediad at wybodaeth
    werthfawr ac arbennigol o bapurau ymchwil
  • Gwefan rhyngweithiol syn annog cwsmeriaid i
    ymateb a rhoi sylwadau ar y cynnyrch.

59
Camau mewn siopa rhyngweithiol
  • Maer cwsmer yn edrych ar gynnyrch cwmni ar
    wefan, ac yn dewis yr eitemau iw prynu.
  • Maer cwsmer yn mynedu ei h/archeb, ynghyd â
    manylion cerdyn credyd, ar sgrin ar-lein.
  • Mae system amgryptio neu gyswllt diogel yn cael
    ei ddefnyddio i ddiogelur trafod a sicrhau nad
    oes modd cyrraedd manylion y cerdyn credyd.
  • Maer archeb yn cael ei derbyn ac yn cael ei
    danfon i gronfa ddata.
  • Maer wybodaeth yn y gronfa ddata yn cael ei
    throsglwyddo i ganolfan ddosbarthu lle maer
    archebion yn cael eu paratoi.
  • Maer archeb yn cael ei dosbarthu ir cwsmer.

60
  • Manteision ir cwsmer
  • Nid oes rhaid i gwsmeriaid deithio pellterau hir
    i siopau, na brwydro trwy dorfeydd er mwyn prynu
    cynnyrch.
  • Gall fod o fantais i gwsmeriaid ag anableddau.
  • Mae busnesau llai, mwy arbenigol yn ymddangos ar
    y we, yn ehangur dewis o nwyddau a gwasanaethau
    sydd ar gael.
  • Nid oes rhaid gwario arian ar gostau busnesau
    cyffredin megis llogi siopau a thalu gweithwyr.
  • Gellir cynnig dewis ehangach o nwyddau a
    gwasanaethau i gwsmeriaid oherwydd gellir eu
    harchebu or cyflenwyr fel bo angen, yn hytrach
    na gorfod eu cadw ar silff drwyr amser.
  • Ni chollir arian sydd wedi ei glymu mewn stoc neu
    wedi ei wastraffu ar gynnyrch amhoblogaidd.
  • Gellir casglu gwybodaeth am gwsmeriaid au
    arferion prynu yn uniongyrchol, a chynnig
    gwasanaeth llawer mwy personol, yn unol â
    gofynion ac anghenion cwsmeriaid.
  • Manteision ir busnes
  • Gellir lleihau costau. Nid oes angen staff a siop
    ar y stryd fawr ar fusnesau ar y we. Mae busnesau
    llai felly wedi gallu sefydlu eu hunain ar y we
    heb wario llawer o arian.
  • Crëwyd nifer o fusnesau ar y we mae rhai wedi
    llwyddo, mae eraill wedi methu. Yn gyffredinol
    mae hyn wedi bywiogi byd busnes trwy gyflwyno
    cystadleuaeth iach.

61
  • Rhai anhawsterau
  • Er ir busnesau honni eu bod yn ddiogel, mae
    nifer o bobl yn anesmwyth ynglyn â rhoi manylion
    eu cerdyn credyd ar y we. Bu digon o
    enghreifftiau o dwyll cardiau credyd ar y we i
    gyfiawnhaur amheuon hyn.
  • Gall unrhyw un sefydlu busnes ar-lein, ac nid yw
    pob busnes yn cael ei redeg mewn ffordd onest a
    dibynadwy. Mae rhai pobl wedi talu am nwyddau na
    gyrhaeddodd fyth.
  • Nid gweithred ymarferol yn unig yw siopa, mae
    hefyd yn weithred gymdeithasol. Mae pobl yn siopa
    er mwyn bod gydau ffrindiau neu i fwynhau
    awyrgylch trefi a dinasoedd.

62
Rheoli mewn archfarchnad
  • Defnyddir cyfrifiaduron hefyd er mwyn rheoli
    rhewgelloedd ac oergelloedd yn y siop.
  • Mae synhwyrydd tymheredd ymhob rhewgell neu
    oergell sydd yn MONITRO y tymheredd yn gyson, gan
    ddanfon data yn ôl ir cyfrifiadur. Maer
    cyfrifiadur yn ei dro yn danfon negeseuon yn ôl,
    i droi modur yr oergell/rhewgell ymlaen neu i
    ffwrdd mae hyn yn cynnal y tymheredd cywir. Mae
    dangosydd ar bob oergell/rhewgell yn dangos y
    tymheredd i gwsmeriaid.
  • Gelwir hyn yn system reoli dolen gaeedig.
  • Fel y gwelir yn y diagram hwn, gall yr oergell
    fod ymlaen neu i ffwrdd (y BROSES), sydd yn
    arwain at dymheredd penodol yn yr oergell (y
    CANLYNIAD). Bydd y tymheredd yn rhy uchel, rhy
    isel neu yn gywir bydd yr ADBORTH yma yn cael ei
    ddefnyddio er mwyn newid y broses os oes angen
    (troir oergell ymlaen neu i ffwrdd).
  • Bydd angen dadrewi pob rhewgell bob tair neu
    bedair awr maer
  • cyfrifiadur yn rheoli hyn hefyd.

63
Crynodeb o fanteision
  • Ir cwsmer
  • Gwasanaethau talu cyflymach a mwy effeithlon.
  • Derbynebau til eitemedig.
  • Nwyddau wediu teilwro at eu hanghenion.
  • Nwyddau mwy ffres oherwydd y lefelau isel o stoc
    a gedwir gan archfarchnadoedd.
  • Cynigion arbennig.
  • Manteision ir archfarchnad yn cael eu
    trosglwyddo ir cwsmer trwy brisiau is neu
    wasanaethau gwell
  • Gwasanaethau ir cwsmer a chardiau ffyddlondeb
  • Dulliau talu amrywiol.
  • Mae bwyd oer/wedi ei rewi yn cael ei gadw ar y
    tymheredd cywir.

64
  • Ir archfarchnad ai rheolwyr
  • Rheoli stoc yn effeithlon, llai o beryg o redeg
    allan o stoc.
  • Ffyrdd mwy effeithlon o dalu, llai o debygolrwydd
    o gamgymeriadau gan staff. Y gallu i ddefnyddio
    rhagolygon gwerthiant a proffiliau, syn arwain
    at ddefnydd mwy effeithlon o le ar silffoedd.
  • Nid oes angen llawer o le mewn warws oherwydd y
    system ddosbarthu well.
  • Y gallu i fonitro perfformiad staff y ddesg dalu.
  • Mae prisiau ar y silff yn fwy darbodus na rhoi
    labeli ar y cynnyrch.
  • Mae trosglwyddo cyfalaf electronig yn hwyluso
    llif arian parod.
  • Rheoli bwyd oer/rhewedig yn fwy effeithiol.

65
Anfanteision defnyddio systemau siopa wedi eu
seilio ar gyfrifiaduron.
  • Rheoli stoc yn awtomatig
  • Os oes oedi ar y system drafnidiaeth bydd siopau
    a busnesau yn rhedeg allan o stoc yn gyflym.
  • Gallai newidiadau sydyn mewn patrymau prynu
    ddrysu siopau. Yn yr achosion hyn bydd pobl yn
    gofyn am stoc sydd wedi ei hen werthu.
  • Maen gostus i sefydlu a chynnal system TG bydd
    angen arbenigedd iw gynnal ai redeg - sydd
    hefyd yn gostus.

66
Anfanteision e-fasnach
  • Gall unrhyw un sefydlu busnes ar-lein nid yw pob
    un yn cael ei redeg mewn ffordd gonest a
    dibynadwy. Mae rhai cwsmeriaid wedi talu am
    nwyddau na gyrhaeddodd fyth.
  • Nid gweithred ymarferol yn unig mo siopa. Mae
    hefyd yn weithred gymdeithasol mae pobl yn siopa
    er mwyn bod gydau ffrindiau a mwynhau awyrgylch
    trefi a dinasoedd.
  • Mae angen mynedu manylion cardiau credyd/debyd
    cyn cwblhau trafod ar-lein. Mae yna beryg y gall
    hacwyr rhyng-gipior rhifau hyn au defnyddio i
    wneud trafodion anghyfreithlon. Maer defnydd o
    eiriau cytûn, gwefannau talu diogel, amgryptio a
    chardiau smart yn gallu diogelu rhag hyn.
  • Gall droseddwyr ffugio gwefannau syn cynnig
    nwyddau a gwasanaethau gan ddefnyddio enw cwmni
    iawn. Gall hyn arwain pobl i wario arian ar
    nwyddau a gwasanaethau na fyddant byth yn eu
    derbyn. Gall hyn hefyd roi enw drwg ir busnes
    gwreiddiol.
  • Mae llawer haws i fusnes gasglu gwybodaeth am eu
    cystadleuwyr trwy chwilio eu gwefannau - gall fod
    yn anoddach felly i aros yn gystadleuol.

67
Anfanteision cyffredinol
  • Gorddibyniaeth cymryd yn ganiataol bod
    synwyryddion tymheredd wedi eu gosod yn gywir.
  • Embaras os na fydd yr EPOS yn darllen y cerdyn
  • Rhaid i siopau gau os oes diffyg pwer.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com