Bywyd ym mhentref Boinyatso - PowerPoint PPT Presentation

1 / 10
About This Presentation
Title:

Bywyd ym mhentref Boinyatso

Description:

Pentref bach traddodiadol yw Boinyatso yng nghysgod Mynydd Seqoqong. ... Byddant yn dychwelyd fel mae hi'n nosi ac yn rhoi'r gwartheg yn y Kraal (corlan) dros nos. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:134
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 11
Provided by: BEC589
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Bywyd ym mhentref Boinyatso


1
Bywyd ym mhentref Boinyatso
Maer teulu Mahloane yn byw ym mhentref
Boinyatso, un or pentrefi sydd yn anfon eu plant
i Ysgol Maliele. Pentref bach traddodiadol yw
Boinyatso yng nghysgod Mynydd Seqoqong.
Y pentref o ben mynydd Seqoqong
2
Ceir dau fath o dy yn y pentref ty crwn
(rondhabole) a thy sgwâr (heisi).
heisi
rondhabole
3
Maer waliau wediu gwneud o gerrig ar toeau or
brwyn sydd yn tyfu ar lan yr afon. Gan fod llawer
or teuluoedd yn fawr fel y teulu Mahloane, mae
angen adeiladu mwy nag un ty ar eu darn o dir yn
aml.
Nid oes trydan na dwr yn y tai. Ers talwm roedd y
gwragedd yn cario dwr or afon, ond bellach mae
tap dwr yng nghanol y pentref.
4
Tra bod gan y teulu Mahloane gegin yn yr heisi,
maer mwyafrif or gwragedd yn coginio ar dân
coed tu allan.
Fel llawer o wragedd ar draws Affrica mae
Rethabile yn gallu cario llond pwced o ddwr ar ei
phen.
5
Cynnau tân ar gyfer gwneud swper.
Sosban papa yn ffrwtian.
6
Y gwragedd sydd yn gyfrifol am y cartref. Hwy
sydd yn gofalu am y plant a pharatoir bwyd yn
ogystal â chasglu coed tân, plannu a chynaeafur
cnydau grawn a llysiau.
Plastror ty efo cymysgedd o glai a baw gwartheg.
Mae Mmalekhola yn malu grawn.
7
Y dynion ar bechgyn sydd yn aredig y tir ac yn
edrych ar ôl yr anifeiliaid.
Yn fuan ar ôl ir ceiliogod gyhoeddi ei bod yn
gwawrio bydd y bechgyn yn gadael y pentref gydar
gwartheg i dreulior diwrnod yn crwydror wlad yn
chwilio am borfa.
Khefa ai wartheg yn gadael y pentref ar ddechrau
diwrnod arall.
Ntate Mphdolo y ffermwr ar fin cychwyn i chwilio
am rai oi wartheg.
8
Byddant yn dychwelyd fel mae hin nosi ac yn
rhoir gwartheg yn y Kraal (corlan) dros nos.
Mae perchnogaeth anifeiliaid, yn arbennig
gwartheg, yn arwydd o statws a chyfoeth, yn
ogystal â chael eu defnyddio i dynnur gwydd ac i
wrteithior tir. Mae Morena (pennaeth) Lekhotla
yn ddyn pwysig iawn yn y pentref.
Gwartheg y pennaeth yn gwisgo cadwyni crand.
Morena Lekhotla
9
Maen gwrando ar gwynion pobl ac yn penderfynu ar
y ffordd orau i ddatrys problemau. Y rheswm mwyaf
cyffredin dros gwyno yw gwartheg un ffermwr yn
crwydro ar dir ffermwr arall ac yn bwyta yr india
corn ar ffa. Does dim cloddiau na ffensys yn
Lesotho! Ar ddiwedd y prynhawn, a phawb wedi dod
adref or ysgol, maer pentref yn llawn o swn
plant allan yn chwarae. Does dim teledu,
cyfrifiadur na Game Boy iw cadw yn y ty wrth
gwrs!
Wedii wneud o duniau a photeli plastig, maer
car modur hwn yn gweithion gampus.
Chwarae ty bach.
10
Mae canu a dawnsio traddodiadol yn chwarae rhan
flaenllaw ym mywyd dyddiol plant ac oedolion
Boinyatso.
Mae Tsotheho yn chwarae ei Mamokhorong i ddiddori
y gwartheg yn ystod y dydd.
Genethod ifanc yn ymarfer dawns draddodiadol.
Roedd bywyd yn Boinyatso yn ddifyr iawn a daeth
yr wythnos i ben yn rhy gyflym o lawer. Gyda
thristwch mawr y ffarwelwyd âr teulu Mahloane,
Morena Lekhotla a thrigolion y pentref bach hapus
hwn yng nghanol Affrica.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com