Rhyddid Gwybodaeth - PowerPoint PPT Presentation

1 / 15
About This Presentation
Title:

Rhyddid Gwybodaeth

Description:

Mae'n ymdrin a'r sector cyhoeddus yn ei grynswth, gan gynnwys ysgolion ac ... Ymrwymiad o'r brig i weithio mewn ffordd agored. Trefniadau cadw cofnodion da ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:32
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 16
Provided by: acas8
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Rhyddid Gwybodaeth


1
Rhyddid Gwybodaeth
Beth yw Ystyr Hynny Inni?
  • Sesiwn Hyfforddiant Ragarweiniol

Uned Cynnal Llywodraethwyr Sir Caerfyrddin
2
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Pasiwyd ym mis Rhagfyr 2000
  • Daeth ar waith gam wrth gam
  • Daeth ar waith yn llawn ym mis Ionawr 2005
  • Maen ymdrin ar sector cyhoeddus yn ei
    grynswth, gan gynnwys ysgolion ac Awdurdodau
    Addysg Lleol
  • Maen hyrwyddo atebolrwydd a threfn fwy agored o
    weithio

3
Y Ddeddf Yn Gryno
  • Maen berthnasol i awdurdodau cyhoeddus
  • Maen creu hawl statudol i dderbyn gwybodaeth
  • Maen creu eithriadau ir hawl hwnnw
  • Maen darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth
    eithriedig er lles y cyhoedd
  • Maen mynnu fod awdurdodau cyhoeddus yn paratoi
    cynlluniau cyhoeddiadau
  • Maen creur angen i baratoi 2 god ymarfer
    statudol
  • Maen creu comisiynydd gwybodaeth
  • Maen diwygio Deddf Diogelu Data 1998

4
Hawliau Gwybodaeth
  • Bydd cais am wybodaeth yn awr yn cael ei gynnwys
    mewn un o dri hawl gwybodaeth, neu bob un
    ohonynt
  • Ymholiadau diogelu data (neu geisiadau hawl i
    weld gwybodaeth am y gwrthrych) ywr rhai ble y
    maer ymholydd yn gofyn i gael gweld pa wybodaeth
    bersonol y maer ysgol yn ei chadw am yr
    ymholydd.
  • Ymholiadau am reoliadau gwybodaeth amgylcheddol
    ywr rhai syn ymwneud ag aer, dwr, tir,
    safleoedd naturiol, yr amgylchedd adeiledig,
    planhigion ac anifeiliaid, ac iechyd, ac unrhyw
    benderfyniadau a gweithgareddau syn effeithio ar
    unrhyw un or rhain. Gallent felly gynnwys
    ymholiadau am ail-gylchu, mastiau ffon, meysydd
    chwarae ysgolion, meysydd parcio ac ati.
  • Mae ymholiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ymwneud a
    phob math arall o wybodaeth gan gynnwys yr
    ymresymu syn sail ir penderfyniadau ar
    polisiau. Mae pob cais am wybodaeth nad ydynt yn
    geisiadau Diogelu Data neu Hawliau Gwybodaeth
    Amgylcheddol yn geisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid
    Gwybodaeth.

5
Realiti Rhyddid Gwybodaeth
  • Maen cynnwys yr holl wybodaeth a gedwir, waeth
    ymha ffurf y caiff ei chofnodi
  • Cwbl ol-edrychol
  • Gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth
  • Rhaid ymdrin a phob cais ysgrifenedig am
    wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith, heb gynnwys
    gwyliau ysgol
  • Nid oes unrhyw eithriad oherwydd embaras

6
Hawliau newydd ir Cyhoedd
  • Yr hawl i gael gwybod yn ysgrifenedig a ywr
    wybodaeth yn cael ei chadw (dyletswydd i
    gadarnhau neu wadu), ac
  • Os felly, hawl i fynnu fod yr wybodaeth yn cael
    ei rhoi iddynt, ar yr amod
  • Fod yr wybodaeth yn cael ei chadw
  • Unrhyw eithriad syn berthnasol
  • Trothwy cost (y disgwylir iddo fod yn 500)
  • Ceisiadau cynhennus neu ail-adroddol

7
Ceisiadau am Wybodaeth
  • Rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig
  • Rhaid iddynt gynnwys enw a chyfeiriad y sawl syn
    gofyn
  • Rhaid iddynt ddisgrifior wybodaeth y gofynnir
    amdani

Nid oes rhaid i geiswyr gyfeirio at y Ddeddf na
dweud pam maen nhwn gwneud cais am wybodaeth
8
Yr Eithriadau
  • Eithriadau pendant
  • Dim hawl i dderbyn gwybodaeth o dan Ryddid
    Gwybodaeth
  • Maer dyletswydd cyfreithiol i ddarparu cyngor a
    chymorth ir ymholydd yn parhau
  • Eithriadau amodol
  • Hyd yn oed os oes eithriad, maen rhaid i
    ysgolion ei ddatgelu os yw hynny er lles y
    cyhoedd

9
Beth ywr Prawf Lles y Cyhoedd?
  • Mae cysyniad lles y cyhoedd yn fwriadol hyblyg
  • Gall gynnwys
  • Meithrin trafodaeth gyhoeddus ar faterion o bwys
    cyfredol
  • Meithrin atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau ac
    wrth wario arian cyhoeddus
  • Galluogi unigolion i ddeall penderfyniadau ac,
    mewn rhai sefyllfaoedd, cynorthwyo unigolion i
    herior penderfyniadau hynny
  • Cyhoeddi gwybodaeth syn effeithio diogelwch
    cyhoeddus

10
Delio a Cheisiadau
Beth Mae Angen Inni Wybod?
  • Sut i adnabod cais am wybodaeth
  • Fod gennym ddyletswydd i gynnig cyngor a chymorth
  • Ein trefniadau ar gyfer delio a cheisiadau a phwy
    syn gyfrifol amdanynt
  • Fod gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb, heb
    gynnwys gwyliau ysgol
  • Fod rhaid i wybodaeth gael ei darparu yn y ffurf
    y gofynnwyd amdano, ble y mae hynnyn rhesymol
    ymarferol
  • Ei bod yn drosedd droseddol i newid, difwyno,
    blocio, dileu, dinistrio neu guddio gwybodaeth er
    mwyn atal ei datgelu

11
Beth os nad ywr ceisydd yn hapus gydan hymateb?
  • Dylid dilyn trefniadau cwyno mewnol yr ysgol
  • Rhaid delio ar mater o fewn y cyfnod targed ar
    gyfer penderfynu cwynion
  • Hawl i apelio ir comisiynydd gwybodaeth, syn
  • Meithrin cydymffurfiaeth
  • Gorfodir gyfraith
  • Rhoi gwybod ir cyhoedd
  • Hawl i apelio ir tribiwnlys gwybodaeth

12
Rheolaeth Cofnodion
  • Pa wybodaeth ydyn nin ei chadw?
  • Allwn ni gael gafael ar wybodaeth yn rhwydd?
  • Ydyn nin cofnodi gwybodaeth mewn ffordd
    ddarllenadwy?
  • Beth yw ein polisiau cadw?

13
Cofiwch!
  • Efallai y bydd gan drydydd partion hawl i dderbyn
    yr wybodaeth yr ydym yn ei chadw
  • Maen drosedd droseddol i darfu ar gofnodion
    presennol y gwnaed cais iw datgelu
  • Dylech greu cofnodion gan gofio efallai y bydd
    pobl eraill eisiau eu gweld
  • Nid oes unrhyw eithriad oherwydd embaras

14
Yr Allwedd i Ryddid Gwybodaeth
  • Ymrwymiad or brig i weithio mewn ffordd agored
  • Trefniadau cadw cofnodion da
  • Cyfathrebu effeithiol yn yr ysgol

15
Canllawiau a Gwybodaeth Bellach
  • Gwefan y comisiynydd gwybodaeth
  • www.informationcommissioner.gov.uk
  • Gwefan yr Adran Materion Cyfansoddiadol
  • www.dca.gov.uk/foi/index.htm
  • DfES Gwefan y Llywodraeth
  • www.governornet.co.uk
  • DfES Gwefan Teachernet
  • www.teachernet.gov.uk
  • Llinell ffon Llywodraethwyr 0800 0722181
  • www.governorline.info
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com