Damcaniaeth Y Dde Newydd NeoRyddfrydol am Ddatblygiad - PowerPoint PPT Presentation

1 / 13
About This Presentation
Title:

Damcaniaeth Y Dde Newydd NeoRyddfrydol am Ddatblygiad

Description:

Y dirywiad yn nefnyddioldeb y cysyniad o'r Byd Cyntaf, yr ... 'Nod y drefn fyd-eang neo-ryddfrydol (Y Dde Newydd) yw lleihau r l y wladwriaeth' drwy wneud hyn: ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:49
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 14
Provided by: ngflcy
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Damcaniaeth Y Dde Newydd NeoRyddfrydol am Ddatblygiad


1
Damcaniaeth Y Dde Newydd (Neo-Ryddfrydol) am
Ddatblygiad
  • 03d Damcaniaeth Y Dde Newydd
  • Addaswyd o Kirby a Haralambos

2
Y 1990au ar Dde Newydd
  • Yn y 1980au roedd yn ymddangos bod Damcaniaeth
  • Moderneiddio a Damcaniaeth Tanddatblygiad
  • wedi dyddio mewn byd oedd yn newid yn gyflym
    oherwydd
  • Y dirywiad yn nefnyddioldeb y cysyniad or Byd
    Cyntaf, yr Ail Fyd a'r Trydydd Byd o ganlyniad
    i'r amrywiaeth gynyddol rhwng gwledydd y byd sy'n
    datblygu
  • Dirywiad Marcsiaeth mewn cymdeithaseg
  • Cwymp yr Undeb Sofietaidd

3
Enwau Allweddol ac ymresymiadau yn y Dde Newydd
  • Cafodd Milton Friedman a Peter Bauer ddylanwad ar
    bolisi economaidd Thatcheriaeth
  • Pwysleisiodd hyn laissez-faire (gadael grymoedd
    economaidd i wneud fel y mynnont neu bydd yr
    economi yn cael ei niweidio)

a Reaganiaeth
4
Mae'r Dde Newydd yn dweud
  • Bydd ymyrryd yn y farchnad gan y llywodraeth yn
    gwyrdroi'r cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw.
    (E.e. mae rhoi cymorth yn rheolaidd yn tarfu ar
    bris nwyddau a'r cyflenwad llafur)

5
Mae Friedman yn dadlau
  • Na ddylai llywodraethau ymyrryd yn yr
  • economi ac eithrio mewn pedair prif swyddogaeth
  • Amddiffyn
  • Cyfraith a Threfn
  • Darparu gweithfeydd cyhoeddus angenrheidiol nad
    yw'n ddigon proffidiol i fenter breifat eu
    ddarparu
  • Amddiffyniad rhag aelodau o'r gymuned na ellir eu
    hystyried yn unigolion cyfrifol

6
Peter Bauer (economegydd datblygiad o Brydain)
  • Mae Bauer yn cefnogi ystod ehangach o
  • swyddogaethau ar gyfer llywodraethau
  • Darparu iechyd ac addysg sylfaenol
  • Rheolir y gyfundrefn ariannol a chyllidol
    (trethiad/gwariant)

7
Mae Friedman a Bauer yn dadlau
  • Y dylid gadael cynhyrchu, dosbarthu a masnachu
    nwyddau a gwasanaethau yn nwylo cyrff preifat
    (sy'n gwneud elw) yn hytrach na chyrff cyhoeddus
    (sy'n perthyn i'r llywodraeth, ac a reolir
    ganddi)
  • Bydd y farchnad rydd yn ei rheoli ei hun ac yn
    arwain at gynnydd yn y twf economaidd e.e. megis
    yn Hong Kong
  • Bod cynllunio canolog gan y llywodraeth yn methu
    â chodi safonau byw
  • Ond yn ôl y beirniaid nid yw hyn yn wir am Sweden
    a'r
  • hen Undeb Sofietaidd Undeb, a fun llwyddiannus

8
Mae'r Dde Newydd yn dweud nad yw cymorth
rheolaidd yn cynorthwyo datblygiad gan ei fod yn
gwyrdroi'r broses farchnad rydd oherwydd
  • pe bai prosiect datblygu yn ddichonadwy yn
    economaidd yna byddai menter breifat yn fodlon
    buddsoddi ynddo ar sail fasnachol. Os nad yw, ni
    ddylid ymgymryd â'r prosiect.
  • yn aml mae cymorth rheolaidd yn mynd i'r lle
    anghywir ac mae o fudd i bobl gyfoethog y
    gwledydd yn hytrach nag i'r bobl dlawd yno.

9
Effaith Friedman a Bauer
  • Ni chafodd eu safbwynt lawer o gefnogaeth hyd
  • yn oed gan geidwadwyr, gan fod cymorth
  • rheolaidd yn cael ei roi o hyd.
  • Fodd bynnag
  • Mae'n cael ei gysylltu'n fwyfwy â derbyn
    diwygiadau democrataidd ar farchnad rydd. E.e.
    Mae darparwyr cymorth ochrol ac amlochrog yn
    cysylltu eu cymorth i fod yn gyfnewid am amodau
    economaidd penodol megis cymwysiadau
    strwythurol
  • Gelwir cymorth syn cael ei gyfnewid am
  • amodau arbennig yn amodoldeb

10
Problemau a achosir gan amodoldeb
  • Mae'n dangos bod diogelwch cenedlaethol gwledydd
    yn agored i rym allanol (Gall y gwledydd sy'n
    rhoddwyr ddylanwadu ar benderfyniadau strategol)
  • Mae pobl sy'n dlawd iawn yr un mor debygol o fod
    mewn gwledydd gyda chyfundrefnau nad ydynt yn
    cwrdd â'r amodau â'r rhai sydd yn cwrdd â'r
    amodau. (Ond eto ni fyddant yn derbyn cymorth)
  • Maer Unol Daleithiau yn fwyfwy aml yn cysylltu
    cymorth ag amodau diwylliannol a gwleidyddol

11
Gwerthusiad o'r Dde Newydd
  • Mae'r Dde Newydd yn defnyddio'r Teigrod Asiaidd
    fel enghraifft o sut mae'r farchnad rydd yn
    llwyddiannus. Ond mae'n bosibl fod cyd-destun
    diwylliannol a hanesyddol wedi chwarae rhan yn eu
    llwyddiant hefyd
  • Mae economïau Teigr yn dueddol o ddioddef
    argyfyngau economaidd
  • Mae polisïau'r Dde Newydd wedi cynyddu
    anghydraddoldeb o fewn a rhwng gwledydd

12
Mae Chomsky (1999) yn dadlau mai -
  • Nod y drefn fyd-eang neo-ryddfrydol (Y Dde
    Newydd) yw lleihau rôl y wladwriaeth drwy wneud
    hyn
  • Mae grym yn cael ei drosglwyddo o gynrychiolwyr a
    ethol yn ddemocrataidd i gyfeiriad elitau
    ariannol a busnes
  • Gellid ystyried bod amodoldeb cymorth yn
    annerbyniol yn foesol yn ogystal ag yn
    wrthgynhyrchiol

13
Am fwy o wybodaeth am y Teigrod Asiaidd cliciwch
isod i weld cofnod Wikipedia
  • http//en.wikipedia.org/wiki/East_Asian_Tigers
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com