RHAGENW - PowerPoint PPT Presentation

About This Presentation
Title:

RHAGENW

Description:

RHAGENW ... rhagenw – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:23
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 25
Provided by: amaz429
Category:
Tags: rhagenw

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: RHAGENW


1
RHAGENW
2
Beth yw RHAGENW?
  • Mae dau fath o ragenw
  • RHAGENW ANNIBYNNOL
  • RHAGENW DIBYNNOL

3
Rhagenw annibunnol
  • Maer rhagenwau yman gallu cael eu defnyddio ar
    eu pen eu hunain. Gellir eu defnyddio yn lle enw
    e.e.
  • Cwestiwn Pwy biaur llyfr yma?
  • Ateb Hi
  • Gellid rhoi enw person yn ller rhagenw
    annibynnol hi yn yr ateb yma e.e. Sian. Maer
    rhagenw annibynnol HI yn gwneud yn ller enwr
    Sian.

4
Rhagenw annibynnol
  • Y rhagenwau annibynnol yw
  • FI
  • TI
  • FO / HI
  • NI
  • CHI
  • NHW
  • Dysgwch y rhagenwau hyn ar y cof!

unigol
lluosog
5
Rhagenwau dibynnol blaen
  • Maer gair dibynnol yn awgrymu na ellir
    defnyddior gair ar ei ben ei hun. Maer rhagenw
    yman dibynnu ar rywbeth arall. Y rhagenwau
    dibynnol yw
  • FY
  • DY
  • EI
  • EIN
  • EICH
  • EU

6
Rheolaun dilyn y rhagenwau dibynnol
  • Mae FY yn achosi TREIGLAD TRWYNOL
  • pen fy mhen
  • troed fy nhroed
  • coes fy nghoes
  • bys fy mys
  • dannedd fy nannedd
  • garddwrn fy ngarddwrn
  • Sut ydw in esbonior treiglad yma?
  • Treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol fy

7
Beth syn digwydd ar ôl DY?
  • Maer rhagenw dibynnol DY yn achosi TREIGLAD
    MEDDAL
  • coes dy goes
  • trwyn dy drwyn
  • pen dy ben
  • bys dy fys
  • dannedd dy ddannedd
  • garddwrn dy addwrn

8
Beth am EI?
  • Yn y Gymraeg, mae EI yn golygu his a her.
    Y treiglad syn dilyn syn ein galluogi ni i
    wahaniaethu rhwng y ddau. Ystyriwch y frawddeg
    ganlynol
  • Mae ei bensil ar ei gadair. (his)
  • Mae ei phensil ar ei chadair. (her)

9
Beth ywr rheolau gydag EI?
  • Treiglad MEDDAL ar ôl y rhagenw dibynnol EI
    gwrywaidd
  • ei ben, ei fys, ei droed, ei goes, ei ddannedd,
    ei arddwrn
  • Treiglad LLAES ar ôl y rhagenw dibynnol EI
    benywaidd e.e.
  • ei phen, ei choes, ei throed
  • Dim ond P, T a C syn treiglon LLAES

10
Beth am EIN, EICH ac EU?
  • Does dim treiglad ar ôl y rhagenwau lluosog
  • ein pen
  • eich pen
  • eu pen
  • ein traed
  • eich traed
  • eu traed

11
Ble maer gwallau yn y brawddegau?
  • Mae fy brawd a fy tad yn tal iawn. 3
  • Cafodd sian ei penblwydd ddoe. 2
  • Mae dy braich a dy llaw yn budr. 3
  • Dathlodd fy taid ei penblwydd ddoe. 2

12
Mae fy brawd a fy tad yn tal iawn.
fy brawd fy mrawd Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol fy.
fy tad fy nhad Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol fy.
yn tal yn dal Ansoddair yn treiglon feddal yn dilyn yr yn traethiadol.
13
Cafodd sian ei penblwydd ddoe.
sian Sian Angen llythyren fawr i enw priod.
ei penblwydd ei phenblwydd Angen treiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol ei benywaidd.
14
Mae dy braich a dy llaw yn budr.
dy braich dy fraich Angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol dy.
dy llaw dy law Angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol dy.
yn budr yn fudr Ansoddair yn treiglon feddal yn dilyn yr yn traethiadol.
15
Dathlodd fy taid ei penblwydd ddoe.
fy taid fy nhaid Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol fy.
ei penblwydd ei benblwydd Angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol ei gwrywaidd.
16
Adolygur rheolau
  • Treiglad TRWYNOL ar ôl y rhagenw dibynnol blaen
    FY
  • Treiglad MEDDAL ar ôl y rhagenw dibynnol blaen
    DY
  • Treiglad MEDDAL ar ôl y rhagenw dibynnol blaen
    EI gwrywaidd
  • Treiglad LLAES ar ôl y rhagenw dibynnol blaen
    EI benywaidd

17
Rhagenw dibynnol ôl
  • Yn aml gyda rhagenw dibynnol blaen, byddwn yn
    defnyddio rhagenw dibynnol ôl e.e.
  • Fy nghath I
  • Dy gi DI
  • Ei geffyl O
  • Ei physgodyn HI
  • Ein defaid NI
  • Eich mochyn CHI
  • Eu gwartheg NHW
  • Does dim rhaid defnyddio rhain

18
Rhagenw mewnol
  • Weithiau byddwn yn defnyddio rhagenw mewnol yn
    lle rhagenw dibynnol blaen. Ystyriwch y
    brawddegau canlynol
  • Tyrd i fy nhy i heno gt Tyrd im ty i heno
  • Cer i dy wely rwan! gt Cer ith wely rwan!

Dymar rhagenw mewnol m. Maen cymryd lle FY.
Dymar rhagenw mewnol th. Maen cymryd lle DY.
19
  • Gyda EI fe welwch ei bod yn fwy amlwg ein bod
    eisiau defnyddior rhagenw mewnol
  • Fe es i i ei barti gt Fe es i iw barti
  • Aeth Sion i ei gweld gt Aeth Sion iw gweld

Dymar rhagenw mewnol w. Maen cymryd lle EI.
Dymar rhagenw mewnol w. Maen cymryd lle EI.
20
Beth am y lluosog?
  • Maer un peth yn digwydd gydar lluosog
  • Tyrd i ein gweld yfory gt Tyrd in gweld yfory
  • Down i eich gweld heno gt Down ich gweld heno
  • Dewch i eu gweld nhw gt Dewch iw gweld nhw

21
Beth am y treigladau?
  • m DIM TREIGLAD
  • th treiglad meddal
  • w (gwrywaidd) treiglad meddal
  • w (benywadd) treiglad llaes
  • n
  • ch
  • w

DIM TREIGLAD GYDAR LLUOSOG
22
Beth ywr gwahaniaeth?
  • Yr unig wahaniaeth ydy
  • Ar ôl y rhagenw dibynnol blaen FY, mae angen
    TREIGLAD TRWYNOL
  • Ar ôl y rhagenw mewnol m - DOES DIM TREIGLAD

23
Gwallau cyffredin gydar rhagenwau dibynnol
  • Peidio â threiglo ar ôl y rhagenwau dibynnol
    blaen FY, DY, EI(gwr), EI (ben)
  • Treiglo ar ôl y rhagenwau dibynnol lluosog
  • Peidio â defnyddior rhagenw dibynnol blaen o
    flaen enwau a berfau
  • Peidio â defnyddior rhagenwau mewnol

24
Ble maer gwallau?
  • Dywedodd fy brawd bod fin cael benthyg ei car
    yfory. 3
  • Daeth fy taid i ein gweld ni. 2
  • Mae ein ddosbarth yn fy gwylltio. 2
  • Bydd Sion yn dod i gweld fi heno. 1
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com