R - PowerPoint PPT Presentation

About This Presentation
Title:

R

Description:

Title: Slide 1 Author: Martin Last modified by: Welsh Joint Education Committee Created Date: 3/28/2005 11:42:23 AM Document presentation format: On-screen Show – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:51
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 12
Provided by: martin464
Category:
Tags: history | women

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: R


1
Rôl menywod yn yr Almaen Natsaidd
2
Pam roedd y Natsïaid yn canolbwyntio ar addysg
gorfforol ar gyfer merched, a sut roedd hynnyn
cyd-fynd âu gweledigaeth am rôl bwysicaf menywod
mewn cymdeithas?
Hitler yn ysgrifennu yn Mein Kampf Ynglyn ag
addysg merched yn y wladwriaeth Almaenig, maen
rhaid rhoir pwyslais ar addysg gorfforol yn
bennaf dim ond wedi hynny y dylid ystyried
gwerthoedd ysbrydol a meddyliol. Y nod pwysicaf
sydd rhaid ei gofio bob amser wrth addysgu
merched ywr ffaith y byddant rhyw ddydd eisiau
dod yn famau.
3
Yn ôl Hitler, pam y dylai menywod yr Almaen gael
cymaint o blant â phosibl?
Rhan o araith gan Hitler yn Rali Nuremberg, 8
Medi 1934. Byd menyw yw ei gwr, ei phlant ai
thy. Ond ble byddair byd mawr pe byddai neb ar
gael i ofalu am y byd bychan? Mae pob menyw syn
dod â phlentyn ir byd yn cyfrannu ir frwydr
dros fodolaeth ei phobl.
Trafodwch Pa un o brif syniadau Hitler yn
ymwneud âr teulu sydd iw weld yma?
4
Sut roedd Hitler yn annog teuluoedd i gael mwy o
blant? Sut roedd hynnyn cyd-fynd â syniadaur
Natsïaid am y teulu?
Dyfyniad o www.schoolhistory.co.uk Pan ddaeth
Hitler i rym yn 1933, cyflwynodd y Ddeddf er
Hybu Priodas. Roedd y ddeddf yn datgan y
byddair llywodraeth yn rhoi benthyciad o 1000
marc i bob cwpl wedi iddynt briodi, swm oedd yn
gyfwerth fwy neu lai â naw mis o gyflog. Wedi
genedigaeth eu plentyn cyntaf, gallair cwpl gadw
chwarter yr arian. Wedi genedigaeth eu hail
blentyn, gallent gadwr ail chwarter. Byddent yn
cael cadwr trydydd chwarter ar enedigaeth eu
trydydd plentyn ar swm cyfan ar enedigaeth eu
pedwerydd.
5
Sut mae gwybodaeth am Wasanaeth Mamau y Reich yn
cadarnhaur casgliadau y daethoch iddynt eisoes
am y rôl y disgwylid i fenywod ei chyflawni yn yr
Almaen wedi 1933?
Frau Gertrud Scholtz-Klink, arweinydd y menywod
Natsïaidd yn 1938. Yn 1933 aethom ati i sefydlu
Gwasanaeth Mamau y Reich i hyfforddi menywod.
Amcan yr hyfforddiant hwnnw oedd eu haddysgu am
eu dyletswyddau hollbwysig sef magwraeth ac
addysg eu plant au gorchwylion domestig ac
economaidd.
Tasgau Domestig
Tasgau Economaidd
6
Beth maer ffynhonnell hon yn ei ddweud am y
pwysigrwydd a roddai Hitler ar i fenywod ddechrau
cael plant? Pam roedd hynnyn cael ei weld yn
bolisi mor bwysig?
Am wasanaeth clodwiw yn yr ymgyrch yn erbyn
gostyngiad yn y gyfradd geni. Efydd pedwar o
blant Arian chwech o blant Aur wyth o
blant Y Mutterkreuz (Croes y Fam)
7
Beth maer stamp hwn or cyfnod Natsïaidd yn ei
ddweud am y pwysigrwydd a roddwyd ar rôl y fam?
Beth sydd iw weld yma?
Gall fod o ddiddordeb i chi nodi gwisg y
bachgen hynaf nifer y bechgyn a welir oi
gymharu â nifer y genethod
8
Yn ôl y ffynhonnell hon, a fu propagandar
Natsïaid i gynyddur gyfradd geni yn llwyddiannus
erbyn 1936?
Germany 1918-1945, gan Greg Lacey a Keith
Sheppard. Yn 1900 roedd dros ddwy filiwn o
enedigaethau byw bob blwyddyn, ond roedd hynny
wedi gostwng i lai nag un miliwn yn 1933 yn
1936 roedd dros 30 yn fwy o enedigaethau nag a
fu yn 1933.
Faint yn fwy o enedigaethau (fel ffigur) a gafwyd
yn 1936 oi gymharu â 1933?
9
Yn ôl y ffynhonnell hon, nid oedd pob menyw yn
fodlon cydymffurfio â dymuniadaur Blaid
Natsïaidd. Pam hynny?
Weimar and Nazi Germany, gan Stephen Lee,
1996 Ymunodd ychydig o fenywod â gwrthbleidiau
megis y Comiwnyddion neur Blaid Sosialaidd
Ddemocrataidd. Er hynny, gweithio o fewn y system
a wnaeth llawer mewn gwirionedd Roeddynt yn
beirniadur polisi am dri rheswm roedd llawer o
fenywod yn parhau yn rhwystredig roedd menywod
an cael eu hamddifadu o brofiadau oedd yn
hollbwysig iddynt roedd gan fenywod dalentau
arbennig ar gyfer rhai mathau o waith.
10
Roedd y Natsïaid am i fenywod aros gartref a magu
teulu. Edrychwch ar yr ystadegau isod.
Cyfanswm y menywod mewn gwaith yn 1933, 1936 a
1939 1933 11.48 miliwn 1936 11.7
miliwn 1939 12.7 miliwn
Pa mor llwyddiannus oedd polisir Natsïaid o
annog menywod i aros gartref yn ystod y 1930au, a
pham yn eich barn chi mai felly roedd?
11
Mae rhagor o ffynonellau a gwybodaeth iw cael
yn http//www.spartacus.schoolnet.co.uk/GERwomen
.htm Gwybodaeth a ffynonellau http//www.users.gl
obalnet.co.uk/aliandy/naziwomen_2.htm Prawf
Adolygu Rhyngweithiol http//www.schoolhistory.co
.uk/lessons/germany/women.html Diagram Adolygu
Rhyngweithiol
DIWEDD
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com