HY2 - PowerPoint PPT Presentation

1 / 12
About This Presentation
Title:

HY2

Description:

Roedd rhai canolfannau a rhai ymgeiswyr yn amlwg yn dal i edrych am y cwestiynau ... Yn olaf, dylai'r ymgeiswyr roi cynnig ar ddod i gasgliad ynglyn ag i ba raddau ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:52
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 13
Provided by: albert107
Category:
Tags: hy2 | olaf

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: HY2


1
UNED HY2 ASTUDIAETH FANWL
HY2
Er mai uned newydd yw Uned HY2 mae ganddi ychydig
nodweddion syn debyg ir papur astudiaeth fanwl
thematig hyn ac adlewyrchwyd hyn yn yr atebion a
welwyd. Roedd rhai canolfannau a rhai ymgeiswyr
yn amlwg yn dal i edrych am y cwestiynau thematig
hyn yn hytrach nar dull astudiaeth fanwl
ehangach sydd nawr yn gymwys. Cynghorir
canolfannau i baratoi eu hymgeiswyr i fynd ir
afael âr amrediad llawnach o faterion yr
ymdrinnir â hwy yn y manylebau astudiaeth fanwl.
2
HY2
  • O fis Mehefin 2010 byddwn yn tynnur datganiad
    rhagarweiniol ar ddechraur ddau gwestiwn er
    enghraifft
  • Maer ffynonellau yn y cwestiwn hwn yn
    canolbwyntion bennaf ar newid economaidd a
    gwleidyddol ym Mhrydain, 1929 1939

3
CWESTIWN (a)
HY2
Roedd yr Arholwyr yn disgwyl ir ymateb yng
Nghwestiwn (a) fod yn ffeithiol gywir
Dyfarnwyd Lefel 1 os oedd yr ymateb yn
berthnasol Dyfarnwyd Lefel 2 am wybodaeth
hanesyddol, fanwl gywir a phenodol
Yng Nghwestiwn (a) dylai ymgeiswyr anelu at
ysgrifennu un neu ddwy frawddeg ar y mwyaf a
cheisio darparu gwybodaeth benodol. Nid oes
angen mwy na hynny ymatebion hanesyddol, manwl
gywir ywr cyfan sydd ei angen.
4
FFYNONELLAU
HY2
  • Bydd yr Arholwyr yn defnyddior gair
    ffynhonnell yn yr is-gwestiynau b, c, ch a d i
    gyd er mwyn cyfeirio at gynnwys a phriodoliad y
    ffynhonnell syn cael ei darparu.
  • Mae angen i ymgeiswyr fynd ir afael âr
    priodoliadau er mwyn ateb yr is-gwestiynau hyn.
  • Nid ywn ddigon ymdrin â chynnwys y ffynhonnell
    sef dealltwriaeth or ffynhonnell yn yr UG ar
    Safon Uwch.

5
CWESTIWN (b)
HY2
Roedd yr Arholwyr yn disgwyl ir ymateb yng
Nghwestiwn (b) ddefnyddior ffynonellau a hefyd
eu priodoliadau, ynghyd â gwybodaeth yr ymgeiswyr
eu hunain, i egluro pwysigrwydd / arwyddocad y
mater a osodwyd.
Dyfarnwyd Lefel 1 os oedd yr ymateb yn berthnasol
ond yn seiliedig ar ddefnyddio cynnwys y
ffynonellaun unig yn syml, deall yn
unig Dyfarnwyd Lefel 2 4 marc ar gyfer
ymgeiswyr oedd yn amlwg yn defnyddior cynnwys
au gwybodaeth eu hunain a hyd at 6 marc os
oeddent yn defnyddior priodoliad.
Yng Nghwestiwn (b) dylai ymgeiswyr anelu at
ysgrifennu am sut maer priodoliadau yn
cynorthwyo i egluro arwyddocad a phwysigrwydd
digwyddiad neu ddatblygiad a cheisio darparu
gwybodaeth benodol ou gwybodaeth eu hunain am y
testun.
6
CWESTIWN (c)
HY2
Roedd yr Arholwyr yn disgwyl ir ymateb yng
Nghwestiwn (c) ystyried y ffynonellau a hefyd eu
priodoliadau er mwyn mesur eu dibynadwyedd ar
gyfer ymholiad penodol.
Dyfarnwyd Lefel 1 os oedd yr ymateb yn berthnasol
ond yn seiliedig ar ddefnyddio cynnwys y
ffynonellaun unig. Dyfarnwyd Lefel 2 os oedd
sylwadau dilys dibynadwy ar un neu ddwy
ffynhonnell ond bod y dull yn fecanistig gyda
rhywfaint o gyfeirio at yr ymholiad
gosod. Dyfarnwyd marciau Lefel 3 i ymgeiswyr
oedd yn amlwg yn defnyddio cynnwys a phriodoledd
y ddwy ffynhonnell i drafod dibynadwyedd yng
nghyd-destun yr ymholiad gosod.
7
CWESTIWN (c)
HY2
  • Yng Nghwestiwn (c) dylai ymgeiswyr anelu at
    ysgrifennu am sut maer cynnwys ar priodoliadau
    yn helpu i egluro dibynadwyedd y ffynonellau ar
    gyfer ymholiad penodol dylai fod cyfeiriad clir
    at awduraeth y ffynonellau yn eu cyd-destun.
  • Dylai ymgeiswyr anelu at ysgrifennu am
    ddibynadwyedd nid defnyddioldeb a dylent osgoi
    defnyddior ymadrodd Maer ffynhonnell hon yn
    ddefnyddiol oherwydd .... yn eu hatebion ir
    cwestiwn hwn.
  • Dylai ymgeiswyr anelu at ddefnyddiou sgiliau
    gwerthuso ffynonellau er mwyn ymdrin â
    ffynonellau penodol a faint o werth maent yn ei
    rhoi ar ddibynadwyedd y ffynonellau ar gyfer
    ymholiad penodol.
  • Yn rhy aml, bydd yr ymatebion ar ddibynadwyedd yn
    rhy gyffredinol, gan ddibynnu ar ddysgu ymatebion
    ar y cof a allai fod yn berthnasol i unrhyw
    ffynhonnell o fath arbennig (e.e. cartwn, cofnod
    dyddiadur, ysgrif).

8
CWESTIWN (ch)
HY2
Roedd yr Arholwyr yn disgwyl ir ymateb yng
Nghwestiwn (ch) ystyried y ddwy ffynhonnell a
hefyd eu priodoliadau i fesur i ba raddau yr oedd
un ffynhonnell yn cefnogi neun gwrthddweud y
dehongliad a ddarparwyd gan y llall.
  • Ni ddylai myfyrwyr edrych yn fecanyddol am
    ffynhonnell i gefnogi a gwrthddweud y dehongliad.
    Maen bosibl y bydd y ffynhonnell a ddefnyddir
    yn gwneud y canlynol
  • Cefnogir dehongliad yn llawn
  • Bydd llawer yn gwrthddweud y dehongliad yn llwyr
    neu
  • Gallant gynnig cefnogaeth gyfyngedig /
    gwrthddweud

9
CWESTIWN (ch)
HY2
  • Dyfarnwyd Lefel 1 os oedd yr ymateb yn berthnasol
    ond yn seiliedig ar ddefnyddio cynnwys y
    ffynonellaun unig.
  • Dyfarnwyd Lefel 2 os oedd sylwadau dilys ar
    ddehongliad a phriodoledd un ffynhonnell gyda
    rhywfaint o ymgais i ddefnyddio CYNNWYS A
    PHRIODOLIAD yr ail ffynhonnell er mwyn nodi pam
    ei bod yn cefnogi neun gwrthddweud y dehongliad.
    Roeddem yn caniatáu i fyfyrwyr gynnig eu hymateb
    yn seiliedig ar eu dealltwriaeth or dehongliad.
  • Dyfarnwyd marciau Lefel 3 i ymgeiswyr oedd yn
    amlwg yn gallu rhoi sylwadau ar ddehongliad
    penodol a phriodoliad un ffynhonnell gydag ymgais
    glir i ddefnyddior ffynhonnell arall a nodi pam
    ei bod yn cefnogi neun gwrthddweud y dehongliad.
  • Yng Nghwestiwn (ch) dylai ymgeiswyr anelu at
    ddeall y dehongliad a roddir neu eu fersiwn hwy
    ohono ac yna ysgrifennu am sut maer cynnwys ar
    priodoliadau yn helpu i egluro sut mae un
    ffynhonnell yn cefnogi neun gwrthddweud y
    dehongliad. Nid oes angen hanesyddiaeth yma.

10
CWESTIWN (d)
HY2
Roedd yr Arholwyr yn disgwyl ir ymateb yng
Nghwestiwn (d) gynnig gwerthusiad ffynonellau
penodol o RAI or ffynonellau au priodoliadau i
fesur i ba raddau maent yn helpu neu i ba raddau
mae ganddynt gyfyngiadau o ran deall yr
astudiaeth fanwl UG fel cyfanwaith. Yn
is-gwestiwn (c) canolbwyntir yn glir ar y sgìl
gwerthuso ffynonellau o ran barnu dibynadwyedd.
Efallai y byddai o fudd canolbwyntio gwerthusiad
ffynonellau ar y tair ffynhonnell syn
weddill. Bydd yr Arholwyr yn disgwyl gweld
datganiadau cadarnhaol ynglyn â sut maer
ffynonellau neu gymaint ohonynt ag syn briodol,
yn helpur myfyriwr i ddeall y testun. Mae gan y
ffynonellau hyn, naill ain unigol neu fel
casgliad, rinweddau, cryfderau a gwerth o ran
deall peth or astudiaeth fanwl a astudiwyd.
11
CWESTIWN (d)
HY2
  • Dyfarnwyd Lefel 1 os oedd yr ymateb yn berthnasol
    ond yn seiliedig ar ddefnyddio cynnwys y
    ffynonellaun unig yn syml, treilliad syn
    dangos yr hyn maer ffynonellaun ei ddweud.
  • Dyfarnwyd Lefel 2 os oedd sylwadau dilys oedd yn
    trafod cryfderau a chyfyngiadau rhai pob un or
    ffynonellau trwy bwysleisior cynnwys, priodoliad
    a chyd-destun hanesyddol ehangach.
  • Dyfarnwyd marciau Lefel 3 i ymgeiswyr oedd yn
    amlwg yn gallu defnyddio eu sgiliau ar gyfer
    gwerthuso ffynonellau i ymdrin â chryfderau a
    chyfyngiadau rhai / pob un or ffynonellau a
    osodwyd yn y cyd-destun hanesyddol a dod i
    gasgliad ar ddefnyddioldeb y ffynonellau a
    ddarparwyd.

12
CWESTIWN (d)
HY2
Yng Nghwestiwn (d) dylai ymgeiswyr anelu at
ymdrin ag o leiaf 3 ffynhonnell (nid oes angen
mwy) a thrafod y ffactorau cadarnhaol yn ogystal
â chyfyngiadau amlwg y ffynonellau. Mae angen i
ymgeiswyr drafod gwerth y ffynhonnell mewn
cyd-destun hanesyddol ehangach gyda phwyslais ar
y darlun ehangach, yr astudiaeth fanwl. Rhaid i
ymgeiswyr ddangos eu bod yn deall y testun ac yn
gallu dod i gasgliad ar pun ai bod y ffynhonnell
o ddefnydd wrth gynorthwyo eu gwybodaeth au
dealltwriaeth or testun. Mae angen iddynt
gyflwynou gwybodaeth au dealltwriaeth or
cyd-destun hanesyddol ehangach beth arall oedd
yn digwydd, pa ffactorau, digwyddiadau a
phersonoliaethau eraill oedd yn rhan or cyfan
nad ydynt yn ymddangos yn y ffynonellau a
gyflwynwyd. Yn olaf, dylair ymgeiswyr roi
cynnig ar ddod i gasgliad ynglyn ag i ba raddau
maer ffynonellau a ddarparwyd wedi eu helpu i
ddeall y darlun ehangach sef yr astudiaeth fanwl
gyfan.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com