AS Uned 1 Caffael Diwylliant Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 5 Rolau Priodasol - PowerPoint PPT Presentation

1 / 21
About This Presentation
Title:

AS Uned 1 Caffael Diwylliant Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 5 Rolau Priodasol

Description:

Astudiodd Mansfield a Collard (1989), parau newydd briodi, a chawsant ond ... Sylweddolodd Jane Wheelock fod diweithdra ymhlith gwrywod yn arwain at ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:32
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 22
Provided by: dbo72
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: AS Uned 1 Caffael Diwylliant Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 5 Rolau Priodasol


1
AS Uned 1 Caffael Diwylliant Teuluoedd a
Diwylliant Wythnos 5 Rolau Priodasol
2
Amcanion
  • Ar ôl gweld y gyfres hon o sleidiau, dylech fod
    yn ymwybodol o
  • Y persbectif rolau newidiol, sy'n awgrymu bod yna
    gynnydd mewn parau priod cymdeithasgar
  • Effaith cyflogaeth a diweithdra ar raniad llafur.
  • Sut mae menywod yn dal i wneud y rhan fwyaf o'r
    tasgau cartrefol.
  • Sut mae technoleg a safonau byw yn cael effaith
    ar rolau.
  • Sut mae perthnasau pwer ac awdurdod yn dal i
    weithio mewn ffyrdd sydd o fudd i ddynion.
  • Syniadau am y 'sifft trifflyg' trwy gydnabod
    gwaith emosiwn.

3
Cyflwyniad
Mae tasgau i fenywod yn parhau i fod, yn bennaf,
gwaith ty a gwaith gofalu.
Mae 9 allan o bob 10 menyw sy'n gweithio'n llawn
amser yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith yn y
cartref (cylchgrawn Top Sante)
Serch hyn, mae'r darlun tywyll hwn yn gwellan
araf.
4
Persbectif Rolau Newidiol
Mae'r persbectif rolau newidiol yn tybio bod
rolau rhywiaethol bellach yn cael eu rhannu yn
raddol o fewn y teulu.
Y dadleuwyr mwyaf enwog yw Willmott a Young
(1973) sy'n sôn am symudiad i gyfeiriad y 'teulu
cymesurol.
Mae cymesuredd yn disgrifio ymdeimlad o
gydbwysedd rhwng dyletswyddau'r gwr/gwraig
neur ddau bartner.
Dynion yn gwneud mwy yn y ty
Parau syn fwy cymdeithasgar
Gwragedd fel enillwyr cyflog
5
Y Dystiolaeth dros Rolau Newidiol
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cymdeithas yn
derbyn bod rolau yn gallu bod yn gyfnewidiadwy
Erbyn hyn, mae gan 7 allan o bob 10 menyw o
oedran gweithio swydd, ac mae hanner y mamau gyda
phlant o dan bump oed yn gweithio.
Er syndod, mae 36 o barau yn dweud mai'r dyn
yw'r prif ofalwr (Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal)
6
Mamau sy'n Economaidd Weithredol
Mae'n ymddangos bod gwaith cyflogedig yn rhoi
pwer i fenywod o fewn y teulu.
Ar gyfartaledd, mwyaf o oriau mae menyw yn
gweithio y tu allan i'r cartref, mwyaf mae'n
ymddangos bod y gwaith yn y ty yn cael ei rannu.
Gan fod llawer o fenywod yn gweithio oriau
anghymdeithasol (gydar nos ac ar y penwythnos)
mae dynion yn gorfod gofalu yn fwyfwy am eu
plant.
7
Technoleg a Safonau Byw
Er bach yw cyfraniad dynion, maer baich tasgau
cartrefol ar fenywod yn cael ei leihau gan
ffactorau eraill
Mae danfon nwyddau a brynwyd ar-lein yn arbed
amser a gwaith, yn enwedig i fenywod.
Mae technolegau megis microdonnau, rhewgelloedd a
bwydydd wedi'u prosesu yn arbed amser.
Mae bwyta allan ac archebu prydau parod yn
rhyddhau menywod o goginio a golchi'r llestri.
8
Ffactorau Eraill sy'n Hybu Rolau Newidiol
Yn ôl Coltrane ac Ishii-Kuntz (1992), roedd
genedigaethau diweddarach yn peri i ddynion wneud
ychydig yn fwy o waith ty.
Gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r ffaith bod
menywod sydd â gyrfaoedd, yn aml yn oedi cyn cael
plant
Mae'r gwelliant mewn safonau byw yn golygu bod
teuluoedd yn gallu cyflogi glanhäwyr, mamaethod,
au pairs ayyb i wneud y tasgau cartrefol.
Mae astudiaethau o barau sy'n cyd-fyw yn awgrymu
eu bod yn fwy cyfartal na pharau priod.
9
Y Dystiolaeth yn Erbyn Rolau Newidiol
10
Rhaniad Gwaith fesul Oriau
11
Teuluoedd Dwy Yrfa
Yn ôl Brayfield (1992), hyd yn oed mewn teuluoedd
dwy yrfa, y menywod oedd â'r cyfrifoldeb mwyaf am
y tasgau cartrefol.
Yn ôl Rapoport a Rapoport (1970), roedd eu
partneriaid a'u plant yn dal i weld menywod
proffesiynol fel "gwragedd a mamau.
Dydy'r ffaith bod parau yn gwneud pethau gyda'i
gilydd ddim yn golygu o angenrheidrwydd bod yr un
yn gwneud gymaint o waith â'r llall. (Ann Oakley).
Yn ogystal, cyhyd â bod dynion sy'n gwneud gwaith
ty yn ei wneud "i helpu eu gwragedd", maent yn ei
wneud am y rheswm anghywir.
12
Prinder Amser Hamdden gan Wragedd
Mae hyn yn golygu 15 awr yn llai o amser hamdden
yr wythnos.
Mae gan wragedd lawer llai o amser hamdden ac
amser rhydd oherwydd y baich gwaith domestig.
Meddai David Morley (1992) mae menywod yn gweld
y cartref fel man gweithio, a dynion fel man
hamdden.
Dywed Arlie Hochschild (1990), bod menywod a oedd
yn gweithio'n llawn amser yn treulio 3 awr y dydd
yn gwneud gwaith ty, tra bod eu gwyr/partner yn
treulio cyfnod sy'n cyfateb i 17 munud.
13
Gwaith ty
Yn draddodiadol, gwelir gwaith ty fel gwaith i
fenywod.
Tybir rhywsut ei fod yn fwy naturiol ac addas
i fenywod i wneud gwaith ty i gymharu â dynion
Mae yna dybiaeth, hyd yn oed, y dylai menywod ei
fwynhau, a theimlo ei fod yn foddhaus.
Roedd y llun hwn mewn cylchgrawn diweddar gan
Tesco yn gwahodd menywod i ymgymryd y dasg o
lanhaur ty yn flynyddol.
14
Ann Oakley
Ann Oakley (1974), oedd y gymdeithasegwraig
ffeministaidd gyntaf i roi ystyriaeth o ddifrif i
waith ty.
Gan ddefnyddio sampl o 40 gwraig ty, sylweddolodd
eu bod wedi eu dieithrio gan eu gwaith i'r un
graddau a gweithwyr ffatri.
Roedden nhwn mabwysiadu'r un strategaethau
ymdopi â gweithwyr ffatri.
Ond yn bell o feithrin ymdeimlad o chwaeroliaeth,
roedd menywod yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i
fod yn wragedd ty da
15
Ffactorau Cymdeithasol ynghylch Gwaith Ty
Astudiodd Mansfield a Collard (1989), parau
newydd briodi, a chawsant ond ychydig o
dystiolaeth fod yna gymesuredd ymhlith parau
ieuengach.
Nid yw'n ymddangos bod yna wahaniaeth sylweddol
mewn rhaniad llafur yn ôl y dosbarth cymdeithasol
Teimlai Sallie Westwood, yn ei hastudiaeth o
weithwyr hosanwaith, bod rolau priodasol
Asianaidd yn gyfartal iawn.
Fodd bynnag, rhaid cymryd gofal rhag creu
ystrydebau ysgubol.
16
Gwaith Emosiwn 'Sifft Trifflyg'
Dywedodd Anthony Giddens (1992),fod menywod, yn
fwy aml, yn chwilio am 'loches mewn byd
dideimlad drwy fod yn fwy didwyll yn emosiynol
ac yn rhywiol.
Dywed Mansfield a Collard (1989) bod gwragedd
newydd briodi yn teimlo'n siomedig dros ben
oherwydd y diffyg dwyochredd emosiynol yn eu
priodasau.
Cynhaliodd Duncombe a Marsdsen (1993),
gyfweliadau gyda 40 o barau croenwyn a oedd wedi
bod yn briod am 15 mlynedd, gan ddarganfod bod
menywod yn nodweddiadol yn profir hyn a alwon
nhw yn unigrwydd emosiynol.
17
Dylanwadau Economaidd
Mae rhai ymchwilwyr wedi bod yn gofyn a yw
diweithdra ymhlith gwrywod yn dylanwadu ar
gyfranogiad gwrywod yn y cartref?
Yn ôl McKee a Bell (1984), roedd dynion ifanc
diwaith yn gwneud hyd yn oed llai o waith yn y ty
na phan oedden nhwn gweithio.
Gwelodd Lydia Morris (1985), yn ei sampl, bod
rolau yn dueddol o gael eu 'hail-drafod' yn dilyn
diweithdra'r gwryw.
Sylweddolodd Jane Wheelock fod diweithdra ymhlith
gwrywod yn arwain at newidiadau cadarnhaol yn
rolau rhyw.
18
Pwer ac Awdurdod
Mae Stephen Edgell (1980), yn teimlo bod gwneud
penderfyniadau yn beth anghyfartal, gyda'r dynion
yn gwneud y penderfyniadau pwysig
Mae Jessie Bernard yn sôn am briodas 'ei eiddo ef
a'i heiddo hithau,' sy'n dangos yr anghyfartaledd
o ran pwer sy'n bodoli.
Dyfeisiodd Christine Delphy yr ymadrodd
'treuliant gwahaniaethol i esbonio pwer dynion
mae gan fenywod llai o arian personol.
19
Casgliadau
  • Mae yna dystiolaeth i gefnogi'r rhagdybiaeth
    'rolau newidiol'.
  • Mae'n ymddangos bod gwaith economaidd menywod yn
    ffactor allweddol mewn hybu cydraddoldeb mewn
    rolau priodasol.
  • Mae'r Dyn Newydd yn fwy gofalgar a chefnogol,
    ond ychydig o dystiolaeth yn unig sydd ar gael i
    gadarnhau ei fod yn bodoli.
  • Fodd bynnag, mae menywod yn dal i wneud cyfran
    annheg o'r tasgau domestig.
  • Mae Oakley yn dadlau bod llawer o astudiaethau
    cymdeithasegol ynghylch 'cydraddoldeb' mewn
    priodas yn dechrau gyda'r dybiaeth mai 'gwaith i
    fenywod', rhywsut, yw glanhau a gofal plant beth
    bynnag.

20
Casgliadau (parhad)
  • Maer ffeministiaid yn teimlo bod yr
    anghydraddoldeb hwn mewn gwaith ty yn digwydd
    oherwydd anghydbwysedd o ran pwer.
  • Hefyd, er bod llawer o barau yn gwneud pethau
    gyda'i gilydd, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn
    golygu bod yr un yn gwneud gymaint o waith â'r
    llall.
  • Mae yna anghydbwysedd amlwg yn ansawdd a
    chyfanswm yr amser hamdden sydd gan bartneriaid
    benywaidd.
  • Mae pwer ac awdurdod gwrywod yn cael ei
    adlewyrchu drwy elfennau patriarchaidd yn y
    teulu.
  • Mae'r rhain yn cynnwys gwneud penderfyniadau,
    treuliant gwahaniaethol a rheolaeth arian.

21
Diwedd y Cyflwyniad
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com