Title: Dysgu i Arwain ein Bywydau
1Dysgu i Arwain ein Bywydau
A wnaeth bywyd yn Rwsia wella rhwng 1905 a 1914?
Sgil Empathi, Cyfathrebu
GCaD Cymru Rwsia 1900-1924
2Heddwch a Thawelwch, 1906
Atgynhyrchwyd trwy garedigrwydd Casgliad David
King, Llundain
3- Maniffesto Hydref
- Addo rhyddid barn ar hawl i ffurfio pleidiau
gwleidyddol - Sefydlu Dwma (senedd)
- Ni fyddai unrhyw ddeddfau newydd heb ganiatâd y
Dwma
4Beth fyddair bobl yman ddisgwyl ar ôl
addewidion y Tsar ym Maniffesto Hydref?
Atgynhyrchwyd trwy garedigrwydd Casgliad David
King, Llundain
5A wnaeth bywyd wella i bobl Rwsia? 1905-1914
6Cyfraith a Threfn
- Penodwyd Peter Stolypin fel Prif Weinidog gan y
Tsar i adfer cyfraith a threfn yn Rwsia. - Er bod y trefi wedi setlon gyflym ar ôl 1905
parhaodd cefn gwlad yn ansefydlog. - Roedd gan Stolypin enw am fod yn galed, ac fe
sefydlodd lysoedd milwrol a allai rhoi dyn ar
brawf yn y fan ar lle ai ddedfrydu i
farwolaeth! - Daeth rhaff y crogwr i gael ei alw yn dei
Stolypin!
7Cyfraith a Threfn parhad . . .
- Parhaodd yr Heddlu Cudd (Okhrana) yn weithgar
iawn. - Roedd yn rhaid i bob Rwsiad gario pasport mewnol
a chofrestru gydar heddlu os oeddent yn teithio
oddi cartref. - Er bod rhyddid barn wedii ganiatáu ir bobl ar
wasg ym 1905, dirwywyd papurau newyddion yn drwm
am argraffu erthyglau oedd yn siomir llywodraeth
ac weithiau caent eu sensro.
sensoriaeth
8Y Dwmâu
- Ym 1906 roedd y Duma cyntaf yn gyfyngedig iawn
oherwydd ni allai basio deddfau na phenodi
gweinidogion, na rheoli meysydd cyllid na
diogelwch y wlad. - Roedd etholiadau yn achos cynnen gan fod un
cynrychiolydd ar gyfer 2000 uchelwr ond dim ond 1
ar gyfer 90,000 gweithiwr. - Er gwaethaf hyn galwodd y Dumâu cynnar am
newidiadau radical yn cynnwys addysg am ddim a
mwy o hawliau sifil. Roedden nhw hefyd yn galw am
ragor o dir ir werin. - Teimlair Tsar dan fygythiad a chaeodd y 2 Dwma
cyntaf ar ôl ychydig wythnosaun unig
9Y Dwmâu parhad . . .
Y 3ydd ar 4ydd Dwma
- Aildrefnwyd y 3ydd Dwma gan Stolypin i roi rhagor
o gynrychiolaeth ir dosbarthiadau cyfoethog ac
ir uchelwyr. - Er gwaethaf hyn, roedd y Dwma yn dal i fod yn
awyddus i wneud newidiadau. Parhaodd o 1907 hyd
1912 gan wneud newidiadau ir fyddin, y llynges a
rhoi yswiriant damweiniau i weithwyr. - Ni chafodd y 4ydd Dwma fawr o gyfle i wneud
argraff cyn ir Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau.
10Diwygiadau Amaethyddol
Pwyntiau positif
- Gallair werin brynu lleiniau o dir au cyfuno i
wneud rhandir. - Bwriad hyn oedd annog amaethu mwy effeithiol a
chynhyrchiol. Cafwyd y cynhaeaf gorau erioed ym
1913. - Gallai rhai gwerinwyr brynu lleiniau eu cymdogion
yn ogystal. - Daeth rhai ffermwyr o werinwyr yn Kulaks
gwerinwyr cyfoethog yn berchen tir. - Cyflwynwyd benthyciadau banc gan y Llywodraeth i
alluogi gwerinwyr i brynu tir.
11Diwygiadau Amaethyddol
Pwyntiau negyddol
- Aeth gwerinwyr a werthodd eu tir yn llafurwyr
tlotach byth yn crwydror wlad yn chwilio am
waith. - Anogodd y llywodraeth 4,000,000 or werin i
ymfudo ar hyd y Rheilffordd Traws-siberaidd. Pan
gyrhaeddon nhw yn y dwyrain roedd y tir gorau
wedii gymryd a dychwelodd eu hanner i Orllewin
Rwsia gyda dim eiddo o gwbl.
12Diwygiadau Diwydiannol
Pwyntiau positif
- O 1906 hyd 1914 roedd FFYNIANT diwydiannol yn
Rwsia. - Cynyddodd allgynhyrchion diwydiannol Rwsia 100 a
gwneud Rwsia y pedwerydd cynhyrchydd glo a haearn
mwyaf yn y byd. - Defnyddiair ffatrïoedd dechnegau masgynhyrchu
cyfoes a dim ond meysydd olew Texas allai gymharu
â meysydd olew Rwsia.
13Diwygiadau Diwydiannol
Pwyntiau negyddol
- Ychydig iawn enillodd y gweithwyr or Ffyniant
yma. - Mewn gwerth real roedd cyflogau cyn ised â 1903.
Golygai hyn bod y gweithwyr bron â methu prynur
bara angenrheidiol i oroesi. - Cynyddodd prisiau ac arhosodd amodau gwaith yn
wael iawn. - Roedd gweithwyr ar streic yn wynebu triniaeth arw
gan y fyddin a chafodd llawer eu lladd neu eu
niweidio.
14Tasg
Eich tasg yw cymryd arnoch rôl Newyddiadurwr
Rwsaidd ym 1914. Maen rhaid i chi ysgrifennu
erthygl i bapur newyddion yn Rwsia yn pwyso a
mesur y newidiadau wnaeth y Tsar i fywydau pobl.
Maen rhaid i chi ddewis ysgrifennu i naill ai
papur sydd o blaid y Tsar neu papur syn ei
erbyn. Dylai hyn gael ei adlewyrchu yn eich dull
o ysgrifennu!
15Amser i Bwyso a Mesur y Newidiadau!
Tynnwch lun o glorian anferth a gwnewch nodyn byr
o newidiadau positif ar un ochr a newidiadau
negyddol ar yr ochr arall. Faint, ydych chin
meddwl, newidiodd pethau i bobl Rwsia?
Cofiwch, nid yw rhagor o newidiadaun beth gwell
bob amser. Meddyliwch am yr ansawdd yn ogystal
âr nifer!