Title: MI WN MAI BYW YW 'MHRYNWR GWYN -
1MI WN MAI BYW YW 'MHRYNWR GWYN - Llawenydd gaf o
wybod hyn! Mae'n fyw - yr Hwn fu ar y pren Mae'n
fyw, i mi'n dragwyddol Ben Mae'n fyw, i mi'n
dragwyddol Ben.
2Mae'n fyw, daw gras o'i gariad Ef Mae'n fyw i
eiriol yn y nef Mae'n fyw i borthi'm henaid
gwyw Mae'n fyw, a chymorth parod yw Mae'n fyw,
a chymorth parod yw.
3Mae'n fyw i'm cynnal i yn awr Mae'n fyw, i'm
goncro angau gawr Mae'n fyw, i baratoi im
le Mae'n fyw, i'm dwyn yn saff i'r ne' Mae'n
fyw, i'm dwyn yn saff i'r ne'.
4Mae'n fyw, gogoniant iddo 'nawr Mae'n fyw, yr un
Gwaredwr mawr Llawenydd gaf o wybod hyn, Mi wn
mai byw yw 'Mhrynwr gwyn! Mi wn mai byw yw
'Mhrynwr gwyn!
Samuel Medley (1738-99) cyf. Dafydd M. Job