Newid Addysgiadol yn y DU: Gweithgaredd Llinell Amser - PowerPoint PPT Presentation

1 / 4
About This Presentation
Title:

Newid Addysgiadol yn y DU: Gweithgaredd Llinell Amser

Description:

Etholwyd Llafur Newydd' dan arweiniad Tony Blair, ond mae'n parhau i ddiwygio ... Mae Adroddiad Robbins yn ymestyn y ddarpariaeth brifysgol i fwy o bobl ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:41
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 5
Provided by: ngflcy
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Newid Addysgiadol yn y DU: Gweithgaredd Llinell Amser


1
Newid Addysgiadol yn y DU Gweithgaredd Llinell
Amser
  • Cynlluniwyd y gweithgaredd hwn i hybu dysgu
    gweledol a chinesthetig
  • Agraffwch neu llungopïwch sleidiau 2 a 3 ar bapur
    maint A4.
  • Mae'r rhain yn cynnwys blychau gyda digwyddiadau
    arwyddocaol yn hanes diweddar addysg
  • Argraffwch neu llungopïwch sleid 4 ar bapur A3
  • Dylai myfyrwyr dorri allan y blychau a'u gludo ar
    y llinell amser i roi arolwg o newid addysgiadol
    (cyflymder a digwyddiadau)
  • Dylent addurno'r posteri er mwyn gwella'u
    diddordeb gweledol.
  • Dylent ychwanegu pwyntiau a dyddiadau eraill a
    ddaeth i'r amlwg drwy eu dysgu a'u hymchwil eu
    hun.

2
Erbyn 1979 Mae'r rhan fwyaf o blant mewn ysgolion
cyfun, ond nid pob un. Mae rhai ysgolion gramadeg
yn dal i fodoli.
Deddf Addysg Butler 1945 Mae'n cyflwyno addysg
uwchradd am ddim ar gyfer pob plentyn. Mae'r
arholiad 11 yn dethol ar gyfer naill ai ysgol
ramadeg neu ysgol uwchradd fodern
Deddf Diwygio Addysg 1988 Mae llywodraeth y Dde
Newydd yn cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol lle
mae'n rhaid i bob plentyn ei astudio. Dyma restr
o'r pynciau a'r hyn sydd rhaid ei addysgu.
Nid yw ysgolion cyfun yn goresgyn gwahaniaethau
dosbarth am eu bod yn setio ac yn ffrydio
myfyrwyr yn ôl eu gallu.
1979 Mae llywodraeth Geidwadol Dde Newydd
Margaret Thatcher yn cael ei hethol. Mae hyn yn
newid athroniaeth addysg i un lle nad yw
cydraddoldeb yn bwysig, ond mae'r economi
marchnad rydd yn cymryd drosodd.
Deddf Diwygio Addysg 1988 Cyflwynwyd Tasgau Asesu
Safonol (TASAU) ac mae plant yn cael eu profi pan
yn 7, 11 a 14 oed, a thrwy arholiadau TGAU
Cynllun Cymorth Lleoedd 1980 Mae plant dawnus yn
derbyn arian i fynychu ysgolion preifat a
breintiedig ac o ganlyniad, mae hyn yn ychwanegu
at incwm ysgolion annibynnol
Mae'r ysgolion gramadeg yn llenwi gyda phlant
dosbarth canol gyda doniau y dosbarth gweithio yn
cael eu gwastraffu.
Cylchlythyr 10/65 Mae'r llywodraeth Lafur yn
gorchymyn ir holl awdurdodau Addysg gynllunio
ysgolion cyfun fel y bydd gan bob plentyn yr hawl
i'r un cyfleoedd
DDA 1988 Mae ysgolion yn cael rheoli eu harian eu
hun ac mae'r pwer yn cael ei gymryd oddi wrth
Awdurdodau Addysg Lleol a'i roi i lywodraethwyr
ysgol.
3
2000 Newid arholiadau lefel 'A' i fodiwlau 6 uned
gydag UG ar gyfer pobl ifanc 17 oed
1996 Cyflwynir arholiadau CGCC (GNVQ) i hybu
pynciau ymarferol a chymhwysol mewn ysgolion
1979 Amcan Deddf Addysg gyntaf llywodraeth
Thatcher yw diddymu'r deddfau sy'n hybu ysgolion
cyfun
1994 Cyflwynir arholiadau gyda chanlyniadau A ar
lefel TGAU ar gyfer yr ymgeiswyr mwy galluog
1951 Cyflwynir arholiadau TAG a lefel A ar gyfer
disgyblion mewn ysgolion gramadeg
1973 Cyflwynir arholiadau Tystysgrif Addysg
Uwchradd (TAU) ar gyfer disgyblion mewn ysgolion
uwchradd modern
1988 Cyflwynir TGAU i gymryd lle'r TAG a'r TAU ar
gyfer pobl ifanc 16 oed
1997 Etholwyd Llafur Newydd dan arweiniad Tony
Blair, ond mae'n parhau i ddiwygio addysg mewn
modd sy'n debyg i'r llywodraeth Ceidwadol
flaenorol
1973 Maer oedran gadael ysgol yn codi i 16
mlwydd oed ar gyfer pob plentyn
1963 Mae Adroddiad Robbins yn ymestyn y
ddarpariaeth brifysgol i fwy o bobl sefydlir
Colegau Polytechnig (a elwir Brifysgolion
Metropolitan erbyn hyn)
1999 System addysg Cymru a'r Alban yn datganoli
oddi wrth Lloegr gydar gwahaniaethau rhyngddynt
yn dod yn fwy amlwg
1993 Mae llawer o ysgolion (Grant Uniongyrchol)
yn cael hawlio cyllid gan y llywodraeth, yn
hytrach na gan yr awdurdod addysg leol.
1990 Mae benthyciadau 'ychwanegol' i fyfyrwyr yn
achosi i'r system grantiau myfyrwyr leihau yn
raddol
4
1945
Llinell Amser Newid Addysgiadol
2006
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com