Maseru Prifddinas Lesotho - PowerPoint PPT Presentation

1 / 8
About This Presentation
Title:

Maseru Prifddinas Lesotho

Description:

... yn falch o gyrraedd ei wely yn y Lancer's Inn ar ei noson gyntaf yn Lesotho. Cafodd ei ddeffro'n gynnar y bore wedyn gan swn traffig ar Kingsway, prif stryd ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:105
Avg rating:5.0/5.0
Slides: 9
Provided by: BEC589
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Maseru Prifddinas Lesotho


1
MaseruPrifddinas Lesotho
2
Maseru
Gydar haul wedi mynd i lawr ar tymheredd yn
disgyn roedd y teithiwr blinedig yn falch o
gyrraedd ei wely yn y Lancers Inn ar ei noson
gyntaf yn Lesotho. Cafodd ei ddeffron gynnar y
bore wedyn gan swn traffig ar Kingsway, prif
stryd Maseru. Maen ymddangos fod y Basotho yn
canu eu cyrn ar yr esgus lleiaf! Gydai
phoblogaeth o 400,000 Maseru ywr brifddinas ar
dref fwyaf yn Lesotho o bell ffordd. Ceir
amrywiaeth o adeiladau sylweddol ar hyd stryd
Kingsway banciau, swyddfeydd a siopau modern.
Mae ymwelwyr yn cael eu denu gan siâp rhyfedd y
siop Basotho Hat. Yma gwerthir casgliad eang o
grefftaur wlad.
3
Canran isel o boblogaeth Maseru syn debygol o
brynu yn siopau crand Kingsway. Y siopau bach
lleol, y marchnadoedd ar masnachwyr stryd sydd
yn bodloni mwyafrif or bobl.
4
Allan ir wlad
Mae gan y mynydd hwn le pwysig iawn yn hanes
Lesotho oherwydd yma y sefydlwyd y wlad gan y
brenin Mosoeshoe y Cyntaf ym 1824. Wrth law mae
Qiloane, mynydd yr het. Ar ôl gadael strydoedd
swnllyd Maseru mae ymwelydd yn sylweddoli yn fuan
fod Lesotho yn wlad hardd iawn. Fel Cymru mae
Lesotho yn wlad fynyddig, ond mae copa mynyddoedd
Maloti a mynyddoedd Drakensberg ddipyn uwch na
chopaon uchaf Eryri.
Roedd treulio bore ym mhrysurdeb y ddinas yn hen
ddigon, a braf oedd cael mynd am dro ar ôl cinio
i weld y mynydd Thaba Bosiu ar wlad o gwmpas.
5
(No Transcript)
6
Lesotho ywr unig wlad drwyr byd sydd âi holl
dir dros 1,000 metr uwchlaw lefel y môr. Yn
wahanol i Gymru mae sychder yn broblem fawr yn
Lesotho a does ryfedd oherwydd gall misoedd fynd
heibio heb ddiferyn o law. Mae hyn yn achos
pryder i bawb, oherwydd os nad ywr ffermwyr yn
gallu hau india corn ar ddechraur gwanwyn
(Medi/Hydref) ni fydd bwyd ir teulu yn ystod y
gaeaf. Uwd india corn (papa) yw bwyd arferol y
Basotho, maent yn ei fwyta i ginio ac i swper.
7
I bob cyfeiriad gwelir gyrroedd o wartheg a
phreiddiau o ddefaid a geifr tenau yn chwilio am
welltyn glas. Bechgyn ifanc fel rheol sydd yn
gofalu amdanynt.
8
Yma ac acw gellir gweld pentrefi traddodiadol
iawn yr olwg, gydau tai bach crwn (rondhabole) a
sgwâr (heisi).
Roedd y cip olwg hwn ar gefn gwlad Lesotho wedi
hogir awydd i gyrraedd pen y daith.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com