gan Des Quinn a Martin Williams - PowerPoint PPT Presentation

1 / 5
About This Presentation
Title:

gan Des Quinn a Martin Williams

Description:

Roedd yn un o'r miloedd o ddynion ifanc a aeth o Gymru i ymladd ym ... fore 12 Gorffennaf pan gafodd y goedwig ei chlirio o'r diwedd gan filwyr o'r 21ain Adran. ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:42
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 6
Provided by: MartinW161
Category:
Tags: des | fore | gan | martin | quinn | williams

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: gan Des Quinn a Martin Williams


1
Yr eiddoch yn gywir Bert
gan Des Quinn a Martin Williams
2
Yn anffodus wyddon ni ddim pwy oedd Bert. Roedd
yn un or miloedd o ddynion ifanc a aeth o Gymru
i ymladd ym meysydd Ffrainc a Fflandrys. Maer
bathodyn ar ei gap yn dweud ei fod yn aelod or
Gatrawd Gymreig ac roedd rhan bwysig gan
fataliynau o Gymru ym Mrwydr Mametz Wood ym mis
Gorffennaf 1916. Gallai Bert fod yn un or milwyr
hynny.
Ffotograff trwy garedigrwydd M. Williams
Byddai gan Bert stôr o wybodaeth am hanes y
milwyr o Gymru ar y Ffrynt Gorllewinol ar amodau
erchyll a brofodd y milwyr hynny wrth fyw ac
ymladd yn y ffosydd.
3
Os y byddai Bert wedi bod ym Mametz Wood,
meddyliwch beth fyddai ganddo iw ddweud ar fore
12 Gorffennaf pan gafodd y goedwig ei chlirio or
diwedd gan filwyr or 21ain Adran. Roedd y
milwyr o Gymru wedi bod yn ymladd yn erbyn yr
Almaenwyr o fewn y goedwig er 7 Gorffennaf. Ar 7
Gorffennaf yn unig collodd y 38ain Adran
(Gymreig) 400 o filwyr wrth i ynnau mawr a gynnau
peiriant yr Almaenwyr eu torri i lawr wrth iddynt
symud ymlaen. Collodd tri theulu ddau frawd yr un
yn ystod yr ymosodiad ar y goedwig y diwrnod
hwnnw. Ar 10 Gorffennaf gwnaed ymosodiad
uniongyrchol arall yn erbyn y goedwig, a
thrachefn collwyd llawer o filwyr, wediu saethu
gan ynnau peiriant a thaniadau cyfeillgar o
ynnau mawr Prydain a gwympodd ymysg y milwyr wrth
iddynt symud ymlaen i gyfeiriad y coed.
4
Ar 11 Gorffennaf, bu ymosodiadau eraill, ar
ymylon gogleddol a dwyreiniol y goedwig y tro
hwn. A hwythau wedi ymlâdd yn hollol, rhaid oedd
tynnu llawer bataliwn allan or frwydr a rhoi
rhai or milwyr wrth gefn yn eu lle. Fel y
digwyddodd ar 10fed, dechreuodd gynnau mawr
Prydain danio a bu raid ir milwyr o Gymru
gysgodi mewn tyllau siel am oriau cyn mynd ymlaen
âu hymosodiad, a hynny yn erbyn gwrthwynebiad
ffyrnig o dur Almaenwyr. Colledion y 38ain Adran
ym Mametz Wood
Swyddogion Milwyr Eraill Lladdwyd
46 556
Clwyfwyd 138
2,668 Ar goll 6
579 Cyfanswm
190 3,803 Pam y
gwnaeth milwyr y 38ain Adran barhau i ymosod ar
goedwig Mametz er iddynt ddioddef colledion
enfawr?
5
Dychmygwch beth fyddai gan Bert iw ddweud am yr
ymosodiad ar Mametz Wood, sut y byddain teimlo a
sut y byddain disgrifio ei brofiadau. Oherwydd
sensoriaeth ni fyddain gallu ysgrifennu llawer
am yr hyn a ddigwyddodd, ond beth os y byddai
wedi ysgrifennu llythyr manwl gartref, neu
dudalen o ddyddiadur, nad oedd bwriad ganddo iw
postio. Byddai llawer o gardiau a llythyraun
cael eu cadw heb eu postio, au rhoi i aelodau
or teulu ac anwyliaid gan ffrindiau pan fyddent
yn mynd adref ar wyliau. Chi yw Bert.
Ysgrifennwch lythyr, neu gyfres o nodiadau o
ddyddiadur, yn disgrifior paratoadau ar gyfer yr
ymosodiad ar Mametz Wood, ar ymosodiad ei
hun. Sut y gwnaeth eich bataliwn baratoi ar
gyfer y frwydr? Beth roeddech chin ei
ddisgwyl? Sut roeddech chin teimlo cyn y
frwydr a phan welsoch y milwyr cyntaf yn mynd
ymlaen? Beth ddigwyddodd yn ystod y frwydr? Pa
ddigwyddiadau syn sefyll yn y cof? Sut
roeddech chin teimlo ar 12 Gorffennaf pan ddaeth
y frwydr i ben?
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com